Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Diolch, Llywydd. Credaf efallai y byddai'n ddefnyddiol i amlinellu ychydig o bwyntiau yn y fan yma. Fel y dywedwyd yn y cynnig, mae'r comisiynydd wedi mynegi nad yw'n gallu gweithredu yn y mater sy'n ymwneud â'r gŵyn a wnaed gan Joyce Watson, nac unrhyw gwynion cysylltiedig, ac mae ef wedi gofyn am gomisiynydd dros dro i gael ei benodi. Mae darpariaeth ar gyfer comisiynydd dros dro wedi ei gynnwys yn y Bil, ac felly ni fydd yn cael unrhyw effaith ar swydd y comisiynydd. Yn yr achos hwn, ar ôl ystyriaeth ofalus, penderfynodd y comisiynydd mai dyma oedd y dewis gorau i ymdrin â'r mater.
Roedd y comisiynydd yn glir yn ei ddatganiad ei fod wedi derbyn rhagor o gwynion, ac mae ef wedi dod i'r casgliad na ddylid gweithredu yn y mater hwn. A gellir caniatáu penodi comisiynydd dro dros o fewn y ddeddfwriaeth. Nid oes dim yn y Bil sy'n atal ystyried cwyn pan fo cwyn debyg wedi ei gwrthod.