5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr — Y wybodaeth ddiweddaraf am y Mesurau Arbennig

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 6 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:26, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

O ran yr achosion unigol a grybwyllwyd gennych, ni allaf wneud sylw, ond nid wyf yn mynd i geisio dweud bod arosiadau hir eithafol am driniaeth yn dderbyniol. Rwyf wedi egluro nad yw hyn yn dderbyniol ac mae angen gwelliant nid yn unig yn y gogledd, ond ym mhob rhan arall o'n system gofal iechyd os bydd pobl yn aros yn rhy hir. Rwy'n ailadrodd unwaith eto bod yr ombwdsmon wedi dweud mewn modd gwrthrychol bod y system gwynion yn gwella. Efallai na welir hynny yn eich ffeil gwaith achos, ond dyna'r hyn a ddywedodd yr ombwdsmon ei hun mewn modd gwrthrychol.

O ran eich cwestiwn am amserlen, yn ei hanfod yr un cwestiwn ydyw a'r un ateb a roddais i Helen Mary yn gynharach. Mae'r fframwaith gwella a gyhoeddais o'r blaen yn mynd at fis Medi 2019. Nid wyf am roi amserlen ar gyfer pryd y daw mesurau arbennig i ben oherwydd bydd yn rhaid i hynny fod ar sail y cyngor a'r asesiad gwrthrychol a gawn gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru fod cynnydd digonol a chyson wedi bod ac y dylai'r bwrdd iechyd ddod allan o fesurau arbennig.

Os gwnaf fel yr ydych yn fy annog i heddiw, yna gallai hynny fod yn gyfleus i mi neu rywun arall yn y Llywodraeth, ond gallai fod y peth cwbl anghywir i'w wneud ar gyfer pobl sy'n gweithio yn ein gwasanaeth iechyd a phobl sy'n dibynnu arno. Byddaf yn gwneud yr hyn sy'n iawn ar gyfer y gwasanaeth iechyd, hyd yn oed os yw'n golygu bod yn rhaid i chi a minnau gytuno i anghytuno.