Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Yr uwch-dîm rheoli—. Ydy, mae'n eithaf trawiadol gweld nifer y staff newydd sydd wedi eu penodi, ond mae'r hen staff yn dal yno. Felly, mae gennych chi'r tîm rheoli hwn sy'n chwyddo, chwyddo, chwyddo, ac eto, mae Ysbyty Llandudno wedi gorfod cau wardiau—gallan nhw ddim cael staff. Ni fu unrhyw welliant mewn cynllunio byr neu ganolig neu hirdymor o ran denu nyrsys. Ydych chi wedi gweld nifer y swyddi gwag bellach ar gyfer nyrsys ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr? Gall pethau fod yn well ar bapur mewn rhai meysydd, ond, a dweud y gwir, fel Aelod Cynulliad, nid yw fy llwyth gwaith yn llai ac mae'r gofid i'm hetholwyr, os rhywbeth, yn cynyddu. Felly, y cwbl y buaswn i'n ei ddweud wrthych chi yw bod angen ichi edrych yn fanylach ar rai o'r pethau eraill.
Ond, y sylw a wnaeth Michelle Brown yn gynharach, ac a wnaeth Helen hefyd—allwch chi ddim dyfalu pryd efallai y byddwch chi'n diddymu'r mesurau arbennig oddi ar y bwrdd hwn. Bu'r mesurau ar waith yn hirach nag y buont erioed yn unrhyw un o bedair rhan y Deyrnas Unedig, dair blynedd a mwy. Fe wnaethoch chi sôn ym mis Mehefin am ddeunaw mis ac rydych chi'n dal i ddweud deunaw mis. Felly, mae'n edrych bron fel y bydd hi'n etholiad nesaf arnom ni cyn inni hyd yn oed ei ystyried.
A allwch chi ddweud wrth y Senedd hon ac i'r Aelodau sydd yma pryd ydych chi, sy'n Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n Weinidog sydd mewn Llywodraeth cenedl, pryd ydych chi'n gweld y bwrdd iechyd hwn yn dod allan o fesurau arbennig? Ond, yn bwysicach, pryd ydych chi'n rhagweld sefyllfa lle gwnaed gwelliannau gwirioneddol? Bydd gennyf wastad lwyth gwaith, rwy'n sylweddoli hynny, ond pryd fyddwn ni fel Aelodau'r Cynulliad a'm hetholwyr a'ch cleifion chi yn dweud mewn gwirionedd, 'wyddoch chi beth? Mae pethau wedi gwella'? Rhowch amserlen inni, os gwelwch yn dda.