Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Rwy'n cytuno. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Orllewin Clwyd am wneud y pwyntiau hyn a hefyd yn ddiolchgar iddo am roi teyrnged nid yn unig i waith swyddogion a rhai eraill a'r grŵp arbenigol a'r grŵp trawsbleidiol, sydd i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni hyn, ond hefyd i waith fy rhagflaenydd. Rwy'n credu bod yr wythnos hon yn wythnos anodd i lawer ohonom mewn llawer iawn o ffyrdd gwahanol. Pan olynais Carl yn y portffolio hwn, gwyddwn fy mod yn cymryd yr awenau mewn darn o waith yr oedd yn credu'n gryf ynddo, ac roedd wedi gweithio'n eithriadol o galed i wireddu llawer o'r rhaglenni yr ydym wedi bod yn eu trafod ac yn eu disgrifio'r prynhawn yma. Yn sicr, rwy'n awyddus iawn, y prynhawn yma, i fynegi ar goedd fy niolch parhaus iddo ef am yr hyn a wnaeth fel Aelod yma ac yn Weinidog yn y lle hwn. Rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonom yn cofio hynny mewn rhyw fodd yr wythnos hon hefyd, yn ein dull ni ein hunain.
O ran y materion ehangach am gofebion a godwyd gan yr Aelod dros Orllewin Clwyd, rwy'n cytuno ag ef; rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gydnabod, yn y ffordd a ddisgrifiodd ef, yr aberth a wnaeth y cenedlaethau a fu. Rwyf eisoes wedi disgrifio, wrth ateb pwyntiau a godwyd gan Dai Lloyd, ei bod yn rhaid inni gydnabod beth yw gwir ystyr rhyfel a beth yw rhyfel mewn gwirionedd, ac i ni ymochel rhag syrthio i'r hyn sy'n gamgymeriad yn fy marn i, sef rhoi coel ar y wedd fwy rhamantus o ryfel, ond ein bod yn cydnabod realiti yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd i bobl a chymunedau a theuluoedd.