6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cofio ein Lluoedd Arfog a Chyflawni ar gyfer Cymuned ein Lluoedd Arfog

– Senedd Cymru am 4:28 pm ar 6 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:28, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Eitem 6 ar yr agenda yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus—cofio ein lluoedd arfog a chyflawni ar gyfer cymuned ein lluoedd arfog. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus—Alun Davies.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn goffadwriaeth ingol o'r rhai a fu'n ymladd yn ddewr ym mrwydrau'r gorffennol i ddiogelu ein rhyddid a'n ffordd o fyw. Dwy fil o a deunaw yw blwyddyn coffáu canmlwyddiant diwedd y rhyfel byd cyntaf. Bu farw mwy na 700,000 o filwyr Prydeinig, gan gynnwys, wrth gwrs, lawer o Gymru. Cynhelir digwyddiadau allweddol ledled y wlad i nodi'r garreg filltir arbennig hon.

Rwy'n siŵr y bydd llawer wedi gweld ac wedi clywed am ymgyrch 'Diolch' y Lleng Brydeinig Frenhinol i nodi blwyddyn olaf canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf. Mae'r ymgyrch yn ceisio cofio nid yn unig y rhai a gollodd eu bywydau ond hefyd y rhai a luniodd y byd yr ydym yn byw ynddo heddiw. Codwyd silwetau tawel mewn llawer o gymunedau ledled Cymru yn goffâd gweledol o'r gwrthdaro a'r etifeddiaeth sydd wedi dylanwadu ar ein gwlad ers cenedlaethau, ac, wrth gwrs, y rhai hynny na ddaethant adref.

Eleni, rydym hefyd wedi dathlu canmlwyddiant sefydlu'r Llu Awyr Brenhinol, gyda nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y wlad. Gallwn i gyd ymfalchïo yn swyddogaeth y Cymro mawr hwnnw David Lloyd George, a oedd yn Brif Weinidog ar adeg ei sefydlu. Trwy ein rhaglen Cymru'n Cofio Wales Remembers, byddwn yn parhau i nodi digwyddiadau arwyddocaol yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Ni ddylem byth anghofio'r aberth a wnaed yn y gwrthdaro hwnnw.

Ac rwyf hefyd yn cydnabod, Dirprwy Lywydd, y pwyntiau a wnaed yn gynharach gan yr Aelod dros Orllewin Clwyd ar swyddogaeth y ffiwsilwyr yn y dwyrain canol ac ar feysydd  eraill y gad. Rwy'n cydnabod ein bod weithiau yn canolbwyntio'n unig ar y ffrynt gorllewinol, ond peth iawn a phriodol yw ein bod yn cydnabod pawb a fu'n ymladd yn y gwrthdaro erchyll hwnnw ar ba faes bynnag y buon nhw'n ymladd.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:30, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid inni gofio hefyd am y rhai a aberthodd mewn gwrthdrawiadau yn dilyn y rhyfel hwnnw. Yn ystod yr ail ryfel byd, roedd gan y Llu Awyr Brenhinol gyfraniad pwysig yn nhroad y rhyfel yn Ewrop—ei ymgyrch mwyaf arwyddocaol oedd Brwydr Prydain. Collodd tua 70,000 o staff yr RAF eu bywydau yn amddiffyn ein gwlad a'n pobloedd. Rwyf hefyd yn siŵr bod y rhan fwyaf ohonoch chi wedi gweld y lluniau graffig o Bluff Cove yn ystod rhyfel y Falklands yn yr 1980au cynnar. Collodd aelodau o luoedd arfog Prydain gan gynnwys, unwaith eto, lawer o Gymru, eu bywydau neu gael eu hanafu'n ddifrifol yn ystod y gwrthdaro hwnnw. Ni wnawn byth anghofio'r rhai a aberthodd eu bywydau na'r rhai a oroesodd, rai ohonynt ag anafiadau difrifol, i amddiffyn y rhyddid yr ydym yn ei fwynhau heddiw.

Yn gynharach eleni, roedd Llywodraeth Cymru yn falch o allu rhoi £185,000 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog cenedlaethol, a gynhaliwyd yn Llandudno. Roedd yn llwyddiant enfawr, gyda mwy na 100,000 o bobl yn mynd i weld y digwyddiad. Mae digwyddiadau fel y rhain yn gyfle i bobl Cymru ddangos eu gwerthfawrogiad a'u diolch i aelodau ein lluoedd arfog ar hyn o bryd ac yn y gorffennol.

Ym mis Ebrill, pan gyhoeddais fy natganiad ar gymorth i'r lluoedd arfog yng Nghymru, dywedais fod cynnydd aruthrol wedi bod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ran rhoi cymorth i'r gymuned hon. Heddiw, hoffwn gymryd peth amser i rannu'r cynnydd hwnnw.

Mae'n iawn inni dalu'n ôl i'r rhai sydd wedi rhoi cymaint i ni a dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymuned y lluoedd arfog a bydd yn parhau i wneud hynny. Rydym yn cefnogi GIG Cymru i Gyn-filwyr gan roi bron £700,000 bob blwyddyn i gynnal treialon gwaith ymchwil i helpu i wella problemau iechyd meddwl. Mae'r sefydliad yn gweithio mewn partneriaeth â Newid Cam, sy'n cynnig rhaglen mentora cymheiriaid, gan helpu cyn-filwyr i gael cymorth iechyd hanfodol a chymorth cyfannol arall, gan gynnwys cymorth o ran camddefnyddio sylweddau a chyngor ar dai a chyflogaeth.

Yn y grŵp arbenigol lluoedd arfog ym mis Medi, clywsom am waith Newid Cam a'r gwerth cymdeithasol a ddaw yn sgil buddsoddi mewn gwasanaethau i gefnogi pobl sy'n agored i niwed yn ein cymunedau, gan eu helpu i drawsnewid eu bywydau a'u cadw ar y llwybr iawn. Mae'n rhaid imi ddweud hefyd fy mod yn ddiolchgar i'r holl bobl hynny sy'n gweithio gyda ni ar y grŵp arbenigol lluoedd arfog. Hoffwn ddiolch hefyd i'r grŵp trawsbleidiol yn y Cynulliad Cenedlaethol am y gwaith y maen nhw'n ei wneud yn cefnogi ac yn cynnal y gwaith ar gyfer cymuned y lluoedd arfog.

Rwy'n falch bod y llwybr carlam ar gyfer gofal eilaidd ac arbenigol yn parhau i ffynnu. Mae'r adborth gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gadarnhaol iawn. Yn y flwyddyn 2017-18, gwariodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru £77,000 i gefnogi'r llwybr.

Rydym yn cefnogi cynllun nofio am ddim i aelodau presennol a chyn-aelodau'r lluoedd arfog, ac yn 2017-18, cofnodwyd bron 9,000 o sesiynau nofio. Mae'r cynllun yn cefnogi iechyd a lles ymhlith cymuned ein lluoedd arfog ac yn galluogi pobl i ddod at ei gilydd mewn amgylchedd sy'n gefnogol i adsefydlu a lles.

Rwy'n awyddus i gefnogi cyn-filwyr drwy ein cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau. Yn 2016-17, cafodd 308 o gyn-filwyr driniaeth i sicrhau bod eu lles corfforol a meddyliol yn cael sylw.

Cyhoeddwyd strategaeth draws-Lywodraeth yn ddiweddar ar gyfer ymgynghoriad ar unigrwydd ac arwahanrwydd, gyda strategaeth derfynol i'w chyhoeddi erbyn mis Mawrth nesaf. Fy mwriad i yw y bydd hyn hefyd yn cynnwys gwaith gyda chyn-filwyr ac ar eu cyfer nhw. Ymgynghorir ag elusennau milwrol, oherwydd fy mod yn dymuno sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i gymuned y lluoedd arfog. Byddwn yn gweithio gyda ffederasiynau teulu'r lluoedd arfog i benderfynu pa gymorth y gellir ei roi i aelodau presennol a'u teuluoedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr heriau arbennig sy'n wynebu plant aelodau'r lluoedd arfog. Rwy'n falch bod cronfa bwrpasol o £250,000 wedi ei chyfeirio tuag at roi cymorth addysgol i blant y lluoedd arfog, ac mae 27 o ysgolion wedi cael cyllid yn y flwyddyn ariannol hon. Dirprwy Lywydd, y llynedd, parhawyd i gefnogi myfyrwyr drwy gynllun profedigaeth y lluoedd arfog. Mae hwn yn rhoi hwb mawr i fywydau'r plant hynny sydd wedi colli eu rhieni yn y lluoedd arfog, gan roi rhywbeth yn ôl i'r rhai a gollodd gymaint.

Y llynedd, rhoddodd Llywodraeth Cymru £233,000 hefyd drwy'r cynllun ymrwymiad addysg bellach ac uwch i gefnogi pobl sy'n gadael y lluoedd arfog i astudio ac ennill cymwysterau addysg bellach ac uwch. Byddwn yn parhau â'r ymrwymiad hwn yn 2019, gan alluogi i gyn-aelodau'r lluoedd arfog newid eu gyrfa ac ennill cyflogaeth.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:35, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Rydym yn ymwybodol bod rhai cyn-filwyr yn cael trafferth i gael tai i fyw ynddyn nhw. Felly, i ategu ein llwybr cyfeirio tai, rydym wedi datblygu cardiau cyngor a thaflenni ar gyfer cyn-filwyr sydd yn anffodus yn cysgu ar y stryd. Mae'r rhain yn cynnwys manylion cyswllt porth y cyn-filwyr, sy'n cynnig pwynt cyswllt pwysig wrth geisio am dŷ, yn ogystal â'r ystod eang o wasanaethau eraill sydd ar gael.

Roeddwn wrth fy modd o glywed am brosiect Tŷ Ryan yn Wrecsam, a'r gwaith da a wneir gan brosiect hunan-adeiladu'r cyn-filwyr. Mae hwn yn cefnogi cyn-filwyr i ennill sgiliau adeiladu gwerthfawr a lle i fyw yn un o'r tai y maen nhw eu hunain wedi helpu i'w adeiladu. Mae cael eich cartref eich hun yn hanfodol ar gyfer eich lles ac wrth sicrhau cyflogaeth, ac am gynifer o resymau ymarferol yn ogystal â'n lles cyffredinol.

Pan fo cyn-aelodau'r lluoedd arfog yn dod gerbron y system cyfiawnder troseddol, mae angen rhoi cefnogaeth iddyn nhw a rhoi pob cyfle iddyn nhw adsefydlu. Mae prosiect SToMP neu Cefnogaeth gyda Phontio i Bersonél Milwrol yn sicrhau bod y rheini sydd yn y ddalfa yn cael cymorth arbenigol yn ystod eu carcharu ac wrth eu rhyddhau. Gall cyn-filwyr fod ag anghenion cymhleth, ac mae prosiectau fel hyn yn sicrhau bod yr anghenion hyn yn cael eu nodi a'u darparu ar eu cyfer. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae'r tîm wedi gweithredu eu llwybr system gyfan ledled holl garchardai Cymru, lle'r anogir cyn-filwyr i wella eu haddysg a dysgu sgiliau bywyd gwerthfawr i'w helpu i addasu i fywyd sifil.

Y llynedd, llwyddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gael cyllid y cyfamod i benodi swyddogion cyswllt lluoedd arfog i ddarparu cymorth cyson i gyn-filwyr a'u teuluoedd ledled yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru. Rwyf wedi clywed yn uniongyrchol am y gwaith gwerthfawr y maen nhw'n ei wneud, fel trefnu diwrnod i gael cipolwg ar y byd adeiladu, a oedd yn rhoi cyfle i filwyr sy'n gadael gwasanaeth a chyn-filwyr gwrdd â chyflogwyr yn y sector adeiladu a pheirianneg sifil.

Mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog hefyd wedi rhoi canllawiau'r cyfamod ar waith drwy'r rhan fwyaf o'r awdurdodau lleol yng Nghymru. Arweiniodd hyn at godi ymwybyddiaeth a hyfforddiant i staff fel y gallant nodi a rhoi sylw i anghenion y gymuned hon, gan gynnwys adolygu polisïau tai a chymorth a chyngor ar gyflogaeth, camddefnyddio sylweddau ac addysg. Ar draws awdurdodau lleol y gogledd, mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog wedi datblygu gwefan ranbarthol a fydd yn cynnwys gwybodaeth am gyfleoedd am waith gwirfoddol, digwyddiadau cymunedol a chymorth gyda defnyddio gwasanaethau. Bydd y mentrau hyn yn helpu'r gymuned hon o ran ei hiechyd a'i lles, ond hefyd yn cefnogi aelodau'r gymuned trwy amseroedd anodd yn eu bywydau.

Dirprwy Lywydd, roedd y cyllid hwn i fod dod i ben yn 2019, ond rwy'n awyddus iawn i'r gwaith da barhau. Dyna pam yr wyf i heddiw yn cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith am ddwy flynedd ymhellach o 2019 gyda phecyn ariannu o £500,000. Dylai hyn ganiatáu i'r gwasanaethau a gaiff y gymuned o gyn-filwyr i gael eu hymgorffori mewn cymorth prif ffrwd gan awdurdodau lleol yn y blynyddoedd i ddod.

Rwy'n hynod falch o ddweud bod Cymru wedi gwneud yn well na'r disgwyl o ran sicrhau arian y cyfamod: cafodd £1.37 miliwn ei ddyfarnu i brosiectau yng Nghymru yn ystod 2017-18, gan ddarparu cyfle inni adeiladu ar y gwasanaethau a roddwn i gymuned ein lluoedd arfog. Ddoe, roeddwn yn bresennol mewn cyfarfod o fwrdd cyfamod a chyn-filwyr gweinidogol y DU, lle cytunodd holl wledydd y Deyrnas Unedig ar strategaeth newydd ar gyfer cyn-filwyr. Yng Nghymru, byddwn yn cyflwyno strategaeth newydd pan fyddwn wedi cwblhau'r ymarfer cwmpasu presennol i nodi bylchau mewn gwasanaethau. Bydd canfyddiadau'r adroddiad hwn ar gael yn y gwanwyn.

Gan gydnabod bod gan gyflogaeth ran ganolog yn y pontio llwyddiannus i fywyd sifil, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i ddatblygu llwybr cyflogaeth. I ategu'r llwybr, rydym yn gweithio hefyd gyda Busnes yn y Gymuned i ddatblygu pecyn cymorth i gyflogwyr. Cynlluniwyd y pecyn cymorth i gyflogwyr i'w helpu i ddeall y sgiliau a'r priodoleddau y gall cyn-filwyr eu cynnig i ddarpar gyflogwyr. Bydd y dogfennau pwysig hyn yn llywio ac yn cyflwyno dewisiadau i filwyr sy'n gadael y lluoedd arfog a chyn-filwyr i gael gwaith ystyrlon. Hoffwn gymryd y cyfle heddiw i gyhoeddi y bydd y llwybr cyflogaeth yn cael ei lansio yn yr ychydig ddyddiau nesaf, a chadarnhau y byddwn yn lansio pecyn cymorth y cyflogwyr cyn toriad y Nadolig.

Yn y gwanwyn, bydd y Llywodraeth hon hefyd yn darparu adroddiad blynyddol ar y cynnydd a wnaed yn cyflawni ein hymrwymiadau ar gyfer y gymuned hon. Rwy'n gobeithio y bydd gwaith y Llywodraeth hon wedi rhoi hyder i'r Aelodau ein bod yn cefnogi cymuned y cyn-filwyr. Rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen, ond mae'n amlwg fod yna lawer mwy i'w wneud eto. Rwy'n siŵr y byddwn ni, gan weithio ar y cyd â'n partneriaid a Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig, yn parhau i wneud gwahaniaeth i'r gymuned hon. Hoffwn orffen y datganiad hwn gan ailadrodd yn syml eiriau'r Lleng Brydeinig Frenhinol: diolch i chi.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:40, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, fel y dywedwch chi, ni ddylem byth anghofio'r aberth a wnaed yn y rhyfel mawr 1914-18 a'r gwrthdrawiadau sydd wedi bod ar ôl hynny. Roeddech chi'n cyfeirio at y Falklands, gan sôn am Bluff Cove. A gaf i roi teyrnged, ac a fyddech chi'n ymuno â mi i roi teyrnged, i Dr Steven Hughes, sef swyddog meddygol catrodol gydag ail fataliwn y gatrawd barasiwtwyr yn ystod y Falklands? Ef oedd yr un a gerddodd trwy'r dyfroedd oer yn Bluff Cove gyda grŵp o wirfoddolwyr i achub bywydau llawer iawn ar y diwrnod ofnadwy, ofnadwy hwnnw. Yn drist iawn, bu farw ym mis Mai eleni. Cafodd ef ei hun ddiagnosis o Anhwylder Straen Wedi Trawma milwrol ryw 12 mlynedd wedi'r gwrthdaro hwnnw. Cefais y pleser a'r fraint o gydweithio ag ef yn ystod yr ymgyrch aflwyddiannus hwnnw, yn anffodus, i brofi bod angen seibiant preswyl a darpariaeth adsefydlu ar gyn-filwyr â phroblemau iechyd meddwl milwrol cymhleth a phroblemau eraill cysylltiedig yng Nghymru. Rwy'n gwybod fy mod i wedi eich holi chi eto'r llynedd am safbwynt cyfredol Llywodraeth Cymru ar adolygu'r angen hwnnw am ddarpariaeth breswyl. Tybed a fyddai modd ichi ddweud wrthym pa waith sydd o bosibl wedi dilyn ers hynny, leiaf oll er cof am Dr Steven Hughes, a oedd yn feddyg ac yn filwr a oedd yn deall yn iawn pa mor enbyd o fawr oedd yr angen hwnnw yng Nghymru a thu hwnt.

Rydych yn cyfeirio at GIG Cymru i Gyn-filwyr, ac rydych yn sôn am swm o £700,000. Rwy'n deall bod GIG Cymru i Gyn-filwyr yn lleihau rhestrau aros ar hyn o bryd, ond mae'n ddibynnol ar gyllid trydydd sector i wneud hynny. Pa ddeialog yr ydych yn ei chael gyda GIG Cymru i Gyn-filwyr i roi cyllid cynaliadwy ar waith i sicrhau y bydd y gostyngiad hwnnw mewn rhestrau aros yn parhau i'r dyfodol yn hytrach nag yn dod i ben pan fydd yr ariannu trydydd sector hwnnw'n dod i ben.

Roeddech chi'n cyfeirio hefyd at Newid Cam, ac roeddwn i'n gysylltiedig â hwnnw o'r cychwyn cyntaf. Siaradais yn ei lansiad ac rwy'n cydnabod y gwaith hanfodol y mae'n ei wneud. Mae Newid Cam hefyd yn ddibynnol ar gyllid trydydd sector. Unwaith eto, pa ddeialog yr ydych yn ei chael, o ystyried eich cydnabyddiaeth chi a'ch rhagflaenwyr o'r gwaith hollbwysig y maen nhw'n ei wneud wrth lenwi'r bylchau hynny na all y sector statudol eu llenwi, ar gyfer sicrhau eto gynaliadwyedd i'r rhaglen honno, o ystyried y profiad herciog a gafodd honno?

Rydych yn cyfeirio at y cronfeydd pwrpasol o £250,000 ar gyfer plant aelodau'r lluoedd arfog. Sut ydych chi'n ymateb i'r pryder bod hwnnw o hyd yn llai na'r swm a fyddai ar gael pe byddai premiwm disgybl lluoedd arfog, sydd ar gael yn Lloegr ac yn cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn sgil symiau canlyniadol Barnett, ar gael mewn gwirionedd i ddarparu premiwm disgybl lluoedd arfog yn ysgolion Cymru, fel y mae dros y ffin?

Rydych yn cyfeirio at dai, ac rydych yn cydnabod y prosiect hunan-adeiladu yn Nhŷ Ryan yn Wrecsam yn gwbl briodol. Pa ymgysylltu sydd rhyngoch chi yn arbennig â Chymdeithas Dai Dewis Cyntaf ac Alabaré, sydd nid yn unig wedi cefnogi'r prosiect hwnnw ond sydd, unwaith eto, yn gwneud gwaith ardderchog yn darparu tai penodedig i gyn-filwyr mewn mannau yng Nghymru, a thrwy Alabaré, yn aml wedyn yn darparu cymorth iechyd a chymdeithasol yn fwy eang, er mai swyddogion tai yn unig yw ei swyddogion?

Roeddech yn cyfeirio at y Cynllun Cefnogaeth ym Mhontio Personél Milwrol neu SToMP, sy'n gweithio gyda chyn-filwyr mewn carchardai i wella addysg a rhoi'r sgiliau iddyn nhw er mwyn addasu i fywyd sifil. Pa werthusiad o ganlyniadau sydd wedi bod neu a gynhelir fel y gallwn, fel yn achos pob rhaglen effeithiol arall, ddysgu beth sy'n gweithio'n dda a beth sydd angen ei wneud yn wahanol?

Roeddech yn cyfeirio at gyllid cyfamod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, ac rydych wedi sôn am ddwy flynedd ychwanegol o arian gan Lywodraeth Cymru pan ddaw'r cyllid presennol i ben. Fel y gwyddoch, y llynedd, cynhyrchodd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a chadetiaid adroddiad ar gyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru a'i weithrediad. Roedd hwn yn cynnwys argymhelliad bod Llywodraeth Cymru yn ystyried penodi Comisiynydd Lluoedd Arfog ar gyfer Cymru er mwyn gwella atebolrwydd sefydliadau sector cyhoeddus wrth gyflenwi'r cyfamod, a byddai hynny wedi gofyn am gyhoeddi adroddiad blynyddol i'w osod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar ymlyniad at y cyfamod. Cafodd hyn ei gynnig a'i gefnogi gan gymuned y lluoedd arfog a phenaethiaid y lluoedd arfog. Felly, er fy mod yn cydnabod y gwaith pwysig a gwerthfawr y mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yn ei wneud ac yn gallu ei wneud, sut fyddwch chi'n llenwi'r bwlch rhwng yr angen i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad, yn genedlaethol, a sicrhau atebolrwydd sefydliadau yn y sector cyhoeddus i'r cyfamod ledled Cymru?

Ac yn olaf, rydych yn cyfeirio at y llwybr cyflogaeth. Unwaith eto, rydych wedi cyfeirio at hyn yn eich datganiad y llynedd ac yn y flwyddyn cyn hynny; cyfeiriodd eich rhagflaenydd at hyn hefyd. Rydych yn dweud nawr ei fod ar fin cael ei lansio, felly mae hir ddisgwyl wedi bod amdano—a gadewch inni obeithio y bydd yn werth yr holl aros. Ond a wnewch chi gadarnhau sut y lluniwyd gweithrediad a chyflawniad hwnnw gyda chyrff y trydydd sector mewn gwirionedd, yr ydych chi'n iawn i'w canmol nhw, ac eraill, ac â'r sefydliadau busnes a chyflogaeth, gan gynnwys o bosibl rai fel Remploy y bydd yn rhaid iddyn nhw gefnogi a chydweithio â'r bobl wrth iddyn nhw deithio ar hyd y llwybr y byddwch yn ei gyhoeddi'n fuan? Diolch.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:46, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am ei groeso cyffredinol i'r datganiad ac am y pwyntiau a wnaeth. Rwy'n cofio gwylio'r gwrthdaro yn y Falklands, a dyna'r tro cyntaf yn ystod fy oes i a'm profiad o weld rhyfel yn digwydd yn y fath fodd. I lawer o'n plith a anwyd yng nghysgod yr ail ryfel byd, nid oeddem erioed wedi gweld gwrthdaro o'r fath, ac yna roedd ei weld yn digwydd a'i effaith ar bobl yn fy marn i yn rhywbeth sydd wedi effeithio ar lawer ohonom. Rwy'n cydnabod gwaith Steven Hughes ac yn ymuno â chi wrth dalu teyrnged iddo ef ac i eraill sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod y cymorth i gyn-filwyr y gwrthdaro hwnnw a'r rhai a fu'n ymladd yn y Falklands i'w cynnal drwy eu bywydau, a'n bod ni hefyd yn cydnabod y bobl hynny na ddaethant adref o'r Falklands, a'n bod yn gwneud hynny yn rhan, nid yn unig o'n coffad blynyddol, ond yn y ffordd yr ydym yn dylunio ac yn cyflawni ymrwymiadau i'r cyfamod hefyd.

Cafwyd nifer o wahanol sgyrsiau dros y blynyddoedd ynghylch y ddarpariaeth breswyl. Y cyngor a gefais i yw nad oes angen am hynny ar hyn o bryd. Dyna rywbeth y mae gennyf feddwl hollol agored yn ei gylch. Nid wyf o'r farn nad oes angen hynny o gwbl. Ond y cyngor a gefais i yw, lle bo angen darpariaeth breswyl, y caiff ei gyflawni orau mewn rhai achosion gan y lluoedd arfog eu hunain ac mewn achosion eraill drwy'r ddarpariaeth bresennol. Nid oes achos wedi dod i law dros fuddsoddiad newydd yn y ddarpariaeth breswyl. Os gwneir yr achos hwnnw a phe bai pobl yn dymuno gwneud  y cynnig hwnnw, yna byddwn yn hapus i'w ystyried, ond ar hyn o bryd nid wyf wedi cael cynnig o'r fath yn hyn o beth.

Bydd yr Aelod yn ymwybodol y cyhoeddwyd y cyllid ychwanegol ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr y llynedd a bod hynny wedi cynyddu cyllideb a chapasiti GIG Cymru i Gyn-filwyr. Cyfeiriodd yr Aelod at sefydliadau trydydd sector sawl gwaith yn ystod ei gyfraniad, a disgrifiodd y trydydd sector fel rhywbeth sydd, mewn rhai ffyrdd, yn llenwi'r bylchau. Mae fy marn i yn wahanol i'w farn ef ar hynny. Byddwn yn ystyried y trydydd sector yn rhan hanfodol o'r modd y darparwn wasanaethau—nid dim ond llenwi'r bylchau sydd gan eraill y mae, ond mae mewn gwirionedd yn darparu gwasanaethau ei hun. Rwy'n gobeithio bod ein perthynas gyda'r trydydd sector yn ddigon cadarn i'n galluogi ni i weithio'n adeiladol gyda phob sefydliad, beth bynnag fo'u statws cyfreithiol neu elusennol, i ddarparu'r gwasanaethau sy'n ofynnol. Yn sicr, caiff nifer o grwpiau a sefydliadau trydydd sector eu cynrychioli yn y grŵp arbenigol hwnnw yr ydym wedi ei sefydlu ac maen nhw â rhan lawn yn hynny.

Ar yr un pryd, byddwn yn dweud: cyfarfûm â Llywodraeth yr Alban bythefnos yn ôl i drafod y gwaith y maen nhw'n ei wneud yn y maes hwn, ac achubais ar y cyfle i drafod gwaith eu comisiynydd nhw. Mae dau reswm pam y rhoddais ystyriaeth ddifrifol i hyn ond penderfynu peidio â chefnogi penodiad swydd comisiynydd yng Nghymru. Yn gyntaf oll, roeddwn yn teimlo y byddai'n well i'r cyllid a'r adnoddau sydd ar gael, ar adeg o galedi, gael eu defnyddio i ariannu gwasanaethau rheng flaen, a'n bod mewn gwirionedd yn buddsoddi mewn darpariaeth o wasanaethau i bobl sydd angen y gwasanaethau hynny. Cefais fy mhlesio'n fawr gan waith swyddogion cyswllt yr awdurdodau lleol, a chredaf fod honno'n ffordd dda o atgyfnerthu'r gwaith a gyflawnwyd eisoes.

Yr ail fater yw'r pwynt a wnaethoch yn eich cyfraniad chi—a oedd yn ymwneud ag atebolrwydd. I mi, ceir atebolrwydd yn y fan hon. Mae atebolrwydd democrataidd yn bwysicach i mi, ac mae'n bwysig i mi fod Gweinidogion yn cael eu dwyn i gyfrif yn y lle hwn am y gwaith y maen nhw'n ei wneud a'u hymrwymiadau. Nid wyf o'r farn mai gwaith Llywodraeth yw creu strwythurau atebolrwydd. Dyna waith y Cynulliad Cenedlaethol— sicrhau a llunio atebolrwydd Llywodraeth i'r lle hwn. Credaf ei bod yn rhan bwysig o'n democratiaeth bod Gweinidogion yn cael eu dwyn i gyfrif gan Aelodau sydd wedi eu hethol ac sy'n atebol yn ddemocrataidd am yr ymrwymiadau yr ydym yn eu gwneud a'r gwasanaethau a ddarparwn. Felly, ceir barn ymarferol ac, o bosibl, egwyddorol yma dros beidio â bwrw ymlaen â'r mater penodol hwnnw.

Gofynnodd yr Aelod hefyd, Dirprwy Lywydd, am werthusiad gwahanol raglenni. Soniodd am raglen SToMP yn benodol. Bydd adroddiad blynyddol ar gael. Rydym yn trafod atebolrwydd—mae'n rhaid i atebolrwydd, wrth gwrs, fod yn atebolrwydd deallus hefyd. Bydd yr adroddiad blynyddol hwnnw, y byddwn yn  ei gyhoeddi yn y gwanwyn, yn gyfle i'r Aelodau i'n dwyn ni i gyfrif am yr ymrwymiadau hynny, a bydd gwerthusiad o bob un o'n rhaglenni yn cael ei gynnwys hwnnw.

Y pwynt olaf a wnaed, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu, oedd yr un am bremiymau a thaliadau disgyblion. Mae'r cyllid sydd ar gael i ysgolion ac i gefnogi pobl ifanc yn swm sylweddol o arian, ac mae'n cydnabod y ffordd y mae gwariant ysgol yn cael ei gyfeirio. Cafwyd sgwrs hir ddoe ym mwrdd y cyn-filwyr yn Llundain, a gwelwyd gwahaniaeth clir, os mynnwch chi, yn y modd y darperir cymorth yng ngwahanol wledydd y Deyrnas Unedig. Gobeithio nad wyf i'n gollwng y gath o'r cwd yn y fan hon, ond bydd y strategaeth, pan gaiff ei chyhoeddi'r wythnos nesaf, yn cynnwys rhai gweledigaethau clir iawn ac uchelgeisiau ac egwyddorion sydd yn cael eu rhannu gan bob Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig. Ond bydd hefyd yn cymryd y farn y bydd y ffordd y cyflwynir y dyheadau a'r gweledigaethau hyn yn wahanol ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n cydnabod ein cyfrifoldebau datganoledig a'n gwahanol ffyrdd o weithio hefyd. Byddwn yn dweud ei bod yn bwysig bod gennym y gallu i wneud hynny, yn hytrach na dim ond dweud, 'Os yw rhywbeth yn cael ei wneud yn Lloegr, felly rhaid ei wneud yng Nghymru.' Byddaf yn adrodd ar lwyddiant, neu fel arall, ein cyllid ar gyfer cymorth mewn ysgolion yn y gwanwyn, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn debyg iawn o gael ei argyhoeddi bryd hynny mai dyma'r dull cywir o weithredu.   

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:54, 6 Tachwedd 2018

A allaf i hefyd ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad ac, yn wir, groesawu'r datganiad a'r holl waith clodwiw sydd yn mynd ymlaen yn y maes pwysig yma? Gwnaf i ddim crybwyll materion sydd eisoes wedi cael eu cofnodi, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ar y dechrau gydnabod gwaith clodwiw y Lleng Brydeinig dros nifer fawr o flynyddoedd, a hefyd yr holl elusennau eraill sy'n gweithredu yn y maes.

Bu fy nhaid yn ymladd yn y rhyfel byd cyntaf, ym mrwydr y Somme ac yn Ypres. Mi wnaeth o lwyddo i oroesi, ond dioddefodd anafiadau hirdymor—anafiadau na wnaeth byth mo'i adael o. Nid oedd fawr ddim cymorth ar gael ar y pryd i taid, a hefyd nid oedd pobl yn siarad am yr erchyllterau ychwaith. Mae pethau wedi newid erbyn rŵan, ac mae yna lawer mwy o gefnogaeth yn y maes. Ond o’m hanes hefyd fel meddyg teulu yn fy nghymuned i yn delio â chyn-filwyr yn enwedig, ond hefyd â chyn-aelodau o’r awyrlu, yn nhermau pan fydd pobl yn gadael y lluoedd arfog—mae hyn yn amser allweddol o bwysig ac mae’n amser anodd gythreulig yn aml, achos mae pobl sydd wedi bod yn byw bywyd yn y lluoedd arfog wedi bod mewn cymdeithas glòs, ddisgybledig, ac mae yna lot o bethau’n cael eu gwneud drostyn nhw, ac mae eu bywyd nhw’n rhedeg yn ddisgybledig iawn, iawn—mor wahanol i’r byd y tu allan, ac rydw i'n credu bod yna gryn dipyn o waith cefnogol y tu allan, ond eto, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei gydnabod, mae yna fwy y gallem ni ei wneud.

Yn nhermau’r gwasanaethau iechyd, rwy’n clywed beth ydych chi’n ei ddweud ynglŷn â’r gefnogaeth sydd wedi bod i’r gwasanaeth iechyd, ond maes sy’n ein pryderu ni weithiau fel meddygon ydy’r ffaith nad ydym ni’n gallu cael gafael ym manylion iechyd y sawl sydd wedi bod yn y lluoedd arfog pan fyddan nhw’n dod allan atom ni ac yn dod yn aelodau cyffredin, fel petai, o’n cymdeithas ni unwaith eto. Nid oes gyda ni ddim manylion yn dod o beth sydd wedi digwydd iddyn nhw, dros flynyddoedd a blynyddoedd mewn nifer o achosion—manylion perthnasol meddygol y dylem ni fod yn gwybod amdanyn nhw. Ac yn aml iawn, wrth gwrs, nid ydym ni fyth yn cael hyd i’r manylion yna. Felly, yn aml, mae yna her i’r gwasanaeth iechyd allu cael gafael yn y manylion yna ac i allu trin cyn-aelodau’r lluoedd arfog yn briodol ar sail hanes meddygol, sydd yn aml yn anodd iawn i gael gafael ynddo fo. Dyna’r unig bwynt a’r unig fath o gwestiwn y buaswn i’n hoffi gofyn am eglurder gan yr Ysgrifennydd Cabinet arno fo, achos mae’n berthnasol iawn i’r ffordd yr ydym ni’n ymdrin allan fanna yn ein cymunedau â materion iechyd ac iechyd meddwl ein pobl sydd wedi bod yn gwasanaethu eu gwlad.

Ond rydw i yn croesawu’n fawr yr holl waith sydd yn cael ei wneud i gefnogi ein cyn-filwyr, ein cyn-forwyr a chyn-aelodau o’r awyrlu. Rydw i hefyd, mae’n rhaid imi ddweud wrth orffen—rwy'n ymwybodol o’r amser—yn gweddïo’n gyson na fydd rhaid i fy mhlant i na phlant fy mhlant fyth gael eu gorfodi i fynd i ryfel. Diolch yn fawr.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:57, 6 Tachwedd 2018

Rwy’n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei eiriau hefyd. Rydw i'n credu ei fod e, fel minnau, yr un fath o oedran lle rydym ni yn cofio siarad ag aelodau’r teulu ac aelodau’r gymuned a oedd wedi ymladd yn y rhyfel cyntaf. Mae gen i gof o siarad ag aelodau o’r teulu, a gweld pobl yr oeddwn i’n meddwl ar y pryd oedd yn hen iawn—siŵr o fod yn eu 50au; yr un oedran a finnau nawr—pan oeddwn i’n blentyn yn Nhredegar, a oedd wedi brwydro yn y rhyfel cyntaf, a’r impact roedd hynny wedi ei gael, reit drwy gydol eu bywydau nhw. Mae’n rhywbeth y mae’n rhaid inni i gyd ei ystyried pan fyddwn ni’n cofio digwyddiadau ganrif yn ôl. Ac fel rydych chi wedi ei ddweud wrth orffen eich cyfraniad, diolch i Dduw na fydd rhaid i’n plant ymladd yn ein cyfandir ein hunain yn y ffordd buodd pobl yn arfer gwneud dros y blynyddoedd. Rydw i'n credu bod pob un ohonom ni, pan fyddwn ni’n cofio’r aberth a wnaeth lot fawr o bobl, yn meddwl beth allwn ni ei wneud i sicrhau nad ydym ni jest yn cofio ein hanes ni, ond ein bod ni’n sicrhau nad ydym ni’n ail-fyw’r hanes yn y dyfodol. Rydw i'n credu bod hynny’n wers i bob un ohonom ni.

Mae’r Aelod, Dirprwy Lywydd, wedi gofyn cwestiwn pwysig iawn hefyd, amboutu sut rydym ni’n rhannu data. Mae hyn yn rhywbeth rydym ni wedi bod yn ei drafod. Mae yna broject yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd lle rydym ni yn gweithio gyda’r adran iechyd yn y Deyrnas Unedig i sicrhau bod hyn y digwydd. Mae hyn wedi cael ei drafod ddwywaith yn y bwrdd roeddwn i’n rhan ohono fe ddoe, ac mae progress wedi cael ei wneud. Ond mae’r Aelod yn hollol gywir yn ei ddadansoddiad fod yna broblemau wedi bod o ran rhannu gwybodaeth a rhannu data. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei ddatrys, ac mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydweithio ar hyn o bryd i sicrhau ein bod ni yn datrys y problemau yma.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 5:00, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad cynhwysfawr heddiw? Ddydd Sul, ledled Cymru a gweddill y DU, bydd aelodau ein lluoedd arfog, cyn-filwyr a llawer o sefydliadau, ynghyd â'r cyhoedd, yn dod at ei gilydd i anrhydeddu'r rhai a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu'r wlad hon. Y flwyddyn hon yw canmlwyddiant tawelu'r gynau ar ddiwedd y rhyfel byd cyntaf ac mae hynny'n ei gwneud yn amser arbennig o deimladwy. Ond mae'n werth nodi, ers diwedd yr ail ryfel byd, mai dim ond un flwyddyn a fu, sef 1968, pan nad oedd ein lluoedd arfog yn cymryd rhan mewn gwrthdrawiad arfog rywle yn y byd.

Mae'r ŵyl i goffáu trueiniaid rhyfel yn goffadwriaeth barchus a chymwys iawn, ond yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, mae gennym ddynion a menywod sy'n gadael y lluoedd arfog ac wedyn yn cael anhawster mawr i addasu i'r hyn sydd bellach iddyn nhw yn amgylchedd dieithr. Ar ôl gadael, maen nhw'n tueddu i golli'r ddisgyblaeth, y gwerthoedd cyffredin a'r ymdeimlad o berthyn sy'n bodoli yn y lluoedd. Mae cydnabod ac ymdrin â hyn yn mynd y tu hwnt i adsefydliad syml. Mae'n ymwneud â chreu rhwydwaith o gymorth parhaus. Ni ddylai'r lluoedd orfod ymdrin â hynny ar eu pennau eu hunain. Mae'n ddyletswydd i'r Llywodraeth, yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru hefyd, i sicrhau bod mesurau, sefydliadau a seilwaith ar waith i helpu i hwyluso'r broses orau posibl o bontio ar gyfer yr aelodau hynny o'r lluoedd arfog, os ydyn nhw wedi cael niwed corfforol neu feddyliol neu beidio, i fywyd sifil.

Un o elfennau pwysicaf yr addasu hwn fydd y cyfle i gael gwaith. Drwy gyflogaeth,  daw hunan barch ac ymdeimlad o gyflawni ac o berthyn. Mae'n ddyletswydd ar y ddwy Lywodraeth i sicrhau bod y cyfleoedd iawn yn cael eu rhoi ar waith i wneud yn siŵr bod pob un o gyn-aelodau ein lluoedd arfog yn gallu ymgysylltu â bywyd sifil eto. Mae'n braf gweld bod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r mater hanfodol hwn drwy'r llwybr cyflogaeth a gweithio gyda'r gymuned fusnes i ddatblygu pecyn cymorth cyflogwyr. Ar hyn o bryd rwy'n adleisio galwad Mark Isherwood am gomisiynydd lluoedd arfog a fyddai'n goruchwylio'r holl ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid inni gydnabod, yn eu rhoi ar waith mewn gwirionedd.

I gloi, Dirprwy Lywydd, mae gan bob un ohonom ddyled enfawr i'n lluoedd arfog, yn sgil y ddau ryfel mawr, ond hefyd yn sgil y gwrthdrawiadau y maen nhw wedi mynd i'r afael â nhw oddi ar hynny. Nid yw'n ddigon inni gofio a chydnabod eu haberth yn syml. Mae'n rhaid dal ati i gefnogi'r sefydliadau hynny sy'n darparu ar eu cyfer pan fydd dyddiau eu gwasanaeth wedi dod i ben.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:03, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar, unwaith eto, am eiriau llefarydd UKIP wrth ddisgrifio'r coffâd. Gadewch i mi ddweud hyn: defnyddiodd yr ymadrodd 'bydd ein cymuned yn dod at ei gilydd', ac mae ein cymuned yn dod at ei gilydd a bydd ein cymuned yn dod at ei gilydd ac mae ein cymuned wedi bod yn dod at ei gilydd i gofio am y rhai a roddodd wasanaeth. Siaradodd yr Aelod dros Orllewin Clwyd yn gynharach am wasanaeth y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn y dwyrain canol. Wrth gwrs, yn y dwyrain canol bydden nhw wedi bod yn gwasanaethu ochr yn ochr â milwyr o India. Bydden nhw wedi sefyll ochr yn ochr â Hindŵiaid a Mwslimiaid, yn ymladd yn enw'r Goron, a bydden nhw wedi sefyll fel cymrodyr gyda'i gilydd. Roeddwn yn falch o weld Mis Hanes Pobl Dduon yn yr ychydig wythnosau diwethaf yn rhoi teyrnged i'r holl filwyr hynny o'r gwahanol rannau o'r byd a fu'n ymladd yn y rhyfel byd cyntaf. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod drwy Fis Hanes Pobl Dduon, drwy ymestyn allan i bob rhan o'n cymuned, pan soniwn am ein cymuned, ein bod ni'n siarad am yr holl bobl hynny a fu'n ymladd a'r holl bobl hynny a fu farw, a'r holl bobl a wnaeth yr aberth hwnnw. Mae hynny'n cynnwys yr holl bobl a frwydrodd o dan faner yr undeb i sicrhau ein rhyddid a sicrhau'r ffordd yr ydym yn byw heddiw. Ac roedd yn arbennig o drawiadol pan welais aelodau o'r Llywodraeth hon yn sefyll ochr yn ochr ag aelodau o gymuned pobl dduon yng Nghymru yn yr ychydig wythnosau diwethaf yn gwneud yr union bwyntiau hynny.

Mae'r Aelod yn iawn hefyd wrth iddo sôn am y cyfamod fel realiti'r coffâd. Nid un wythnos ym mis Tachwedd yn unig yw'r coffâd—realiti'r hyn a wnawn o wythnos i wythnos ydyw, bob wythnos a phob mis o'r flwyddyn. Cyflawniad y cyfamod yw cyflawniad gan y genedl gyfan, nid yn unig ein diolch i'r rhai a wasanaethodd, ond cydnabyddiaeth o'r aberth y maen nhw'n ei wneud er mwyn ein cadw ni i gyd yn ddiogel.

Mae'r materion o ran cyflogaeth yn faterion da iawn y byddaf yn parhau i fynd i'r afael â nhw a bydd cyfeiriad at hynny yn yr adroddiad blynyddol a gyhoeddir yn y gwanwyn.

Gadewch imi orffen drwy ddweud hyn: rwy'n cydnabod bod gwaith y grŵp trawsbleidiol wedi bod yn bwysig. Rwy'n gwerthfawrogi'r ddemocratiaeth sydd gennym ni yma yng Nghymru. Rwy'n gweld gwerth democratiaeth y lle hwn. Rwy'n gwerthfawrogi gwaith y lle hwn fel Senedd, yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Ac rwy'n credu mai yn y lle hwn y dylid cael ein hatebolrwydd ni. Nid yn breifat, ac nid drwy fiwrocratiaeth, ond drwy ddarparu gwasanaethau o ddydd i ddydd i gymuned y lluoedd arfog, ac yna gael ein dwyn i gyfrif am ddarparu'r gwasanaethau hynny. Nid wyf yn gwbl argyhoeddedig eto ynghylch swydd comisiynydd y lluoedd arfog. I mi, mae'n bwysig ein bod yn buddsoddi mewn gwasanaethau a'n bod ni'n gwerthfawrogi ac yn ymarfer atebolrwydd drwy gyfrwng ein democratiaeth.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 5:07, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wrth i ni nesáu at yr wythnos hon o goffadwriaeth i'n cenedl, a gaf i groesawu, yn fawr, ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i nodi'r cyfnod pwysig a chofiadwy hwn gydol y flwyddyn? Yn fy etholaeth i, Islwyn, mae'r pwysigrwydd y mae'r cymunedau yn ei roi ar beidio ag anghofio a'u hawydd i ddod at ei gilydd yn yr ysbryd hwnnw i'w gael mewn tystiolaeth weladwy ar y strydoedd. Ledled Cymru, bydd dynion, menywod a phlant yn gwisgo pabi ac yn mynd i wasanaethau coffa yn ein hysgolion a'n heglwysi ac yn parchu'r eiliadau hynny o ddistawrwydd. Rwyf hefyd wedi fy synnu gan y pabïau mawr ar strydoedd Pontywaun a Rhisga ac Islwyn i gyd, ac rwy'n dymuno diolch, yn y lle hwn, i'r unigolion ymroddedig hynny fel Bernard Osmond yn fy etholaeth i a hyrwyddwyr lluoedd arfog ein hawdurdod lleol fel Andrew Whitcombe ac Alan Higgs, a llawer o unigolion a sefydliadau eraill sydd, bob blwyddyn, wedi sicrhau bod ein cof cyfunol yn parhau i fod yn annwyl i ni.

Yn Islwyn, mae pob cymuned yn dyheu yn angerddol am sicrhad bod cenedlaethau'r dyfodol yn ymwybodol o aberth ein lluoedd arfog, am gydnabod y rhyddid sydd mor annwyl yn ein golwg ac y talwyd mor ddrud amdano. Ac rwy'n edrych ymlaen, gyda diddordeb mawr, at gyhoeddi adroddiad blynyddol y Llywodraeth yn y gwanwyn ar y cynnydd a wnaed wrth gyflawni ein hymrwymiadau i gymuned ein lluoedd arfog a'n cyn-filwyr. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, amlinellu i mi bwysigrwydd a'r gwerth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar yr adroddiad blynyddol hwn, a sut fydd yn gweithredu fel meincnod arwyddocaol i gamau'r dyfodol?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:08, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, mae'r Aelod yn sôn am y bobl sy'n gweithio mor galed yn Islwyn i sicrhau bod y coffâd hwn yn digwydd mewn ffordd sy'n werthfawrogol ac yn dangos y  gwerthfawrogiad cenedlaethol a deimlwn i gyd o'r rhai sydd wedi gwasanaethu. Gallai pob un ohonom roi'r un araith ag a roddodd hi yn disgrifio'r bobl dda hynny yn Islwyn, rwy'n credu, a ninnau'n disgrifio'r bobl sydd gennym yn ein hetholaethau hefyd sy'n gweithio mor galed i sicrhau bod y digwyddiadau coffa a gynhelir ym mhob cymuned ledled Cymru ac mewn mannau eraill y penwythnos hwn yn ddigwyddiadau sydd yn coffáu ac yn myfyrio ar yr aberth a wnaed.

Soniodd yr Aelod, Dirprwy Lywydd, am hyrwyddwyr awdurdod lleol. Rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig cydnabod gwaith yr awdurdodau lleol wrth iddyn nhw ddarparu llawer o'r gwasanaethau hynny sydd wedi cael eu disgrifio a'u trafod y prynhawn yma. Gwaith yr hyrwyddwyr ym mhob awdurdod lleol yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio'n gydlynol a chyfannol i ddarparu'r math o wasanaethau y mae ar y cyn-filwyr eu hangen, eu heisiau ac y mae'r hawl ddiamod ganddyn nhw iddynt. A gaf i ddweud—? Drwy gyfres o ddigwyddiadau Cymru'n Cofio, rhaglen yr ydym wedi ei dilyn dros y pedair blynedd diwethaf, rwy'n gobeithio ein bod wedi ceisio cofio a deall beth yw ystyr rhyfel mewn gwirionedd a'r aberth a wnaeth pobl nad oedd ganddyn nhw syniad o'r hyn a fyddai'n eu hwynebu yn y ffosydd ac mewn mannau eraill.

Rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf ingol yr wyf i wedi eu gweld yn ystod yr wythnosau diwethaf yn y cyfnod hwn yn arwain at goffáu'r cadoediad oedd rhai o'r clipiau fideo hynny wedi eu lliwio yr ydym ni wedi eu gweld. Mae pob un ohonom  dros y blynyddoedd wedi gweld yr un lluniau fideo o ddynion yn cerdded, i'w tranc yn llawer rhy aml, ledled gogledd Ffrainc. A phan fyddwch yn edrych arnyn nhw mewn lliw, rydych chi'n gweld eu hwynebau mewn ffordd wahanol, ac maen nhw'n edrych yn union fel chi a fi.

Gobeithio y bydd pob un ohonom ni, pan fyddwn yn mynd ar wib drwy ogledd Ffrainc ar yr Eurostar, yn edrych allan dros y meysydd hynny ac yn deall nad porfeydd gwyrdd oedd yn y caeau hynny brin genhedlaeth neu ddwy yn ôl, ond mwd a gwaed pobl a drengodd mewn rhyfel ofer. Ac rydym yn sicrhau pobl ein bod yn cofio hyn heddiw, a'r weithred fwyaf o goffâd yw ein bod yn parhau i gofio am eu haberth ond yn cofio hefyd beth yw rhyfel, ac yn cofio geiriau Dai Lloyd pan ddywedodd ef mai'r hyn sy'n rhaid ei wneud bob amser yw sicrhau nad ydym yn anfon ein pobl i ryfel oni bai fod hynny i amddiffyn buddiannau a bywyd a rhyddid y wlad hon.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:11, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Ac, yn olaf, Darren Millar.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei eiriau caredig a hael iawn am waith y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid? Mae'n rhaid imi ddweud ei bod wedi bod yn bleser gallu gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wella bywydau aelodau'r lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf—gyda chi a'ch rhagflaenydd. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i wneud hynny.

Roeddwn yn awyddus i ofyn un cwestiwn. Cefais fy nharo gan eich sylwadau am feysydd eraill y gad yn ogystal â ffrynt y gorllewin, ac roeddwn yn falch eich bod wedi cyfeirio at faes y gad yn y dwyrain canol. Cefais y cyfle i osod torch ar ben Mynydd Scopus ddwy flynedd yn ôl yn Jerwsalem i goffáu gwaith ac aberth y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a milwyr eraill o Gymru a oedd wedi colli eu bywydau yn y frwydr am Jerwsalem a Gaza ac yn Be'er Sheva. Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gofio am y digwyddiadau hyn, a bod cofebion parhaol yn y gwledydd hynny lle y tywalltwyd gwaed o Gymru.

A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa waith all Llywodraeth Cymru ei wneud yn awr, efallai ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, i wneud yn siŵr nad mewn mynwentydd yn unig y bydd y pethau hyn yn cael eu cofio ond mewn lleoliadau eraill hefyd i sicrhau na chaiff y cof am y rhai a gollodd eu bywydau a'u haberth fynd yn angof byth?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:13, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Orllewin Clwyd am wneud y pwyntiau hyn a hefyd yn ddiolchgar iddo am roi teyrnged nid yn unig i waith swyddogion a rhai eraill a'r grŵp arbenigol a'r grŵp trawsbleidiol, sydd i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni hyn, ond hefyd i waith fy rhagflaenydd. Rwy'n credu bod yr wythnos hon yn wythnos anodd i lawer ohonom mewn llawer iawn o ffyrdd gwahanol. Pan olynais Carl yn y portffolio hwn, gwyddwn fy mod yn cymryd yr awenau mewn darn o waith yr oedd yn credu'n gryf ynddo, ac roedd wedi gweithio'n eithriadol o galed i wireddu llawer o'r rhaglenni yr ydym wedi bod yn eu trafod ac yn eu disgrifio'r prynhawn yma. Yn sicr, rwy'n awyddus iawn, y prynhawn yma, i fynegi ar goedd fy niolch parhaus iddo ef am yr hyn a wnaeth fel Aelod yma ac yn Weinidog yn y lle hwn. Rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonom yn cofio hynny mewn rhyw fodd yr wythnos hon hefyd, yn ein dull ni ein hunain.

O ran y materion ehangach am gofebion a godwyd gan yr Aelod dros Orllewin Clwyd, rwy'n cytuno ag ef; rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gydnabod, yn y ffordd a ddisgrifiodd ef, yr aberth a wnaeth y cenedlaethau a fu. Rwyf eisoes wedi disgrifio, wrth ateb pwyntiau a godwyd gan Dai Lloyd, ei bod yn rhaid inni gydnabod beth yw gwir ystyr rhyfel a beth yw rhyfel mewn gwirionedd, ac i ni ymochel rhag syrthio i'r hyn sy'n gamgymeriad yn fy marn i, sef rhoi coel ar y wedd fwy rhamantus o ryfel, ond ein bod yn cydnabod realiti yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd i bobl a chymunedau a theuluoedd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:15, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

A thrwy hynny, rwy'n gobeithio y gallwn ni weithio—ac rwyf yn credu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig—. Byddwn yn anghytuno o bryd i'w gilydd, ond yn fy mhrofiad i, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio'n dda gyda'i gilydd i gyflawni'r agenda hon. Roedd y sgyrsiau a gawsom ddoe i gyd yn gadarnhaol ar draws y bwrdd yn Llundain, ac rwy'n gobeithio y bydd yn parhau i fod felly. Byddaf yn cyfarfod â'r Weinyddiaeth Amddiffyn unwaith eto yr wythnos nesaf er mwyn ystyried ein cymorth parhaus ar gyfer aelodau o'r lluoedd arfog sy'n gwasanaethu ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gweithio gyda'n gilydd. Rwy'n hyderus y gallwn gydweithio â'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac â'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad i sicrhau bod gennym y cofebion priodol sy'n ein galluogi nid yn unig i gofio aberth cenedlaethau'r gorffennol, ond hefyd i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn deall yr hanes hwnnw a pheidio ag ailadrodd ein camgymeriadau.