Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Yn ein gwaith craffu, rydym wedi ystyried yr egwyddorion cyffredinol a'r darpariaethau yn fanwl, gan ganolbwyntio ar yr effaith ar denantiaid, landlordiaid ac asiantaethau gosod tai, sut y rhoddir gwybod am y newidiadau ac a oes angen corff gorfodi sengl neu arweiniol. Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daethpwyd i'r casgliad ein bod yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil ac wedi argymell bod y rhain yn cael eu derbyn gan y Cynulliad. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi gwneud nifer o argymhellion a gwelliannau lle credwn y gellid cryfhau, gwella neu egluro'r Bil a chroesawaf yr ymgysylltu gan y Gweinidog, fel yr amlinellir yma heddiw.
Mae rhan 4 o'r Bil, Llywydd, yn cynnwys mesurau penodol ar gyfer gorfodi. Mae'n amlwg o'r dystiolaeth a gawsom y byddai gorfodi yn hollbwysig i gyflawni dibenion y Bil. Credwn fod angen cryfhau darpariaethau. Yn benodol, amlygwyd dau brif fater inni ynghylch hysbysiadau cosb benodedig, lefel y gosb benodedig a sut y gellir gwneud Rhentu Doeth Cymru yn ymwybodol o hysbysiadau a gaiff eu rhoi a'u talu. Codwyd pryderon gan landlordiaid, asiantaethau gosod tai a thenantiaid na fyddai lefelau cosb benodedig yn gweithredu fel rhwystr digonol i landlordiaid ac asiantaethau gosod twyllodrus.
Dywedodd y Gymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl wrthym ei bod yn cefnogi cosbau ariannol o rhwng £5,000 a £30,000. Rydym yn cytuno ei bod yn debygol mai gweithredwyr drwg a'r rhai sydd eisoes yn codi ffioedd uchel yw'r lleiaf tebygol o gydymffurfio, ac felly rydym wedi argymell bod y Gweinidog yn diwygio'r Bil i gynyddu lefelau cosbau penodedig. Clywsom dystiolaeth yn awgrymu y gall dull haenog neu fand ynghylch lefelau o gosbau penodedig fod yn briodol er mwyn gwahaniaethu rhwng yr hyn a allai weithredu fel rhwystr i landlord sy'n hunan-reoli gydag un eiddo ac asiantaeth gosod tai mawr sy'n gyfrifol am lawer. Credwn fod rhinwedd mewn dull o'r fath ac rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gellid gweithredu hyn.
Mae mater mwy technegol ond pwysig o hyd yn ymwneud â hysbysu camau gorfodi i Rhentu Doeth Cymru. Clywsom nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y Bil i'w hysbysu pan gaiff hysbysiadau cosb benodedig eu rhoi neu eu talu/ Credwn y dylid tynhau'r broses hon er mwyn helpu gyda'r gwaith o gasglu gwybodaeth a gwneud y system drwyddedu'n fwy cadarn. Felly rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwelliannau i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu Rhentu Doeth Cymru pan delir hysbysiad cosb benodedig.
Prif bwyslais ein gwaith craffu oedd ystyried a ddylid cael corff gorfodi arweiniol. Clywsom dystiolaeth o blaid ac yn erbyn. Ar ôl ystyried, nid ydym yn credu bod angen corff o'r fath, ond hoffem weld Rhentu Doeth Cymru yn cael pwerau ychwanegol i orfodi'r ddeddfwriaeth. Bydd hyn yn lleihau'r cyfleoedd i'r rhai sy'n torri'r gyfraith i fynd heb gael cosb. Credwn y dylid diwygio'r Bil i roi pwerau gorfodi i Rhentu Doeth Cymru ochr yn ochr ag awdurdodau lleol.
Yn amlwg, bydd effaith y Bil yn gwahardd rhai taliadau, a bydd hynny'n cael effaith ar unwaith, ond awgrymwyd i ni y gallai cynnydd mewn rhenti fod yn ganlyniad anfwriadol. Er nad ydym mewn sefyllfa i roi sylwadau ynghylch a yw hyn yn debygol o ddigwydd, nodwn o dystiolaeth y byddai'n well gan fwyafrif y tenantiaid gael cynnydd bach mewn rhent, yn hytrach na gorfod talu ffioedd ymlaen llaw. Fodd bynnag, bydd yn bwysig monitro lefelau rhent fel rhan o werthuso effaith y Bil ac rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i wneud hyn.
Clywsom rai dadleuon o blaid cynllun gwirfoddol gyda chap ar ffioedd, ond nid oeddem yn argyhoeddedig y byddai'r dull hwn yn effeithiol. Yn benodol, rydym yn bryderus mai gweithredwyr diegwyddor—y rhai y mae angen newid eu harferion— yw'r rhai lleiaf tebygol o ymgysylltu â chynllun gwirfoddol. Felly, credwn mai dull deddfwriaethol o weithredu yw'r ffordd fwyaf tebygol o greu marchnad decach.
Rydym yn pryderu nad yw'r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cyfathrebu'r newidiadau, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yn gynharach. Yn arbennig, rydym yn pryderu y gallai hyn ei gwneud yn anodd i denantiaid sy'n fwy agored i niwed ac asiantaethau a landlordiaid llai fod yn ymwybodol o'r newidiadau. Rydym yn nodi y bydd Rhentu Doeth Cymru mewn sefyllfa dda i gyfleu newidiadau i landlordiaid ac asiantaethau gosod. Ond credwn fod angen ystyriaeth ymhellach i sicrhau bod tenantiaid yn ymwybodol o hyn, yn enwedig gan y bydd tenantiaid yn chwarae rhan hollbwysig o ran tynnu sylw awdurdodau at daliadau anghyfreithlon. Felly rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno gwelliannau i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol a Rhentu Doeth Cymru gymryd camau rhesymol i sicrhau bod pawb yr effeithir arnynt yn ymwybodol o'r newidiadau.
Llywydd, rydym yn argymell bod yr egwyddorion cyffredinol yn cael eu cymeradwyo gan y Cynulliad, a bod y Bil yn cael ei gryfhau yn y ffyrdd a amlinellwyd gennyf. Rwy'n croesawu'n fawr sicrwydd y Gweinidog mewn ymateb i'n hadroddiad, a'i fod yn derbyn nifer ohonynt, a hefyd yn croesawu'r ystyriaeth bellach a roddir i eraill, fel y disgrifiwyd yn gynharach gan y Gweinidog. O ran y rhai nad ydynt yn cael eu derbyn, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Gweinidog yn parhau i ystyried ein hadroddiad yn ofalus fel y bydd y Bil hwn yn mynd rhagddo drwy'r Cynulliad. Diolch yn fawr.