8. Dadl: Egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 6 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 5:29, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn dilyn ein gwaith craffu ar y Bil. Hoffwn ddiolch i bawb a ddarparodd dystiolaeth i helpu i lywio ein gwaith, yn enwedig tenantiaid, landlordiaid ac asiantau gosod tai ar draws Cymru a wnaeth yr ymdrech i fod yn bresennol yn ein grwpiau ffocws. Rydym hefyd yn sefydlu fforwm drafod ar-lein ac rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd.