8. Dadl: Egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 6 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 6:10, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Nid wyf yn aelod o unrhyw un o'r pwyllgorau sydd wedi craffu ar y Bil hwn, felly rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil—Bil y credaf sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer gwelliannau pellach o ran amodau tai yng Nghymru, a bydd yn gwella ein hymdrechion i fynd i'r afael â chamfanteisio, yn enwedig yn y sector rhentu preifat. A dyna, mewn gwirionedd, yw'r hyn yr oeddwn eisiau canolbwyntio fy sylwadau arno ac, wrth wneud hynny, a gaf i gefnogi yn gyfan gwbl y sylwadau a wnaeth Julie Morgan yn ei chyfraniad? Credaf eich bod wedi taro'r hoelen ar ei phen, Julie.

Credaf fod dau feincnod ar gyfer deddfwriaeth fel hon. Y cyntaf yw: a fydd yn ein helpu i wella amodau byw y bobl hynny yr ydym yn eu cynrychioli? Ac, a yw'n ceisio mynd i'r afael â chamfanteisio? Credaf fod y Bil yn gwneud y ddau beth hyn, neu mae ganddo'r potensial i wneud y ddau beth hyn. Rwy'n croesawu hefyd yr effaith y credaf y gallai'r Bil ei chael ar iechyd a lles pobl. Rwy'n gwybod bod llawer ohonom ni, o'n gwaith etholaeth ac o'r ymchwil a wnawn, yn gweld effeithiau iechyd tai a bod iechyd oedolion sy'n rhentu'n breifat, yn eu barn nhw, yn waeth o lawer na'r rhai hynny sydd mewn deiliadaethau eraill. Felly, rwy'n siŵr y byddai lleihau'r rhwystrau ariannol i ddod o hyd i lety addas yn ei gwneud yn haws i ddarpar denantiaid gasglu'r cyllid sydd ei angen i symud i eiddo sy'n fwy addas ar gyfer eu hanghenion. Mae hynny'n gorfod bod yn beth da.

Bydd hefyd yn beth da lleihau ffioedd annisgwyl, a all achosi gofid ariannol—gofid a all arwain at bryder a straen, ac sydd weithiau'n ymestyn i fod yn broblemau iechyd meddwl mwy difrifol. Felly, credaf fod gan y Bil y potensial i gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl rhai o'r tenantiaid hynny. A hefyd, mae yna fanteision iechyd corfforol posibl o ddileu ffioedd, sy'n arwain at incwm yn cael ei gynilo ac felly yn gallu cael ei wario ar fwyd, tanwydd a'r costau eraill hanfodol sy'n gysylltiedig ag iechyd.

Llywydd, byddwch chi'n ymwybodol o'r gwaith yr wyf eisoes wedi'i hyrwyddo o ran mynd i'r afael â phroblemau ynghylch yr arfer ffiaidd o ryw am rent. Yn wir, cyflwynais gynnig deddfwriaethol ar y pwnc hwnnw y llynedd. Felly, a gaf i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Gweinidog am gymryd camau i ddiwygio'r cod ymarfer ar gyfer y landlordiaid a'r asiantau hynny sydd wedi'u trwyddedu o dan Rhentu Doeth Cymru, fel un cam bach tuag at fynd i'r afael â'r broblem benodol hon, ond mae llawer, llawer mwy o waith i'w wneud. A dyna pam yr wyf i'n cefnogi argymhelliad 9 y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar yr angen i fynd i'r afael â phroblemau yr hyn a elwir yn 'troi allan yn ddi-fai', adran 21. Gellir defnyddio hon gan landlordiaid sy'n camfanteisio i gymryd mantais o'r tenantiaid mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas—er enghraifft, y rheini sy'n gwneud dim mwy na defnyddio eu hawliau i geisio cael atgyweiriadau yn eu safleoedd, neu sy'n gwrthod ceisiadau gan landlordiaid diegwyddor am ffafrau rhywiol. Nawr, yn amlwg dydy hynny ddim yn berthnasol i'r holl landlordiaid a'r asiantau gosod, ond credaf mai dyma'r math o newidiadau y mae'n rhaid inni barhau i wneud rhagor o gynnydd arnynt os ydym i fynd i'r afael â phroblemau camfanteisio.

Ond rwyf hefyd yn edrych ymlaen at y Bil hwn yn rhoi sail ar gyfer gweithredu pellach i amddiffyn tenantiaid sy'n agored i niwed, yn enwedig y rheini yn y sector rhentu preifat, y gwn fod y Bil hwn wedi ei anelu atynt, ac mae hynny'n cynnwys y posibilrwydd o wella'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â rhyw am rent. Felly, rwy'n croesawu eich ymrwymiad, Gweinidog, i symud tuag at roi terfyn ar droi allan yn ddi-fai o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth hon—ac ni wnaf ailadrodd popeth y mae hyn yn ei gynnwys gan fod Julie Morgan eisoes wedi amlinellu hynny—ond rwy'n gobeithio y bydd hyn yn y pen draw yn arwain at roi terfyn ar adran 21 fel y mae ar hyn o bryd ac mae'n gam pellach tuag at sicrhau tenantiaethau i'r bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.