Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Rwy'n credu bod David Rees wedi nodi mater pwysig iawn, yn rymus iawn, ac nid eich etholwyr chi yn unig sydd wedi’u heffeithio gan hyn, David, ond etholwyr ACau ledled Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn o ddifrif yn tynnu sylw at y broblem pan fyddwch yn ailosod y stoc dai bresennol mewn modd sy'n gwyro oddi wrth y safon wreiddiol, ac nad yw'n cael ei wneud yn y ffordd y dylai gael ei wneud. Ac mae'n bwysig iawn fod cwmnïau sy'n gwneud y math hwn o waith yn gwybod yn iawn beth y maent yn ei wneud, a bod gwersi wedi'u dysgu o hyn. A allwch ddweud wrthym—efallai nad ydym yn gwybod gwir faint y broblem hon eto, gall gymryd peth amser i broblemau ddod yn amlwg, ac efallai na fydd rhai o'r bobl sy'n agored i niwed sy'n byw yn y tai hyn y gwnaed gwaith ailosod gwael arnynt yn ymwybodol o’r broblem eto hyd yn oed. Felly, beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau eich bod yn canfod faint o bobl sydd angen cymorth gyda hyn mewn gwirionedd? Ac fel y dywedais o'r blaen, pa wersi a ddysgwyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir y cwmnïau sy'n ailosod, i sicrhau nad yw'r broblem hon yn digwydd yn awr, ac na fydd problemau ôl-osod gwahanol ond cysylltiedig yn dod i'r amlwg yn y dyfodol?