Y Diwydiant Llaeth yn Ne-Ddwyrain Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:50, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Fe gyfeirioch chi at y sioe laeth yr wythnos diwethaf, a dyna ble y lansiwyd cam cyntaf y rhaglen gwella llaeth. Felly, bellach gall ffermwyr llaeth wneud cais am gymorth i'w helpu i wella iechyd eu buchesi a phroffidioldeb eu busnesau. Dyrannwyd £5.5 miliwn i brosiect HerdAdvance y cyfeirioch chi ato'n benodol dros y pum mlynedd nesaf, a'i nod yw treialu sut y gall fferm fabwysiadu ymagwedd gyfannol tuag at atal clefydau yn ogystal â gwella effeithlonrwydd a phroffidioldeb busnesau fferm.

Daeth yn amlwg iawn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ers inni gael y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, fod angen inni wneud popeth a allwn i gefnogi ein ffermwyr cyn Brexit i wneud yn siŵr eu bod yn gryf, eu bod yn gynaliadwy a'u bod yn gynhyrchiol. Felly, gwnaethom beth gwaith meincnodi, er enghraifft, gyda'r sector llaeth y llynedd. Cawsom rywfaint o gyllid o Ewrop, a manteisiodd tua 75 y cant o'r ffermwyr llaeth ar yr arian hwnnw; fe'u galluogodd wedyn i ddysgu llawer am eu busnes.