Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Diolch, Llywydd. Mae'r newyddion bod Arolygiaeth Gynllunio Lloegr a Chymru yn bwriadu cael gwared ar rôl cyfarwyddwr gweithredol Cymru yn amlwg yn mynd i fod yn syndod i nifer o bobl ac yn anfon neges glir o safbwynt y peryg bod Cymru yn cael ei hisraddio oddi fewn i'r arolygiaeth honno. A allaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ba ran a gafodd hi a Llywodraeth Cymru yn y penderfyniad hwnnw?