Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi—rwy’n credu bod unrhyw israddio yn statws cangen Cymru o'r arolygiaeth yn hollol annerbyniol. Yn flaenorol, efallai y bydd Llyr yn ymwybodol ein bod wedi ystyried cael arolygiaeth gynllunio gwbl ar wahân i Gymru yn 2015. Rwyf wedi cadw hynny o dan arolwg, ac rwy'n ddiolchgar iawn fod fy rhagflaenydd wedi gwneud hynny, ac rwyf wedi gallu ystyried hynny hefyd. Rydym wedi mynegi pryderon na ddylid cael gwared ar swydd cyfarwyddwr Cymru heb drafodaeth gyda ni. Rhaid ymgynghori â ni yn ffurfiol cyn i unrhyw gynigion gael eu cwblhau'n derfynol.