Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Diolch. Rhoddwyd gwybod i ni am nifer fach iawn o gwynion yn ymwneud ag insiwleiddio waliau ceudod a osodwyd dan gynlluniau a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Caiff yr holl waith a wneir trwy ein cynlluniau Nest ac Arbed eu darparu gan osodwyr cofrestredig. Os methir gwneud y gwaith yn iawn, gall buddiolwyr ofyn am gael gwaith adferol wedi’i wneud gan y contractwr. Os na fydd y contractwr yn masnachu mwyach, cyfeirir defnyddwyr at yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl er mwyn i waith adferol gael ei wneud lle y bo'n briodol.