Gwaharddiad ar Saethu Gwyddau Talcenwyn yr Ynys Las

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:05, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod—[Anghlywadwy.] Derbyniwyd cwyn a wnaed o dan gytundeb adar dŵr Affrica-Ewrasia (AEWA), yn honni bod diffyg cydymffurfiaeth â darpariaethau penodol yn y cytundeb rhyngwladol mewn perthynas â mesurau a gymerwyd yng Nghymru mewn perthynas â chadwraeth gwyddau talcenwyn yr Ynys Las. Roedd ein hymateb cychwynnol i'r gŵyn AEWA yn nodi ein barn fod y mesurau gwirfoddol hyn yng Nghymru'n ddigonol gan nad oedd unrhyw dystiolaeth o saethu. Fodd bynnag, mae AEWA wedi ystyried y sefyllfa ac nid yw wedi derbyn eu bod yn ddigon. Rydym o ddifrif ynglŷn â'r gŵyn hon, ac felly rydym yn ystyried y camau gweithredu gorau sydd eu hangen i ddiogelu gwyddau talcenwyn yr Ynys Las ar gyfer y dyfodol.