Gwaharddiad ar Saethu Gwyddau Talcenwyn yr Ynys Las

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:04, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae'r Llywodraeth eisoes wedi cael dau ymgynghoriad yn 2013 a 2016, ar y mater penodol hwn. Ar y pryd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths, nad oedd unrhyw dystiolaeth i ddynodi bod gwyddau talcenwyn yr Ynys Las yn cael eu saethu yng Nghymru ar hyn o bryd. O'ch ateb i John Griffiths, credaf fod yna awgrym fod y Llywodraeth yn bwriadu mynd ar drywydd deddfwriaeth yn y maes penodol hwn. O ystyried yr honiad gan Ysgrifennydd y Cabinet nad oes unrhyw dystiolaeth i ddynodi hynny, pam y mae'r Gweinidog yn credu bod angen symud oddi wrth y moratoriwm gwirfoddol sy'n bodoli ar hyn o bryd?