Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 7 Tachwedd 2018.
'Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o ffabrig cymdeithasol rhannau o Gymru wledig.
Mae cysylltiadau diwylliannol â ffermio ledled Cymru’n gryf ac mae gan amaethyddiaeth rôl bwysig o ran cynnal y Gymraeg.'
Dyna fe. Dyna'r dyfyniad yn 'Brexit a'n tir'. Nid oedd mwy na hynny.
Wedi dweud hynny, rwy'n credu y cytunwch fod clybiau ffermwyr ifanc yn arbennig yn lle gwych i ffermio dyfu a pharhau gyda phobl ifanc yn camu ymlaen yn y diwydiant, a chynnal bywyd a ffyrdd o fyw mewn rhannau o'r Gymru wledig, wrth gwrs, gan ddarparu'r gymdeithas, os hoffwch, atal unigrwydd, ysgwyddo rolau cymunedol a meithrin dealltwriaeth o gyfrifoldeb personol a chyffredinol. Felly, rwy'n meddwl tybed a wnewch chi edrych eto ar y toriadau uniongyrchol a wnaed i glybiau ffermwyr ifanc a siarad â chydweithwyr llywodraeth leol ynglŷn â'r toriadau y maent yn eu gwneud i gyllidebau gwasanaethau ieuenctid ac ati, sydd wedi cefnogi clybiau ffermwyr ifanc yn anuniongyrchol .