Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Credaf yn bendant fod clybiau ffermwyr ifanc yn—mae'n sefydliad gwych. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o aelodau dros y blynyddoedd diwethaf. Nid wyf eisiau gwneud toriadau; ni ddeuthum i'r byd gwleidyddol i wneud toriadau, ond fe fyddwch yn gwybod, oherwydd polisïau cyni, fod pawb ohonom wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn a neb yn fwy nag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Byddaf yn gwneud popeth y gallaf i'w cefnogi. Rwy'n cael sgyrsiau â hwy ynglŷn â sut y gallant ein cefnogi ni yn gyfnewid am yr arian hwnnw ac rwy'n awyddus iawn i wneud popeth y gallaf i'w cefnogi.