Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Diolch. Hoffwn eich llongyfarch ar fod yn Ysgrifennydd y Cabinet neu Weinidog cyntaf i gwblhau'r cwestiynau ers amser hir iawn. [Chwerthin.]
Ym mis Awst ymunais â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB a ffermwr ar un o ffermydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a dywedwyd wrthyf fod angen cynllun rheoli tir cynaliadwy newydd sy'n deg i ffermwyr, yn darparu bwyd, yn rheoli amrywiaeth ac yn diogelu data a'r amgylchedd. Yn ystod y toriad yr wythnos diwethaf cefais gyfarfod â chadeirydd sirol NFU Cymru yng Nghlwyd a'u cynghorydd sirol. Dywedasant wrthyf mai'r hyn a oedd ar goll yn eich cynigion oedd yr angen am fecanwaith sefydlogrwydd i ddiogelu'r polisi amaeth ar gyfer y dyfodol os ydym i sicrhau cyflenwad parhaus o fwyd fforddiadwy o ansawdd ochr yn ochr â nwyddau cyhoeddus oherwydd y cadernid economaidd y gall y ddwy elfen eu cynnig gyda'i gilydd. Sut yr ymatebwch i'w galwad am yr elfen goll honno, am fecanwaith sefydlogrwydd o fewn hynny, i'w helpu i gynllunio yn awr ar gyfer eu buddsoddiad yn y dyfodol, o ystyried yr ansicrwydd sydd i ddod, ond hefyd gan gydnabod mai holl egwyddor cymorth amaethyddol, gan fynd yn ôl at y 1940au, oedd cydnabod, ar yr adegau pan fo'r glaw'n disgyn, pan ddigwydd y trychinebau rhyngwladol, neu ryfel hyd yn oed, ein bod yn mynd i fod eu hangen eto ac na allwn fforddio eu colli yn y cyfamser.