Cymorth i Ffermwyr

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:14, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, a diolch am eich sylwadau. Rydych yn sicr wedi gosod her i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i fy nilyn.

Credaf eich bod wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch sefydlogrwydd, ac yn sicr cefais drafodaethau gyda ffermwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf ynglŷn ag anwadalrwydd. Yn amlwg, eleni, gyda'r tywydd, rydym wedi gweld hynny'n llawn. Cawsom y gaeaf hir a gwlyb hwnnw, cawsom eira trwm yn y gwanwyn, ac yna cawsom haf sych a phoeth iawn. Nid wyf eisiau rhagdybio dim, oherwydd, fel y dywedaf, rydym yn dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar hyn o bryd, ond yn sicr nid yw'r polisi amaethyddol cyffredin wedi darparu'r sefydlogrwydd a'r diogelwch rhag anwadalrwydd y credaf fod ffermwyr ei eisiau. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, wrth inni gyflwyno ein polisi amaethyddol ar gyfer Cymru, ein bod yn gwneud hynny.