Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd cymunedau Islwyn yr wythnos hon yn talu teyrnged i'r rheini a fu farw ac i'r dynion a'r menywod dewr yn ein lluoedd arfog sydd wedi bod yn barod i aberthu popeth er mwyn amddiffyn ein rhyddid gwerthfawr a drysorwn i'r fath raddau. Ochr yn ochr â miloedd o'n dinasyddion, byddaf yn mynychu gwasanaethau coffa ar hyd a lled fy etholaeth a thu hwnt. Ysgrifennydd y Cabinet, pa wybodaeth y gallaf ei rhoi i fy nghymunedau am y nod y sonioch amdano yn gynharach eleni i gryfhau uned y cyn-filwyr o fewn Llywodraeth Cymru a'r asesiad sydd bellach wedi'i feincnodi a wnaeth Llywodraeth Cymru o unrhyw fylchau yn y gwasanaeth? Ac ymhellach, sut y gellir mynd i'r afael â'r bylchau posibl hyn?