Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Lywydd, gwneuthum ddatganiad ddoe, a oedd yn amlinellu llawer o'r materion hyn, ac rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi cymryd rhan yn y ddadl honno ddoe. Yn ogystal â'r hyn a drafodwyd gennym yn ystod y datganiad llafar hwnnw, fe ddywedaf ein bod wedi recriwtio aelodau ychwanegol o staff i weithio ac i gefnogi a chryfhau tîm Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi gwaith y lluoedd arfog. Bydd hyn yn ein galluogi fel Llywodraeth i ymgymryd â gwaith pellach i wella gwasanaethau a chymorth ar gyfer cymuned y lluoedd arfog, gan gynnwys gwaith i gefnogi'r rhaglen sy'n cael ei datblygu gan grŵp arbenigol y lluoedd arfog, gan gynnwys y gwaith a gyhoeddais ddoe i ddatblygu llwybr cyflogaeth.
A gaf fi ddweud hefyd, er hynny, ein bod yn bwriadu creu ffrwd ariannu newydd i gynnal a chefnogi gwaith awdurdodau lleol sy'n mynd rhagddo, y swyddogion cyswllt a gaiff eu penodi ac a fydd yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod y bobl sy'n darparu gwasanaethau ynghanol ein cymunedau hefyd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt er mwyn darparu ar gyfer cymuned y lluoedd arfog? Lywydd, er ein bod yn cofio aberth ein lluoedd arfog yn ystod yr wythnos hon ym mis Tachwedd, dylwn ddweud mai'r ffordd go iawn y gallwn dalu teyrnged i'n lluoedd arfog yw drwy weithredu ein hymrwymiadau yn y cyfamod o un wythnos i'r llall, o un mis i'r llall, o un flwyddyn i'r llall.