Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Mae Cyngor Gwynedd yn wynebu £11 miliwn o doriadau yn sgil polisi ariannol eich Llywodraeth chi, a fydd yn effeithio ar wasanaethau i bobl fwyaf bregus fy etholaeth. Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi bod £15 miliwn ychwanegol ar gael i ysgolion a £13 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol, ond mae hwn yn gaeth i amodau. Rŵan, rydych chi, fel minnau, wedi dadlau'n gyson o blaid llywodraeth leol gref, a dros roi mwy o rym i gynghorau. Pam, felly, nad ydy'r arian ychwanegol yma yn cyrraedd y cynghorau drwy'r grant cynnal refeniw—arian craidd awdurdodau lleol, ac arian a allai gael ei ddefnyddio i warchod gwasanaethau sylfaenol ac allweddol ar yr adeg yma o lymder a thoriadau anferth?