2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 7 Tachwedd 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oblygiadau’r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2019/20? OAQ52872
5. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o ddigonolrwydd cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ52853
8. Faint o gyllid ychwanegol fydd ar gael i awdurdodau lleol yn dilyn y cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i Gymru yn ddiweddar yng nghyllideb Llywodraeth y DU? OAQ52874
Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i wedi gwneud datganiad ar y setliad ar gyfer llywodraeth leol ar 9 Hydref. Mae'n fater i awdurdodau gwahanol wneud penderfyniadau ar sut maen nhw'n gwario'r gyllideb yma, ynghyd ag incwm eraill o grantiau, y dreth gyngor a ffynonellau eraill, yn ôl eu penderfyniadau a'u blaenoriaethau eu hunain.
Mae Cyngor Gwynedd yn wynebu £11 miliwn o doriadau yn sgil polisi ariannol eich Llywodraeth chi, a fydd yn effeithio ar wasanaethau i bobl fwyaf bregus fy etholaeth. Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi bod £15 miliwn ychwanegol ar gael i ysgolion a £13 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol, ond mae hwn yn gaeth i amodau. Rŵan, rydych chi, fel minnau, wedi dadlau'n gyson o blaid llywodraeth leol gref, a dros roi mwy o rym i gynghorau. Pam, felly, nad ydy'r arian ychwanegol yma yn cyrraedd y cynghorau drwy'r grant cynnal refeniw—arian craidd awdurdodau lleol, ac arian a allai gael ei ddefnyddio i warchod gwasanaethau sylfaenol ac allweddol ar yr adeg yma o lymder a thoriadau anferth?
Mae'r arian, wrth gwrs, i gyd yn mynd at y gwasanaethau craidd hynny rydych chi wedi eu disgrifio. Nid wyf yn credu bod neb fan hyn eisiau dadlau ddylai arian ddim fynd at ysgolion nag at ofal cymdeithasol. Nid wyf yn credu bod pobl eisiau gweld hynny, a dyna'n union beth rydym ni'n ei wneud. Ond a gaf i ddod yn ôl at bwrpas eich cwestiwn, pan oeddech chi'n sôn amboutu bolisi'r Llywodraeth yma? Mae hyn yn rhan o setliad, yn rhan o fformiwla, sydd wedi cael ei gytuno gan lywodraeth leol ac mae'n rhywbeth rydym ni'n ei wasanaethu a'i weinyddu ar y cyd gyda llywodraeth leol.
A gaf i ofyn i chi gadarnhau, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod chi eisiau grwpio cwestiynau 1, 5 ac 8?
Ydw.
Cwestiwn 5, felly, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae pobl newydd wrando ar eich cwestiwn, a byddant yn gwbl syfrdan ynglŷn â difaterwch eich ymateb. Gwnaeth Llywodraeth y DU fuddsoddiad ychwanegol o tua £550 miliwn, sy'n dod i Gymru o ganlyniad i'w chyllideb yr wythnos diwethaf. Mae hynny'n golygu bod adnoddau ychwanegol ar gael i Lywodraeth Cymru, ac mae Prif Weinidog Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai llywodraeth leol ar flaen y ciw pe dôi unrhyw adnoddau ychwanegol o ganlyniad i'r gyllideb. Felly, a allwch ddweud wrthym: a oes unrhyw adnoddau ychwanegol yn mynd i ddod i'ch portffolio y gallwch eu trosglwyddo i lywodraeth leol? Ac a wnewch chi godi hefyd i gwestiwn ynglŷn ag arweiniad ar setliad y grant cynnal refeniw, oherwydd yn amlwg, rydych yn gymylog ar y mater hwn ac yn gwrthod dangos arweiniad a chydnabod bod y grant cynnal refeniw hwnnw'n annheg? Pan fyddwch yn edrych ar y setliad, mae wedi cyflwyno toriadau sylweddol i awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru, toriadau sylweddol i awdurdodau lleol mewn rhannau gwledig o'r wlad, ac mae'n ymddangos bod yna ffrindgarwch ar waith, oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r cynnydd a'r toriadau lleiaf yn mynd i awdurdodau lleol dan arweiniad Llafur. Nid yw pobl yn dwp, maent yn gweld tystiolaeth o hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn, pan gyflwynir y setliadau drwy'r Cynulliad Cenedlaethol hwn.
Felly, a wnewch chi ddangos rhywfaint o arweiniad? A pha adnoddau ychwanegol y mae llywodraeth leol yn mynd i'w cael o ganlyniad i'r crochan o £550 miliwn a ddyfarnwyd i Gymru o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth y DU?
Lywydd, mae'r Aelod dros Orllewin Clwyd yn iawn yn dweud nad yw pobl yn dwp, ac fe fyddant yn gweld drwy ei weiddi a'i arthio. Byddant yn gweld realiti'r hyn y mae cyni wedi'i wneud, nid yn unig mewn llywodraeth leol, ond i rannau eraill o'r sector cyhoeddus hefyd. A gadewch imi ddweud hyn—gadewch imi ddweud hyn—mae'n sôn yn benodol am y setliad llywodraeth leol yng Nghymru. Pan wnaethom y cyhoeddiad hwnnw ar 9 Hydref, cyhoeddodd Prifysgol Caergrawnt rywfaint o ddata ar lywodraeth leol ar y dyddiad hwnnw hefyd. Yr hyn a ddangosent oedd bod llywodraeth leol wedi cael ei gwarchod gan y Llywodraethau yng Nghymru a'r Alban. Yn Lloegr, lle mae gan y Ceidwadwyr gyfle i wneud y penderfyniadau hyn, mae llywodraeth leol wedi'i thorri 26 y cant—26 y cant. Felly, pan ddaw ef a'i blaid yma gyda'u dagrau ffug i ddweud wrthym am yr hyn sy'n digwydd mewn llywodraeth leol, rwy'n dweud wrtho, 'Feddyg, iachâ dy hun'—ewch yn ôl at eich Llywodraeth yn Llundain, ewch yn ôl yno a siarad â hwy am gyni. Ewch yno—[Torri ar draws.] Ewch yno—[Torri ar draws.] Ewch yno—[Torri ar draws.] Gallwch weiddi cymaint ag y mynnwch; mae gennyf amser. Ewch yno. Ewch yno a dywedwch wrthynt am effeithiau cyni ar y bobl, ac fe ddywedaf wrthych chi, pan wnewch hynny, eich bod chi'n gwneud y peth iawn. Ond tan hynny, peidiwch â dod yma i wneud honiadau na allwch eu cynnal am faterion nad ydych yn eu deall.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, ar ran fy etholwyr a phawb sy'n gweithio mewn llywodraeth leol ledled Cymru, mynegais bryderon yn y Siambr hon am y setliad cyllid ar gyfer ein hawdurdodau lleol. Cyn cyllideb Llywodraeth y DU, cafwyd condemniad cryf gan arweinwyr ein hawdurdodau lleol a CLlLC ei hun ynglŷn â'ch diffyg dealltwriaeth o'r arian hanfodol sydd ei angen i gefnogi ein gofal cymdeithasol, ein hysgolion, ein cymorth iechyd meddwl a thai. Yna, fe waethygoch chi'r broblem hon drwy gymharu ein harweinwyr cynghorau ag Oliver Twist, am eu bod eisiau mwy. Roedd eich sylwadau'n sarhad syfrdanol ac yn bradychu'r bobl weithgar sy'n gweithio yn ein gwasanaethau rheng flaen. Roeddent yn dramgwyddus ac a dweud y gwir, dylent gael eu tynnu'n ôl.
Nawr, o ystyried y £370 miliwn ychwanegol—. Ac ie, anghofiwch y gair 'cyni' yn awr a rhowch y gorau i guddio tu ôl iddo—mae £370 miliwn yn dod, trwy garedigrwydd Llywodraeth y DU, i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus. Pam na allch warantu y bydd yr arian hwn yn mynd i ble mae ei angen mewn gwirionedd, i ariannu ein hysgolion, i ariannu ein gwasanaethau cymdeithasol, i ariannu ein tai ac i ariannu ein cymorth iechyd meddwl? Ond yn bennaf oll, am unwaith, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ddangos ychydig o ostyngeiddrwydd ac ymddiheuro am y sylwadau ofnadwy a oedd yn cymharu ein hawdurdodau lleol ag Oliver Twist?
Mae'r Aelod dros Aberconwy yn dweud ei bod hi'n siarad ar ran cyflogeion a gweithwyr llywodraeth leol. Nid wyf yn gwybod pa undeb llafur rydych chi'n aelod ohono. [Torri ar draws.] Rwy'n aelod o Unsain, yr undeb mwyaf yng Nghymru, a'r undeb mwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Gadewch imi ddweud wrthych, wrth siarad â chydweithwyr yn Unsain—[Torri ar draws.] Wrth siarad â chydweithwyr yn Unsain, yr hyn nad ydynt yn ei wneud—yr hyn nad ydynt yn ei wneud—yw dweud wrthyf, 'Wyddoch chi beth, Alun? Yr hyn y dylech ei wneud yw dilyn yr un dull o weithredu â'r Ceidwadwyr yn Lloegr.'
Wyddoch chi beth arall rwy'n ei glywed—[Torri ar draws.] Rhywbeth arall rwy'n ei glywed—[Torri ar draws.] A rhywbeth arall rwy'n ei glywed gan arweinwyr cynghorau Ceidwadol ledled Cymru yw nad ydynt hwy eisiau inni ddilyn polisïau Ceidwadol ychwaith. Yr unig bobl sydd am inni ddilyn polisïau Ceidwadol yw'r bobl sy'n eistedd y tu ôl i mi. Nid yw eu harweinwyr cynghorau am weld yr un toriadau yng Nghymru ag y gwelwn ar draws y ffin yn Lloegr. Nid ydynt am weld polisïau Ceidwadol ar waith yma. Yr unig bobl sydd eisiau hynny yw'r grŵp Ceidwadol.
Mae'n bryd i'r Ceidwadwyr fod yn onest, yn gwbl onest, gyda phobl am effaith yr hyn y mae cyni yn ei wneud i bobl. Gallaf ddeall nad ydynt eisiau inni ddychwelyd ato o hyd. Gallaf ddeall nad ydynt am inni sôn am gyni, ond pe bai hi'n deall cyllideb y DU, pe bai'n darllen cyllideb y DU, byddai'n gwybod hyn hefyd—y bydd gwariant ar y rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus yn lleihau ac nid yn cynyddu, ac wrth i amser fynd heibio, yr adeg hon y flwyddyn nesaf, bydd mwy o arian yn cael ei wario'n cefnogi llywodraeth leol yng Nghymru nag a fydd ar draws Lloegr gyfan. At hynny y mae polisi Ceidwadol yn arwain.
Gall Ysgrifenyddion y Cabinet sy'n gyfrifol am feysydd fel trafnidiaeth, addysg a'r economi ddarparu arian i lywodraeth leol ei wario yn eu meysydd cyfrifoldeb. Pa gymorth ariannol oddi wrth aelodau eraill o'r Cabinet, o'u cyllidebau, y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn amdano i gefnogi llywodraeth leol, sydd mewn angen dybryd?
Gadewch imi ddweud hyn: mae'r pwynt y mae'r Aelod dros Ddwyrain Abertawe yn ei wneud yn un da, oherwydd, wrth gwrs, nid yr arian drwy'r grant cynnal refeniw yn unig y mae llywodraeth leol yn ei gael, mae hefyd yn cael arian o elfennau eraill o gyllideb Cymru. Mae eraill wedi sôn eisoes—credaf fod Siân Gwenllian o Blaid Cymru wedi siarad am y £15 miliwn sy'n mynd i addysg. Wrth gwrs mae hwnnw hefyd yn mynd drwy lywodraeth leol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol hefyd wedi gwneud datganiadau o bwys ar y cyllid sy'n mynd drwy lywodraeth leol i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol ac i gefnogi gweithio rhanbarthol. Felly, mae symiau sylweddol o arian yn mynd i lywodraeth leol y tu hwnt i'r grant cynnal refeniw ac at ei gilydd, rwy'n credu y bydd hwnnw dros £70 miliwn yn y flwyddyn nesaf.