Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol y gall diffyg parodrwydd ar gyfer bywyd fel sifiliaid olygu bod cyn-filwyr yn wynebu rhwystrau sylweddol, gan gynnwys trafferth i gael swydd. Yn eich datganiad ym mis Ebrill, dywedasoch fod grŵp arbenigol y lluoedd arfog yn arwain ar ddatblygu pecyn cyflogwr a llwybr cyflogaeth i helpu cyn-filwyr i gael mynediad at gyflogaeth ystyrlon. Syniad da. A allai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith hwn, a pha bryd y mae'n disgwyl cyhoeddi cynigion y grŵp?