Setliad Llywodraeth Leol 2019-20

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:24, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Gadewch imi ddweud hyn: mae'r pwynt y mae'r Aelod dros Ddwyrain Abertawe yn ei wneud yn un da, oherwydd, wrth gwrs, nid yr arian drwy'r grant cynnal refeniw yn unig y mae llywodraeth leol yn ei gael, mae hefyd yn cael arian o elfennau eraill o gyllideb Cymru. Mae eraill wedi sôn eisoes—credaf fod Siân Gwenllian o Blaid Cymru wedi siarad am y £15 miliwn sy'n mynd i addysg. Wrth gwrs mae hwnnw hefyd yn mynd drwy lywodraeth leol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol hefyd wedi gwneud datganiadau o bwys ar y cyllid sy'n mynd drwy lywodraeth leol i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol ac i gefnogi gweithio rhanbarthol. Felly, mae symiau sylweddol o arian yn mynd i lywodraeth leol y tu hwnt i'r grant cynnal refeniw ac at ei gilydd, rwy'n credu y bydd hwnnw dros £70 miliwn yn y flwyddyn nesaf.