Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 7 Tachwedd 2018.
O ran ble mae llywodraeth leol, yn amlwg, byddem yn awyddus—. Nid yw Llywodraeth Lafur Cymru yn Llywodraeth sy'n ceisio mynd ar drywydd polisi cyni; nid dyna y ceisiwn ei wneud. Rydym eisiau gallu ariannu llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn briodol, er mwyn ein galluogi i ddarparu'r gwasanaethau o ansawdd uchel y mae pawb ohonom am eu gweld. Ond nid yw'n gredadwy i ddod i'r lle hwn a dadlau y gallwn gynyddu cyllid llywodraeth leol heb dorri cyllid mewn mannau eraill. Ac os yw'r Aelod yn dadlau y dylem newid y gyllideb yn llwyr, mae croeso iddo wneud y ddadl honno, ac edrychaf ymlaen at ei weld yn dweud wrthyf ble y byddai am wneud y toriadau.