Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Mae'r fformiwla yn eiddo, os mynnwch, i gyngor partneriaeth Cymru a chaiff ei diweddaru'n rheolaidd gan waith yr is-grŵp cyllid a'r is-grŵp dosbarthu, lle mae llywodraeth leol Cymru gyfan yn cael ei chynrychioli. Nid wyf yn meddwl bod y fformiwla'n sefydlog, os mynnwch; mae'n cael ei hadolygu'n gyson ac yn cael ei diwygio'n barhaus, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Bydd yr Aelod yn deall bod yr is-grŵp dosbarthu'n cynhyrchu adroddiad, a gyhoeddir bob blwyddyn, sy'n amlinellu'r gwaith y mae'r is-grŵp dosbarthu yn ei wneud, neu'n arwain arno o leiaf, er mwyn sicrhau y gwneir gwelliannau ar sail flynyddol i'r fformiwla. Felly, buaswn yn dweud wrtho nad wyf yn credu bod y fformiwla'n sefydlog yn y ffordd y mae'n disgrifio weithiau, ond caiff ei hadolygu'n gyson a'i diweddaru'n barhaol gan lywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd gydag aelodau annibynnol.