Awdurdodau Lleol yng Ngorllewin De Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 3:41, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, nid yw'r holl broblemau cyflogaeth yn dibynnu ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn dewis gwario'r £16 biliwn a gaiff. Yn gynharach eleni dangosodd ymchwil gan Wales Online fod y tri awdurdod lleol yn fy rhanbarth wedi gwario bron £2.3 miliwn rhyngddynt yn talu staff a oedd wedi'u gwahardd dros dro am amrywiaeth o resymau. Nawr, wrth gwrs, nid wyf yn disgwyl ichi roi sylwadau ar achosion unigol, ond a ydych yn credu bod mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud, efallai, o ran canllawiau i helpu cynghorau ac unigolion i ymdrin â dyraniadau a digwyddiadau? Rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith a wnawn yma ar urddas a pharch, ac rwy'n meddwl tybed a yw cynghorau'n sylwi ar beth a wnawn ac a fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu eu cyfeirio yma i gael cyngor da.