Awdurdodau Lleol yng Ngorllewin De Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:42, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n hapus bob amser i weithio gyda'r holl awdurdodau lleol ac i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fel corff cynrychioliadol, er mwyn darparu'r math o bolisïau parch y byddai pawb ohonom am eu gweld yn y lle hwn ac yn ein holl sefydliadau democrataidd. Rwy'n hapus iawn i barhau i weithio gydag awdurdodau lleol i gyflawni hynny. Os oes gan yr Aelod faterion penodol yr hoffai eu dwyn i fy sylw, hoffwn ofyn iddi wneud hynny drwy ohebiaeth.