Democratiaeth Leol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 3:43, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Wrth ateb Mark Isherwood, funud yn ôl, dywedodd nad rôl Gweinidogion yn y lle hwn oedd dyfalu beth fydd penderfyniadau awdurdodau lleol. Ond wrth gwrs, dyna'n union beth a wnaeth ei gyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros ynni, mewn perthynas â phenderfyniad cynllunio ar gyfer Creigiau Llandeglau yn sir Faesyfed. Credaf iddo glywed y drafodaeth a ddigwyddodd rhyngom yn gynharach. Yn yr achos penodol hwn, gwrthododd yr awdurdod lleol y cais cynllunio drwy bleidlais bron yn unfrydol. A yw'n cytuno â mi mai un peth sy'n tueddu i danseilio democratiaeth leol yw bod Gweinidogion, am resymau na ellir eu disgrifio fel rhai o bwysigrwydd dirfawr yn genedlaethol, yn gwrthdroi penderfyniadau'r rhai a etholwyd ar lawr gwlad i gynrychioli buddiannau'r bobl yr oedd y mwyafrif llethol ohonynt yn gwrthwynebu'r cynnig hwn?