2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 7 Tachwedd 2018.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gryfhau democratiaeth leol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ52868
Rwy'n bwriadu cyflwyno Bil yn y flwyddyn galendr nesaf a fydd yn gweithredu nifer o'r cynigion a nodir yn y papur ymgynghori 'Diwygio Etholiadol mewn Llywodraeth Leol yng Nghymru' a fydd yn cyfrannu at gryfhau democratiaeth leol ar draws y wlad gyfan, gan gynnwys Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Wrth ateb Mark Isherwood, funud yn ôl, dywedodd nad rôl Gweinidogion yn y lle hwn oedd dyfalu beth fydd penderfyniadau awdurdodau lleol. Ond wrth gwrs, dyna'n union beth a wnaeth ei gyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros ynni, mewn perthynas â phenderfyniad cynllunio ar gyfer Creigiau Llandeglau yn sir Faesyfed. Credaf iddo glywed y drafodaeth a ddigwyddodd rhyngom yn gynharach. Yn yr achos penodol hwn, gwrthododd yr awdurdod lleol y cais cynllunio drwy bleidlais bron yn unfrydol. A yw'n cytuno â mi mai un peth sy'n tueddu i danseilio democratiaeth leol yw bod Gweinidogion, am resymau na ellir eu disgrifio fel rhai o bwysigrwydd dirfawr yn genedlaethol, yn gwrthdroi penderfyniadau'r rhai a etholwyd ar lawr gwlad i gynrychioli buddiannau'r bobl yr oedd y mwyafrif llethol ohonynt yn gwrthwynebu'r cynnig hwn?
Lywydd, mae'r Aelod yn fy nhemtio i gyflawni cam gwag dybryd. Dysgais drwy brofiad chwerw na ddylwn fwrw amcan ynghylch penderfyniadau ynglŷn ag unrhyw fater cynllunio ac nid yw'n fwriad gennyf wneud hynny y prynhawn yma.
Yn ddiweddar, pasiodd Cyngor Sir Powys gynnig yn unfrydol a oedd yn datgan bod awdurdodau lleol yn rhy aml yn colli hyder yr etholwyr ynddynt, oherwydd eu bod yn ymddangos yn bell ac yn anatebol, a chefnogodd cynghorwyr o bob plaid y cynnig a gyflwynwyd gan gynghorydd sir Dolforwyn, Gareth Pugh. Cytunwyd bod angen gwneud rhagor i ennyn diddordeb a brwdfrydedd yr etholwyr i wneud llywodraeth leol yn rhan fwy bywiog a pherthnasol o'n cymunedau. Daw'r pryderon hyn o ganlyniad i'r ffaith nad oedd yr awdurdod lleol wedi ymgysylltu cymaint ag y gallent fod wedi'i wneud ynglŷn â chais cynllunio cyfleuster ailgylchu mawr yn Aber-miwl yn fy etholaeth. O'ch rhan chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i roi arweiniad i gynghorau sir lleol ynglŷn â sut y gallant wella'u hymgysylltiad ag etholwyr mewn perthynas â phenderfyniadau mawr pwysig?
Gyda chaniatâd y Llywydd, ni chyfeiriaf at benderfyniadau unigol awdurdodau unigol, ond hoffwn allu dweud bod pob un ohonom, ar bob ochr i'r Siambr, am weld democratiaeth fywiog ym mhob rhan o'r wlad ac mae hynny'n golygu sicrhau bod awdurdodau lleol, ni ein hunain fel Aelodau lleol, ac Aelodau o Senedd y DU yn ogystal, oll yn cymryd rhan mewn trafodaethau lleol ar ddyfodol ein cymunedau.
Rwy'n croesawu'n fawr y penderfyniad yn y Cynulliad Cenedlaethol i gyflwyno Senedd Ieuenctid Cymru a gwn fy mod eisiau siarad â'r bobl sy'n sefyll am sedd Blaenau Gwent, lle mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn ceisio—[Anghlywadwy.] Nid wyf yn meddwl bod fy nyddiau o sefyll etholiad i unrhyw sefydliad ieuenctid o fy mlaen, gadewch i mi ddweud. [Chwerthin.] Gobeithio y bydd pawb ohonom yn cymryd rhan yn y ddadl honno—
Ni oedd y dyfodol unwaith.
Ni oedd y dyfodol. [Chwerthin.] A gobeithio y bydd pawb ohonom yn gallu ymuno â'r bobl ifanc hynny i gymryd rhan mewn dadl ynghylch natur ein democratiaeth.
Nod y cynigion a gyflwynwyd gan fy rhagflaenydd, yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau ar gryfhau democratiaeth leol, oedd gwneud yn union hynny: cryfhau cyfranogiad gwleidyddol, cryfhau cyfranogiad wrth wneud penderfyniadau a chryfhau atebolrwydd y rhai sy'n gwneud penderfyniadau'n lleol. Pan fyddwn yn trafod y Bil hwn, rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonom, ar bob ochr i'r Siambr, yn cymryd rhan yn y drafodaeth honno ac yn sicrhau ein bod yn myfyrio ar sut y gallwn gryfhau atebolrwydd democrataidd ymhellach ym mhob rhan o'r wlad hon.
Credaf y gall cynghorau cymuned chwarae rhan bwysig iawn yn cryfhau cyfranogiad democrataidd pobl a'r teimlad fod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn ffordd sy'n berthnasol iddynt hwy. Un o argymhellion y panel adolygu annibynnol ar gynghorau cymuned a thref oedd y dylai Cymru gyfan gael ei chynrychioli gan gynghorau cymuned a thref—nid yw hynny'n wir yn awr wrth gwrs—er mwyn darparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar le fel y rhagwelwyd yn yr adroddiad hwnnw. Tybed beth yw eich barn ar hynny, Weinidog. Er mwyn cryfhau cynghorau cymuned, a oes camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gynyddu'r gronfa o glercod cynghorau tref a chymuned cymwys a phriodol ar draws Cymru? Gwn fod rhai o'r cynghorau cymuned llai o faint yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn enwedig yn cael trafferth weithiau i ddod o hyd i'r person cywir i'w cefnogi.
A gaf fi roi croeso mawr iawn i adroddiad y panel ar gynghorau tref a chymuned a ddaeth i law ar 3 Hydref? Roeddwn yn credu bod yr argymhellion yn argyhoeddiadol iawn mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Rwy'n hoff iawn o gynghorau tref a chymuned lleol. Gwn ein bod wedi elwa'n fawr o waith Cyngor Tref Tredegar gartref. A gaf fi ddweud fy mod yn credu bod nifer o ffyrdd yr hoffwn fwrw ymlaen â'r adroddiadau a'r argymhellion? Rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn cael y sgwrs honno am rôl cynghorau tref a chymuned ac yn gwneud hynny yn y modd deallus y gallodd y panel ei wneud wrth gyflawni eu gwaith. Byddaf yn gofyn barn yr Aelodau ar sut y dymunwn fwrw ymlaen â hyn. Mae gennym argymhellion i'w gwneud ar hynny, ond gobeithiaf y byddwn yn gallu cymryd rhan mewn dadl gadarnhaol am yr effaith gadarnhaol y gall cynghorau tref a chymuned ei chael ar ein hatebolrwydd a'n democratiaeth a hefyd ar sut y darparwn wasanaethau ar draws y wlad. Mae'r cwestiwn a ydym yn dymuno creu cynghorau newydd neu uno cynghorau presennol yn fater ar gyfer trafodaeth yn lleol. Ceir deddfwriaeth gyfredol a fydd yn galluogi hynny i ddigwydd. Ond byddaf yn edrych ar lunio gwelliannau i'r Bil fis Chwefror nesaf, os yw hynny'n angenrheidiol, er mwyn rhoi bod i rai o'r argymhellion hynny.