Hyfforddi Peilotiaid Saudi Arabia yn RAF y Fali

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:53, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Nid oes unrhyw drafodaethau wedi digwydd ar ddefnydd o RAF y Fali at ddibenion hyfforddi peilotiaid o Saudi Arabia. Mater i'r RAF a'r Weinyddiaeth Amddiffyn yw'r defnydd o RAF y Fali at ddibenion hyfforddiant. Fodd bynnag, cyfarfûm â'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gynharach yr wythnos hon a byddaf yn cyfarfod â Gweinidogion y Weinyddiaeth Amddiffyn eto yr wythnos nesaf.