Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Roeddwn am fanteisio ar y cyfle hwn heddiw i bob un ohonom gofio ein ffrind a'n cyd-Aelod Carl Sargeant, flwyddyn wedi ei farwolaeth. Gwn ein bod oll yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau yma heddiw, ac rydym oll yn ei gofio yn ein ffyrdd unigryw ein hunain—o'i wenau drygionus i'w areithiau anghonfensiynol, i'w ofal am eraill. Roedd bob amser yn barod i'ch cefnogi. Ni allais dalu teyrnged i Carl yn y Senedd y llynedd; torrais fy mraich ar yr un adeg, a gwyliais bob un o'ch teyrngedau didwyll ar Senedd.tv. Cyfarfûm â Carl gyntaf pan oeddwn yn llywydd myfyrwyr, yn lobïo Gweinidogion ac Aelodau Cynulliad wrth iddynt fynd i mewn i Dŷ Hywel, ar y pryd, ar gyfer y dadleuon, ac roedd Carl bob amser yn aros i siarad gyda mi pan nad oedd Aelodau Cynulliad eraill yn gwneud hynny—ac nid wyf am enwi enwau yma heddiw. Fe geisiodd ac fe fethodd fy recriwtio i'r Blaid Lafur, ond yn y blynyddoedd diwethaf daeth ffrind da iawn, yn rhywun y gallwn droi ato a dibynnu arno bob amser i wrando arnaf a fy nghefnogi pan wynebais heriau personol yn fy mywyd. A byddaf bob amser yn parchu'r cyfeillgarwch hwnnw, a gobeithiaf y gallaf ddatblygu'r cyfeillgarwch hwnnw gyda'i fab, Jack Sargeant.
Fe wnaeth y diwrnod hwnnw y llynedd newid gwleidyddiaeth am byth. Gwnaeth i mi feddwl sut rydym yn trin pobl eraill, a sut y gallwn ddatblygu cysylltiadau hirdymor y tu hwnt i ffiniau gwleidyddiaeth bleidiol gul. Gwn fod gwaith Jack Sargeant ar siarad am wleidyddiaeth fwy caredig yn gallu helpu a chynorthwyo pawb ohonom—pob un ohonom—yn yr ystafell hon heddiw.
Credaf ei bod hi'n bwysig hefyd inni gofio ymrwymiad Carl i ymgyrch y Rhuban Gwyn a'r mentrau a roddodd ar waith i fynd i'r afael â melltith cam-drin domestig yng Nghymru. Ar ôl ei farwolaeth, dywedodd Cymorth i Fenywod Cymru am Carl, a dyfynnaf,
Roedd yn arweinydd carismatig a dylanwadol, ac yn gefnogwr nifer o wasanaethau cam-drin domestig ledled Cymru.
Chwaraeodd ran allweddol yng ngwaith Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, ac anaml y'i gwelid heb ruban gwyn ar labed ei got.
Wel, Carl, os wyt ti i fyny yno'n gwrando arnom, rydym yn iawn, gyfaill, ond byddwn bob amser yn dy gofio di, a byddwn yn gwneud cyfiawnder â dy waddol, ond rydym yn dy golli'n ofnadwy yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.