– Senedd Cymru am 4:00 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r datganiad cyntaf—Bethan Sayed.
Roeddwn am fanteisio ar y cyfle hwn heddiw i bob un ohonom gofio ein ffrind a'n cyd-Aelod Carl Sargeant, flwyddyn wedi ei farwolaeth. Gwn ein bod oll yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau yma heddiw, ac rydym oll yn ei gofio yn ein ffyrdd unigryw ein hunain—o'i wenau drygionus i'w areithiau anghonfensiynol, i'w ofal am eraill. Roedd bob amser yn barod i'ch cefnogi. Ni allais dalu teyrnged i Carl yn y Senedd y llynedd; torrais fy mraich ar yr un adeg, a gwyliais bob un o'ch teyrngedau didwyll ar Senedd.tv. Cyfarfûm â Carl gyntaf pan oeddwn yn llywydd myfyrwyr, yn lobïo Gweinidogion ac Aelodau Cynulliad wrth iddynt fynd i mewn i Dŷ Hywel, ar y pryd, ar gyfer y dadleuon, ac roedd Carl bob amser yn aros i siarad gyda mi pan nad oedd Aelodau Cynulliad eraill yn gwneud hynny—ac nid wyf am enwi enwau yma heddiw. Fe geisiodd ac fe fethodd fy recriwtio i'r Blaid Lafur, ond yn y blynyddoedd diwethaf daeth ffrind da iawn, yn rhywun y gallwn droi ato a dibynnu arno bob amser i wrando arnaf a fy nghefnogi pan wynebais heriau personol yn fy mywyd. A byddaf bob amser yn parchu'r cyfeillgarwch hwnnw, a gobeithiaf y gallaf ddatblygu'r cyfeillgarwch hwnnw gyda'i fab, Jack Sargeant.
Fe wnaeth y diwrnod hwnnw y llynedd newid gwleidyddiaeth am byth. Gwnaeth i mi feddwl sut rydym yn trin pobl eraill, a sut y gallwn ddatblygu cysylltiadau hirdymor y tu hwnt i ffiniau gwleidyddiaeth bleidiol gul. Gwn fod gwaith Jack Sargeant ar siarad am wleidyddiaeth fwy caredig yn gallu helpu a chynorthwyo pawb ohonom—pob un ohonom—yn yr ystafell hon heddiw.
Credaf ei bod hi'n bwysig hefyd inni gofio ymrwymiad Carl i ymgyrch y Rhuban Gwyn a'r mentrau a roddodd ar waith i fynd i'r afael â melltith cam-drin domestig yng Nghymru. Ar ôl ei farwolaeth, dywedodd Cymorth i Fenywod Cymru am Carl, a dyfynnaf,
Roedd yn arweinydd carismatig a dylanwadol, ac yn gefnogwr nifer o wasanaethau cam-drin domestig ledled Cymru.
Chwaraeodd ran allweddol yng ngwaith Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, ac anaml y'i gwelid heb ruban gwyn ar labed ei got.
Wel, Carl, os wyt ti i fyny yno'n gwrando arnom, rydym yn iawn, gyfaill, ond byddwn bob amser yn dy gofio di, a byddwn yn gwneud cyfiawnder â dy waddol, ond rydym yn dy golli'n ofnadwy yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Jane Hutt.
Lywydd, hoffwn dalu teyrnged i fenywod yn y rhyfel byd cyntaf y disgrifiwyd eu rolau a'u bywydau gan fy etholwr a'r hanesydd Cymreig, yr Athro Deirdre Beddoe, ddydd Sul diwethaf ar BBC2. Fel y dywedodd yr Athro Beddoe wrthym, ar ddechrau'r rhyfel, câi menywod eu hannog gan Weinidogion, gan gynnwys David Lloyd George, i ddweud hwyl fawr wrth y dynion a garent ym mhob stryd a phob cymuned yn y tir, gyda phropaganda llywodraeth yn pwysleisio y dylai mamau, gwragedd a chariadon anfon eu dynion i'r rhyfel. Nododd yr Athro Beddoe y rôl allweddol y chwaraeodd menywod, yn enwedig menywod Cymru, yn ennill y rhyfel. Disgrifiodd sut y bwydai menywod y genedl ym Myddin Dir y Menywod, yn nyrsio, ac yn gweithio mewn rolau peryglus yn aml mewn 11 o ffatrïoedd arfau yng Nghymru, a darganfu mai'r swffragetiaid oedd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer recriwtio i'r heddlu.
Ar ddechrau'r rhyfel, roedd menywod a weithiai yn aml yn gwneud hynny am y nesaf peth i ddim fel morwynion domestig a gweinyddesau, felly roedd y cyfle i weithio mewn amrywiaeth o weithleoedd gwahanol yn rhoi ymdeimlad o ryddid i fenywod, ac erbyn diwedd y rhyfel, roedd 80 y cant o'r gweithlu yn fenywod. Chwaraeai menywod eu rhan i ffwrdd o'r ffrynt, ond pan ddechreuodd y rhyfel, nid oedd ganddynt hawl i bleidleisio. Pan ddaeth y rhyfel i ben, dywedwyd wrthynt, 'Yn y cartref y mae eich lle.' Ond enillodd menywod y bleidlais yn rhannol yn 1918, buddugoliaeth a ddathlwyd gennym yn y Senedd hon ac ar gyfer y canmlwyddiant eleni. Yn ystod wythnos y cofio arwyddocaol iawn eleni, rhaid inni gofio aberth a chyfraniadau menywod, yn ogystal â chofio'r holl ddynion a gollasant yn y rhyfel byd cyntaf.
David Rees.
Diolch, Lywydd. Ar 10 Tachwedd 1925, 93 o flynyddoedd yn ôl, ganwyd Richard Walter Jenkins yr ieuengaf yng nghartref y teulu yng Nghwm Afan. Rydym yn ei adnabod fel Richard Burton. Nawr, heddiw, nid wyf am dynnu sylw at ei fywyd, gan fy mod yn gobeithio bod yma ar adeg canmlwyddiant ei eni i wneud hynny, ond yn hytrach, rwyf am ddathlu 36ain ras y Richard Burton 10K. Cynhaliwyd y ras ffordd gyntaf ym 1982, ar ôl llawer o waith gan bwyllgor Cymdeithas Les Cwmafan a ddaliodd ati i gynnal y ras honno am flynyddoedd lawer. Teithiodd y ras 10 km gyntaf drwy fy mhentref, sef Cwmafan, a chafodd ei defnyddio i godi arian ar gyfer y cymunedau a chyfleusterau. Cododd y rasys cynnar hynny ddigon o arian i ddatblygu campfa i glybiau chwaraeon a phobl leol ei defnyddio, ac felly gwelsom fudd gwirioneddol yn dod i'r gymuned o'r ras.
Ers 1982, rydym wedi gweld y ras yn tyfu, a ddydd Sul diwethaf, 36 o flynyddoedd ar ôl iddi gael ei rhedeg gyntaf, denodd oddeutu 1,800 o redwyr—a hynny heb gynnwys y 400 a mwy o redwyr milltir bach a gymerodd ran mewn ras gynharach ar yr un diwrnod—o bob cwr o'r DU, i redeg un o'r rasys ffordd 10 km hynaf yn ein gwlad. Nawr, mae pawb yn—. Mae cryn dipyn o bobl yn cymryd rhan: cynghorwyr, ASau—ac mae un Aelod Cynulliad wedi rhedeg y ras honno hefyd, sef Bethan Sayed. Nid yw fy nghorffolaeth i'n addas ar gyfer rhedeg ras ffordd, felly—. [Torri ar draws.] Na, rwy'n credu y gwnaf fi gadw'n glir o hynny.
Ond er iddi ddod yn ras gydnabyddedig ar galendr athletau Cymru, mae'n dal yn aros yn ffyddlon i'w bwriad gwreiddiol sef codi arian ar gyfer grwpiau lleol. Heddiw, caiff ei threfnu gan bâr o'r enw Shaun ac Anna Tobin, gyda chefnogaeth pwyllgor gweithgar iawn o wirfoddolwyr, ac maent wedi trawsnewid y llwybr bellach i gynnwys Cwmafan a Phontrhyd-y-fen ar hyd llwybr Richard Burton. Mae'n ras sy'n ymgorffori ysbryd a harddwch ein cymoedd enwog yng Nghymru ynghyd ag ysbryd y chwedl o ddyn, Richard Burton. Hir y parhaed.