Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol a'n hadroddiad, 'Cyrraedd y nod?', a gyhoeddwyd gennym ym mis Mehefin. Nod ein hymchwiliad oedd edrych i weld a yw gwaith Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio dull wedi'i dargedu i gynorthwyo disgyblion difreintiedig i gyrraedd eu potensial llawn ac i godi safonau ysgolion yn fwy cyffredinol yn cyrraedd y nod go iawn, a beth arall y gellir ei wneud i sicrhau'r effaith fwyaf a'r gwerth gorau am arian o ddull wedi'i dargedu. Os yw Cymru i gael y system addysg o'r radd flaenaf y mae pawb ohonom yn dyheu amdani, ni allwn ac ni ddylwn adael unrhyw ddisgyblion ar ôl. Dyna pam rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn croesawu ein hadroddiad ac wedi derbyn 24 o 31 o'n hargymhellion a thri arall mewn egwyddor.
Mae gan Lywodraeth Cymru ddull sefydledig o dargedu adnoddau ychwanegol at grwpiau penodol o ddisgyblion sydd mewn perygl o fethu cyrraedd eu potensial llawn. Mae mynd i'r afael â'r gydberthynas negyddol rhwng amddifadedd, fel y'i mesurir yn ôl cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim, a chyrhaeddiad wedi bod yn flaenoriaeth ers blynyddoedd lawer. Wrth gwrs, mae rhai disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn gwneud yn dda iawn ac yn ffynnu'n academaidd, ond gwyddom fod yna lawer rhagor nad ydynt yn gwneud hynny. Mae disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sy'n aml yn gwneud yn dda yn aml yn gwneud hynny yn groes i'r disgwyl ac er gwaethaf, yn hytrach nag oherwydd, eu hamgylchiadau. Dyna pam y mae cymorth ac ymyrraeth wedi'i dargedu i chwalu'r anghydraddoldebau strwythurol hyn, megis y grant datblygu disgyblion, mor hanfodol. Dyna pam y mae adroddiad y pwyllgor yn mynegi cefnogaeth gyffredinol i'r egwyddor o dargedu cyllid. Fodd bynnag, ar £94 miliwn y flwyddyn, mae'r grant datblygu disgyblion yn llyncu rhan sylweddol o'r gyllideb addysg ac mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian.
Edrychodd ein hadroddiad hefyd ar raglen gwella ysgolion Llywodraeth Cymru, Her Ysgolion Cymru, rhaglen wedi'i thargedu a weithiodd gyda 39 o ysgolion a oedd yn tangyflawni yng Nghymru rhwng 2014 a 2017.
Yn gyntaf, ar y grant datblygu disgyblion, y bwriedir iddo fod ar gyfer pob disgybl sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim, gan gynnwys y rhai sy'n cyflawni ar lefel uchel ond a allai gyflawni mwy hyd yn oed, canfu ein hymchwiliad fod y grant datblygu disgyblion yn cael ei dargedu'n bennaf ar gyfer disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim ac sy'n tangyflawni, ac nid ar gyfer rhai mwy abl a thalentog. Rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad ar hyn ac eisoes wedi rhoi camau ar waith i ymdrin â'r mater.