5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol

– Senedd Cymru am 4:07 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:07, 7 Tachwedd 2018

Sy'n dod â ni at yr eitem ar ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol, ac rydw i'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Lynne Neagle.

Cynnig NDM6852 Lynne Neagle

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cyrraedd y nod? Cyllid wedi’i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mehefin 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 4:07, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol a'n hadroddiad, 'Cyrraedd y nod?', a gyhoeddwyd gennym ym mis Mehefin. Nod ein hymchwiliad oedd edrych i weld a yw gwaith Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio dull wedi'i dargedu i gynorthwyo disgyblion difreintiedig i gyrraedd eu potensial llawn ac i godi safonau ysgolion yn fwy cyffredinol yn cyrraedd y nod go iawn, a beth arall y gellir ei wneud i sicrhau'r effaith fwyaf a'r gwerth gorau am arian o ddull wedi'i dargedu. Os yw Cymru i gael y system addysg o'r radd flaenaf y mae pawb ohonom yn dyheu amdani, ni allwn ac ni ddylwn adael unrhyw ddisgyblion ar ôl. Dyna pam rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn croesawu ein hadroddiad ac wedi derbyn 24 o 31 o'n hargymhellion a thri arall mewn egwyddor.

Mae gan Lywodraeth Cymru ddull sefydledig o dargedu adnoddau ychwanegol at grwpiau penodol o ddisgyblion sydd mewn perygl o fethu cyrraedd eu potensial llawn. Mae mynd i'r afael â'r gydberthynas negyddol rhwng amddifadedd, fel y'i mesurir yn ôl cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim, a chyrhaeddiad wedi bod yn flaenoriaeth ers blynyddoedd lawer. Wrth gwrs, mae rhai disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn gwneud yn dda iawn ac yn ffynnu'n academaidd, ond gwyddom fod yna lawer rhagor nad ydynt yn gwneud hynny. Mae disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sy'n aml yn gwneud yn dda yn aml yn gwneud hynny yn groes i'r disgwyl ac er gwaethaf, yn hytrach nag oherwydd, eu hamgylchiadau. Dyna pam y mae cymorth ac ymyrraeth wedi'i dargedu i chwalu'r anghydraddoldebau strwythurol hyn, megis y grant datblygu disgyblion, mor hanfodol. Dyna pam y mae adroddiad y pwyllgor yn mynegi cefnogaeth gyffredinol i'r egwyddor o dargedu cyllid. Fodd bynnag, ar £94 miliwn y flwyddyn, mae'r grant datblygu disgyblion yn llyncu rhan sylweddol o'r gyllideb addysg ac mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian.

Edrychodd ein hadroddiad hefyd ar raglen gwella ysgolion Llywodraeth Cymru, Her Ysgolion Cymru, rhaglen wedi'i thargedu a weithiodd gyda 39 o ysgolion a oedd yn tangyflawni yng Nghymru rhwng 2014 a 2017.

Yn gyntaf, ar y grant datblygu disgyblion, y bwriedir iddo fod ar gyfer pob disgybl sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim, gan gynnwys y rhai sy'n cyflawni ar lefel uchel ond a allai gyflawni mwy hyd yn oed, canfu ein hymchwiliad fod y grant datblygu disgyblion yn cael ei dargedu'n bennaf ar gyfer disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim ac sy'n tangyflawni, ac nid ar gyfer rhai mwy abl a thalentog. Rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad ar hyn ac eisoes wedi rhoi camau ar waith i ymdrin â'r mater.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 4:10, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i fonitro effaith y grant datblygu disgyblion yn agos a sicrhau gwerth am arian, ac rydym yn croesawu hynny. Dywedodd Estyn wrth y pwyllgor fod dwy ran o dair o ysgolion yn defnyddio'r grant yn effeithiol. Nododd Estyn ac Ysgrifennydd y Cabinet fod hyn i'w ddisgwyl gan ei fod yn adlewyrchu'r gyfran o ysgolion gydag arweinyddiaeth dda neu well. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn credu na ddylem fodloni ar sefyllfa lle nad yw traean yr ysgolion yn defnyddio'r grant datblygu disgyblion yn effeithiol a byddai'n gofyn am sicrwydd pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y pwynt hwn.

Mae'r grant datblygu disgyblion wedi bod ar waith ers dros chwe blynedd bellach, a buddsoddwyd bron i £400 miliwn ynddo. Mae consortia gwella ysgolion bellach wedi penodi arweinwyr grant datblygu disgyblion ym mhob un o'r pedwar rhanbarth. Rydym wedi argymell y dylent wneud llawer mwy i herio defnydd aneffeithiol o'r grant. Dyma rywbeth y canfu'r gwerthusiad gan Ipsos MORI a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru nad oedd yn digwydd yn ddigonol. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhellion yn hyn o beth, yn enwedig ynglŷn â sut y gellir defnyddio'r grant datblygu disgyblion i wella presenoldeb disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a'u hymgysylltiad â'u haddysg.

Ddirprwy Lywydd, rwyf am ganolbwyntio yn awr ar un neu ddau o'r argymhellion y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwrthod. O 2018-19, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion ddefnyddio'r grant datblygu disgyblion ar ddisgyblion sydd wedi bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim yn y naill neu'r llall o'r ddwy flynedd flaenorol; mae hyn yn cynnig hyblygrwydd sydd i'w groesawu. Fodd bynnag, nid yw ysgolion wedi cael unrhyw arian ychwanegol i wneud hyn, gan fod eu dyraniadau grant datblygu disgyblion yn seiliedig ar nifer y disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim mewn un flwyddyn. Os yw Llywodraeth Cymru am i ysgolion fabwysiadu diffiniad mwy hyblyg ar gyfer targedu'r grant, mae'r pwyllgor yn argymell y dylai ymrwymo i ariannu hyn yn llawn.

At hynny, mewn perthynas â dyraniadau, roedd y pwyllgor yn cydnabod y rhesymeg dros ddefnyddio data cyfrifiad ysgol blynyddol 2016: roedd y ffigurau prydau ysgol am ddim yn uwch yn y flwyddyn honno, gan alluogi mwy o arian i gael ei neilltuo ar gyfer y grant datblygu disgyblion. Fodd bynnag, roeddem yn bryderus ynglŷn ag ysgolion sy'n mynd yn groes i'r duedd ac a allai gael nifer uwch o ddisgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn 2017 neu 2018. O'r herwydd, galwasom am bennu dyraniadau'r grant datblygu disgyblion i ysgolion ar sail pa un bynnag sydd uchaf, naill ai nifer y disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn 2016 neu'r cyfrif diweddaraf sydd ar gael.

Gwnaeth y pwyllgor nifer o argymhellion ynghylch effaith y grant datblygu disgyblion ar gyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a chanlyniadau anfwriadol newidiadau i fesurau perfformiad cyfnod allweddol 4. Dengys data cyrhaeddiad gynnydd calonogol ar gau'r bwlch yng nghyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a disgyblion nad ydynt yn cael prydau am ddim, o leiaf hyd at 2016. Fodd bynnag, roedd y pwyllgor yn bryderus iawn ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd yn dilyn newidiadau Llywodraeth Cymru i fesurau perfformiad cyfnod allweddol 4 yn 2017, a leihaodd y pwysoliad a roddwyd i gymwysterau galwedigaethol oherwydd pryderon fod gormod o ddisgyblion yn cael eu cofrestru ar eu cyfer.

Gwn nad oes modd cymharu cyfraddau cyflawniad y mesurau trothwy lefel 2 rhwng 2017 a blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, yr hyn a oedd yn peri pryder gwirioneddol i'r pwyllgor oedd y bwlch a oedd yn tyfu rhwng disgyblion a oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim a'u cyfoedion. Canfuom nad oes cymhelliad i ysgolion gofrestru disgyblion ar gyfer cymwysterau galwedigaethol, hyd yn oed lle gallai fod yn iawn ar gyfer disgyblion unigol, ac mae hyn wedi effeithio'n anghymesur ar ddisgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim. Argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar fyrder i ymchwilio i'r canlyniad anfwriadol hwn a dysgu gwersi ar y cyfle cyntaf. Rydym yn cydnabod bod mesurau perfformiad dros dro newydd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer haf 2019. Fodd bynnag, o gofio bod y canlyniadau 2018 dros dro yn dangos sefyllfa debyg i 2017, byddem yn croesawu sicrwydd pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet fod carfannau prydau ysgol am ddim 2017 a 2018 heb gael eu heffeithio'n annheg ac yn niweidiol gan y newidiadau blaenorol. Sut y mae'r grant datblygu disgyblion wedi lliniaru, neu wedi methu lliniaru yn erbyn hyn?

Gellir dweud yr un peth am blant sy'n derbyn gofal; mae eu bwlch cyrhaeddiad o'i gymharu â'u cyfoedion wedi ehangu ers 2016 ar ôl blynyddoedd o gynnydd da ar gau'r bwlch. Gan symud ymlaen at yr elfen o'r grant datblygu disgyblion ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant wedi'u mabwysiadu, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r gwerthusiad a gomisiynodd gan ICF Consulting i wella'r rhaglen yn y dyfodol. Clywodd y pwyllgor nad oedd yr agwedd hon ar y grant datblygu disgyblion wedi bod yn ddigon strategol tan yn weddol ddiweddar, pan wellodd y consortia rhanbarthol y ffordd y maent yn targedu ac yn gweinyddu'r grant.

Roedd pryder mwyaf y pwyllgor, fodd bynnag, yn ymwneud â'r ffordd y caiff y grant datblygu disgyblion ei ddefnyddio neu'r ffordd na chaiff ei ddefnyddio ar blant wedi'u mabwysiadu. Ceir oddeutu 4,000 o blant sy'n derbyn gofal plant yng Nghymru, a 3,000 i 3,500 amcangyfrifedig o blant wedi'u mabwysiadu. Er bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gonsortia dargedu'r grant datblygu disgyblion ar gyfer plant wedi'u mabwysiadu yn ogystal â phlant sy'n derbyn gofal, nid yw'r dyraniad cyllid ond yn seiliedig ar niferoedd y plant sy'n derbyn gofal yn unig. Mae hyn yn golygu un o ddau beth: naill ai nad yw'r grant datblygu disgyblion yn cael ei ddefnyddio ar gyfer plant wedi'u mabwysiadu neu os yw'n cael ei ddefnyddio, mae'r swm y pen o £1,150 wedi ei wanhau bron i'w hanner i bob pwrpas.

Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn edrych ar sut y gellir mynd ati'n fwy rhagweithiol i nodi plant sydd wedi'u mabwysiadu a'u cefnogi wedyn drwy'r grant datblygu disgyblion. Fodd bynnag, rydym yn siomedig fod ein hargymhelliad y dylai'r grant datblygu disgyblion gael ei ddyrannu i gonsortia yn seiliedig ar y niferoedd plant sy'n derbyn gofal a phlant wedi'u mabwysiadu wedi ei wrthod, er ein bod yn nodi y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei adolygu'n rheolaidd.

Gan droi at Her Ysgolion Cymru, rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein pedwar argymhelliad, er mai mewn egwyddor y mae wedi derbyn un ohonynt. Er bod y gwelliannau a ddangoswyd gan ysgolion sy'n rhan o'r rhaglen yn amrywiol, gwnaeth rhai ysgolion yn dda iawn o ganlyniad i'r her a'r cymorth ychwanegol, yn enwedig yn rhanbarth canol de Cymru. Mae'n hanfodol na chollir momentwm yn yr ysgolion hyn yn dilyn cau rhaglen, ac rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi cytuno y dylai'r consortia rhanbarthol fonitro'r sefyllfa yn agos. Clywsom wahanol ddehongliadau o ran y bwriad i gynnal Her Ysgolion Cymru am gyfnod penodol yn unig, ond gwelwyd consensws cyffredinol yn ein tystiolaeth fod gwir angen i raglen o'r fath redeg am fwy na thair blynedd i gael effaith barhaol.

Nododd y pwyllgor safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet fod Her Ysgolion Cymru wedi cyflawni ei diben tra bo'r consortia'n magu gwraidd, ac y gallant bellach gymryd yr awenau o ran targedu gwaith gwella ysgolion ar gyfer ysgolion penodol. Ond ni allai'r pwyllgor ddeall pam fod y penderfyniad i ddod â Her Ysgolion Cymru i ben saith mis cyn i'r gwerthusiad, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun, gael ei gwblhau. Roeddem hefyd yn bryderus o glywed am ddiffyg ymrwymiad i ddysgu gwersi gan Her Ysgolion Cymru gyda'r rhai sy'n ganolog i'r gwaith o gyflawni'r rhaglen yn dweud wrth y pwyllgor eu bod yn teimlo eu bod wedi cael eu cau allan rywfaint.

Argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru a'r consortia wneud mwy i ddysgu gwersi gan Her Ysgolion Cymru er mwyn cymhwyso'r rhain i'r gwaith o wella ysgolion yn fwy cyffredinol, ac rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i wneud hyn. Roedd y pwyllgor yn pryderu, yn dilyn cau'r rhaglen, y byddai ei chyllideb flynyddol yn mynd yn ôl i gronfeydd wrth gefn, yn hytrach nag i fannau eraill o fewn y gyllideb addysg. Yn wir, mae'r ymchwiliad hwn wedi amlygu mater ehangach yn ymwneud ag ariannu ysgolion, sydd wedi codi dro ar ôl tro mewn gwahanol ymchwiliadau a wnaeth y pwyllgor. Bydd y pwyllgor yn edrych ar y materion hyn a'r broses o ddyrannu cyllidebau ysgol yn ei ymchwiliad sydd ar y ffordd i gyllido ysgolion, ac mae hyn, wrth gwrs, yn fater allweddol ar gyfer cyllideb ddrafft 2019-20, yn enwedig o ystyried y pryderon a fynegwyd ynghylch lefel y cyllid ar gyfer cyllidebau ysgolion.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r rhanddeiliaid am y ffordd y maent wedi ymwneud yn gadarnhaol â'r ymchwiliad ac am eu cyfraniadau gwerthfawr, yn ogystal â'r ysgolion yr ymwelwyd â hwy. Hoffwn ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb cadarnhaol i'r ymchwiliad hwn ac i'n hargymhellion. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gynorthwyo disgyblion difreintiedig i gyflawni eu potensial llawn a chodi safonau ysgolion yn fwy cyffredinol. Gobeithiaf fod ein hadroddiad wedi dangos gwerth monitro'n rheolaidd fod dull gweithredu Llywodraeth Cymru yn bendant yn werth yr arian.

Mae ein holl ddisgyblion, beth bynnag yw eu cefndir, yn haeddu cael yr effaith fwyaf a'r gwerth gorau am arian o ddull wedi'i dargedu. Diolch.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:19, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn. Fel aelod newydd o'r pwyllgor, mae hwn wedi bod yn ddeunydd darllen diddorol iawn, a chyda'r ffocws angenrheidiol iawn ar gyllidebau ysgol bellach, credaf ein bod i gyd yn croesawu'r craffu hwn ar effeithiolrwydd gweithgareddau penodol a sefydlogrwydd y ffrydiau incwm sy'n sail iddynt.

Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn gweld a yw arweinwyr ysgolion yn gwneud penderfyniadau gwariant ar sail yr hyn y credant y bydd yn gweithio orau ac yn gobeithio y gallant ddod o hyd i adnoddau digonol ar gyfer y penderfyniadau hynny yn nes ymlaen, neu a yw'n fater o ddod o hyd i'r cyllid yn gyntaf, gan arwain, efallai, at gynnig i blant sy'n llai na'r gorau sy'n bosibl. Oherwydd gellid dadlau yn y ddau achos, nad yw'r naill benderfyniad na'r llall mor effeithiol ag y mae angen iddo fod. Yn y cyntaf, mae'r ansawdd yno, ond gallai fod yn anfforddiadwy ac felly'n anghyflawnadwy, ac yn yr ail, efallai na fydd yr opsiwn rhatach yn cyrraedd y nod yn llwyr o ran yr amcanion mwy heriol ar gyfer plant penodol. Yn amlwg, rwy'n sylweddoli bod hyn yn gorsymleiddio'r cyfyng-gyngor sy'n wynebu arweinwyr ysgol—nid yw'r cyfan yn ymwneud ag arian—ond fel y mae argymhelliad 1 yn yr adroddiad hwn yn egluro, mae gwerth am arian a chost cyfle yn ystyriaethau ar gyfer y Cynulliad hwn, o ystyried y cyfyngiadau ariannol sydd arnom.

Rydym yn cydnabod yr hyn y gobeithiwch ei gyflawni drwy'r grant datblygu disgyblion, Ysgrifennydd y Cabinet, a byddem yn disgwyl amddiffyniad cadarn ohono pan ymddengys nad yw'n cyrraedd y nod, ond yr hyn y byddwn yn chwilo amdano'n benodol yw esboniad credadwy o pam y mae'n gweithio pan yw'n gweithio a gwerthusiad gonest pam nad yw'n gweithio pan nad yw'n gweithio. Oherwydd, os yw'n llythrennol ond yn ymwneud ag arian yn unig, byddwn yn cefnogi eich dadleuon i'r Ysgrifennydd cyllid dros gael mwy o arian. Fodd bynnag, os yw'n ymwneud â gwendidau o ran arweinyddiaeth ysgol neu gonsortia neu awdurdodau lleol, neu hyd yn oed o fewn Llywodraeth Cymru neu Estyn, rhaid i chi fod yn onest gyda ni. Felly, er fy mod yn derbyn gwerth systemau olrhain a chasglu data yn llwyr, a gwelaf eich bod wedi sôn am hynny yn eich ymateb i argymhelliad 1, mae gennyf ddiddordeb hefyd yn yr hyn y gallech ei alw'n—nid yw 'rheoli perfformiad' yn hollol gywir, ond y modd y byddwch yn casglu gwybodaeth ystyrlon am hynny i chi allu gweithredu arno wedyn.

Fel y gwyddoch, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mewn ariannu ysgolion yn fwy uniongyrchol ac ymddiried mewn athrawon ac aelodau eraill o staff i wneud penderfyniadau, ond daw hynny law yn llaw â mwy o gyfrifoldeb dros dryloywder a llywodraethu. Oherwydd gallwn ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif hyd ddydd y farn, ond fel y gwelwn dro ar ôl tro, nid yw hynny yr un fath â Llywodraeth Cymru yn derbyn atebolrwydd ac yn gweithredu pan fydd y Cynulliad yn tynnu sylw at ei gwendidau. Felly, mae'n braf nodi, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi derbyn cynifer o argymhellion yr adroddiad sy'n ymdrin â phryderon ynglŷn â methiant cenhadaeth mewn gwirionedd—nid yn gyffredinol, ond mewn rhai achosion.

Ac mae'r pwynt am golli ffocws ar blant mwy abl a thalentog o grwpiau targed y grant datblygu disgyblion yn sylw sy'n bwysig i mi, rhaid imi gyfaddef. I fod yn glir, nid wyf yn mynd i fod yn gwneud unrhyw ddadleuon dros ysgolion gramadeg yn ystod y ddadl hon, felly os gwelwch yn dda peidiwch â chael eich dargyfeirio gan hynny, ond mae'r cwestiwn ynglŷn â beth a ddigwyddodd i statws y Gymru ddosbarth gweithiol, anffyniannus fel crochan cyflawniad addysgol yn dal i hofran uwch ein pennau. Ac er y gallwn sôn am ein dealltwriaeth ehangach o effeithiau tlodi a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod, nid yw fel pe na baent yn bodoli o'r blaen, ac eto nid yw'n ymddangos bod ein system addysg yn darparu ar gyfer, nac yn codi mwy o'r bobl ifanc dlawd ond gwirioneddol alluog hyn i gyrraedd y cyfleoedd i'r un graddau ag y gallai ei wneud o'r blaen. Felly, byddwn yn disgwyl gweld yr argymhellion a dderbyniwyd, gan gynnwys argymhelliad 3, yn troi'n weithredu ac yn gwella cyrhaeddiad, a byddwn hefyd yn disgwyl asesiad o effaith briodoladwy eich ymgynghorwyr strategol y grant datblygu disgyblion.

Yn olaf, eich dull o atal rhai o'r ysgolion rhag chwarae'r system—y newid hwn o BTEC i TGAU ar gyfer y carfannau disgyblion y soniwn amdanynt yn y ddadl hon, a'r effaith ymddangosiadol ar raddau a natur cymwysterau galwedigaethol. Mae wedi cael ei godi o'r blaen, ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed ychydig mwy eto heddiw fod cofrestru'r plant y soniwn amdanynt am gymwysterau cyfwerth â TGAU yn hytrach na TGAU wedi gwneud i gau'r bwlch cyrhaeddiad edrych ychydig yn fwy trawiadol na'r hyn ydoedd mewn gwirionedd. Felly, rwy'n eich edmygu am beidio â derbyn hynny, ond nid wyf yn siŵr beth fydd yn digwydd nesaf i'r bobl ifanc sydd ar ochr anghywir i'r bwlch cyrhaeddiad hwnnw, a'r hyn sydd angen i chi ei wneud bellach gyda'r grant datblygu disgyblion—gan mai am ariannu rydym yn sôn—yn ogystal â strategaethau eraill.

Yr hyn y mae wedi ei amlygu, er hynny—neu'r rhagfarnau y mae wedi eu cadarnhau, os mynnwch, Ddiprwy Lywydd—yw bod cymwysterau galwedigaethol cyn-16 wedi cael eu trin fel cymwysterau ansylweddol, ac ar ôl gweld copïau o'r papurau gwyddoniaeth perthnasol ar fy aelwyd fy hun, gallaf weld pam. Does bosib na ddylai cyrsiau ac arholiadau galwedigaethol ymwneud ag ymateb i wahanol alluoedd ac arddulliau dysgu dysgwyr, a dylent ddal i ymwneud â sicrhau rhagoriaeth, ond mewn ffordd wahanol gyda ffyrdd gwahanol o gyflawni lefelau uchel o berthnasedd ymarferol. Ni lwyddwn i gyrraedd unman yn debyg i barch cydradd os yw'r sefydliad yn trin arholiadau galwedigaethol fel opsiwn 'gwneud y tro', yn enwedig ar gyfer y rhai sydd fwyaf o angen symudedd cymdeithasol.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:24, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n meddwl mai'r mater sy'n peri fwyaf o bryder i mi yw sut y llwyddwn i ddefnyddio'r arian targed hwn i lefelu'r cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc mewn ardaloedd mwy difreintiedig, neu'r disgyblion mewn ysgolion nad oes ganddynt yr ystod o bosibiliadau y gall aelwydydd mwy cefnog eu darparu ar gyfer eu plant. Rwy'n meddwl bod yna her fawr i'r ysgolion yn fy etholaeth sydd â lefel sylweddol o symudedd o fewn y flwyddyn ac o fewn cyfnod presenoldeb y plentyn yn yr ysgol gynradd. Felly, er enghraifft, yn ysgol Albany ym Mhlasnewydd, mae ystod enfawr o symudedd i mewn ac allan o'r ysgol yn digwydd drwy gydol y flwyddyn. Felly, os mai ciplun yn unig o gymhwysedd sydd gennym, gall hyn arwain at amrywiadau heriol iawn yn y cyllid o un flwyddyn i'r llall. Felly, er enghraifft, mewn blwyddyn benodol, y flwyddyn isaf a oedd ganddynt oedd 80 o ddisgyblion cymwys am brydau ysgol am ddim. Yna, y flwyddyn ganlynol, roedd 100 o ddisgyblion yn gymwys. Roedd yr ysgol wedi cynllunio ar gyfer y flwyddyn gyfredol y byddai cyllid ar gael ar gyfer 100 o ddisgyblion, ond bellach mae'n rhaid iddi ymdopi â £30,000 yn llai yn ei chyllideb heb fawr iawn o rybudd. Mae hynny'n ei gwneud yn eithriadol o heriol i benaethiaid allu sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer plant difreintiedig heb orwario cyllideb nad yw ganddynt. Felly, pe gellid monitro mwy dros gyfnod ychydig yn hwy, yn hytrach na chael ciplun yn unig ar ddiwrnod penodol o'r flwyddyn, credaf y byddai hynny'n helpu ysgolion sy'n profi lefelau anferth o symudedd i allu cynllunio ychydig yn well heb orfod wynebu'r annisgwyl. Yn gyffredinol, fodd bynnag, credaf fod y grant datblygu disgyblion yn hynod o bwysig ar gyfer sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i lwyddo hyd eithaf eu gallu, gan nad yw hynny'n mynd i ddigwydd os mai cyllid fesul disgybl yn unig sydd gennym.  

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:27, 7 Tachwedd 2018

Mi fuaswn yn hoffi diolch i Llyr Gruffydd, fy rhagflaenydd ar y pwyllgor yma, am ei waith trwyadl, ac rydw i hefyd yn edrych ymlaen at gyfrannu yn egnïol at waith y pwyllgor yma ac fel llefarydd addysg Plaid Cymru. Mae gwella cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig yn fater hollbwysig i Blaid Cymru, ac yn ôl yr Ysgrifennydd Cabinet, mae o hefyd yn flaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mi roedd ymrwymiad i gynnal y grant datblygu disgyblion drwy gydol y pumed Cynulliad yn un o'r deg blaenoriaeth addysg y cytunodd efo'r Prif Weinidog pan gafodd ei phenodi i'r Cabinet ym Mehefin 2016.

Ond, yn anffodus, mae nifer o'r argymhellion pwyllgor sydd wedi cael eu gwrthod gan yr Ysgrifennydd addysg yn ymwneud ag ymestyn cymhwyster disgyblion ar gyfer y grant datblygu disgyblion. Mi fydd cynigion Llywodraeth Cymru i newid y meini prawf ar gyfer cinio ysgol am ddim yn cael effaith andwyol ar ddisgyblion difreintiedig. Ar hyn o bryd, mae teuluoedd sy'n gymwys ar gyfer credyd cynhwysol yn gymwys ar gyfer cinio ysgol am ddim. O dan gynigion y Llywodraeth, dim ond teuluoedd gydag enillion net dan £7,400 y flwyddyn fydd yn gymwys ar gyfer cinio am ddim o fis Ionawr 2019. Mae Cymdeithas y Plant yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol yn parhau i dderbyn cinio ysgol am ddim. Byddai hynny'n costio £35 miliwn ychwanegol y flwyddyn. Mi fyddai codi'r cap ar enillion net i £14,000 y flwyddyn, fel sy'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon, yn costio £20 miliwn yn ychwanegol.

Fe gollwyd £15 miliwn y flwyddyn o'r portffolio addysg pan ddaeth Her Ysgolion Cymru i ben. Yr oedd £12 miliwn o'r arian hwnnw yn swm canlyniadol Barnett. Mae'r Alban hefyd yn darparu cinio am ddim i'r holl ddisgyblion mewn adrannau babanod, gan olygu mai Llywodraeth Lafur Cymru a'r Ysgrifennydd Cabinet o'r Democratiaid Rhyddfrydol fydd gan y polisi mwyaf cybyddlyd yng ngwledydd Prydain. Byddwn i'n awgrymu y byddai'r £15 miliwn a gollwyd o'r gyllideb addysg yn gallu cyfrannu tuag at y gost o wrthdroi'r penderfyniad yma. Fe gyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar ddiwygio'r meini prawf cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim ar ôl i'r pwyllgor orffen ystyried y dystiolaeth. Mae'n siomedig bod amseru'r Llywodraeth wedi golygu nad oedd gan y pwyllgor gyfle i graffu ar hyn fel rhan o'r adroddiad yma.

Rydw i am droi at ail agwedd yr adroddiad sydd yn tynnu fy sylw i ac wedi tynnu sylw nifer o aelodau'r pwyllgor dros gyfnod o flynyddoedd erbyn hyn, sef mater ariannu ysgolion yn gyffredinol. Mae £94 miliwn, neu 6 y cant o gyfanswm cyllideb refeniw addysg yn cael ei wario ar y grant datblygu disgyblion, gyda £400 miliwn yn cael ei fuddsoddi hyd yn hyn. Fe fyddaf i’n siomedig, felly, fod Estyn, yn eu tystiolaeth nhw, yn dweud mai dim ond dwy ran o dair o ysgolion sy’n defnyddio’r grant yma mewn ffordd effeithiol. Yn anffodus, mae’n rhaid inni ddod i’r casgliad bod toriadau cyson i gyllidebau cynghorau wedi arwain at doriadau i gyllidebau ysgolion, ac felly nid ydy hi’n peri syndod bod ysgolion wedi bod yn defnyddio arian o’r grant—y grant datblygu disgyblion—er mwyn llenwi bylchau yn eu cyllidebau craidd. Rŵan, rydw i'n gwybod nad dyna ydy’r pwrpas, ond dyna ydy realiti’r sefyllfa mewn nifer cynyddol o ysgolion.

Yn ôl grŵp ffocws y pwyllgor, mae’r grant yn celu’r ffaith nad yw cyllideb ysgolion yn ddigonol. Nid adnodd ychwanegol ydy’r grant bellach, ond cyllideb graidd ar newydd wedd. Nid fi sy’n dweud hynny; arbenigwyr yn y maes sy’n dweud hynny. Daeth y pwyllgor i’r casgliad, felly, ei fod yn cefnogi’r egwyddor o gyllid wedi’i dargedu, ond ei fod o’r farn na all yr egwyddor hon lwyddo oni bai bod cyllidebau craidd ysgolion yn cael eu hariannu’n ddigonol.

Mae argymhelliad 30 yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i adolygu pa mor ddigonol ydy cyllidebau ysgolion ac ystyried sut y mae hyn yn effeithio ar ystyriaeth ysgolion o gyllid wedi’i dargedu, fel y grant datblygu disgyblion a’r defnydd ohono fo.

Mae gwir angen mynd i’r afael â’r broblem yma, ac mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod arian digonol i ddarparu addysg safonol ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Dylai codi cyrhaeddiad plant difreintiedig fod yn un o’r prif flaenoriaethau, ond nid yw hyn am ddigwydd dan raglen o lymder, lle mae ysgolion yn colli athrawon a chymorthyddion dysgu, gan arwain at gylch dieflig o ostwng safonau addysg.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:32, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon am adroddiad y pwyllgor. Rwy'n croesawu ymchwiliad y pwyllgor i hyn. Fel y dywedodd y Cadeirydd, mae'n gwbl briodol ein bod yn craffu ar sut y gwerir yr arian hwn—ac mae'n fuddsoddiad mawr blynyddol o £94 miliwn ac yn gyfran sylweddol o'r gyllideb addysg gyffredinol. Cefnogaf yr effaith gadarnhaol a gafodd y grant datblygu disgyblion, a dyna oedd casgliad cyffredinol y pwyllgor, mewn perthynas â disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim, rhai sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal, a'r rheini sydd wedi'u mabwysiadu. Credaf ei bod hi'n gwbl briodol ein bod yn cynnig cymorth ychwanegol i wella cyrhaeddiad y disgyblion hyn, a hefyd i wneud yn siŵr eu bod yn cymryd rhan mor lawn â phosibl yn y system addysg, oherwydd nid ydym am weld unrhyw ddisgyblion, os yn bosibl, yn disgyn drwy'r bylchau. Felly, croesawaf yr adroddiad a'r cyfle a gawsom fel pwyllgor i daflu goleuni ar sut y defnyddir y grant datblygu disgyblion yn benodol.

Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar sut y defnyddir y grant i wella cyrhaeddiad addysgol plant wedi'u mabwysiadu yn benodol, oherwydd gall ysgolion fod yn rym cadarnhaol aruthrol ym mywyd plentyn sydd wedi dioddef trawma a cholled. Mae hynny, wrth gwrs, yn berthnasol i plant sydd wedi derbyn gofal ac wrth gwrs, i blant wedi'u mabwysiadu, a rhai plant sydd wedi bod yn derbyn gofal ac a gafodd eu mabwysiadu wedyn. Ceir ysgolion y credaf eu bod yn gwneud gwaith cwbl wych ar gynhwysiant ac ymlyniad ac sy'n gwneud eu staff yn ymwybodol o theori ymlyniad ac ymwybyddiaeth o drawma, ac eto credaf fod nifer sylweddol o blant sydd wedi cael dechrau annheg mewn bywyd yn ei chael hi'n anodd ymdopi mewn system addysg sy'n rhy aml yn methu cydnabod gwir natur yr heriau sy'n eu hwynebu. Yn aml o fewn ysgolion, nid wyf yn credu bod yna ymwybyddiaeth o'r hyn y gallai plant fod wedi'i wynebu, ac mae hyn yn atal y sylfeini gwybodaeth a chyflawniad rhag cael eu hadeiladu, ac mae'n gwaethygu problemau cymdeithasol ac emosiynol ac yn lleihau cyfleoedd bywyd.

Noddais ddigwyddiad yma yn y Cynulliad fis Mehefin diwethaf gydag Adoption UK—ac wrth gwrs, rydym yn dyfynnu Adoption UK yn ein tystiolaeth—ac mae eu harolwg o 2,000 o rieni mabwysiadol a 2,000 o bobl ifanc wedi'u mabwysiadu yn arwyddocaol iawn. Dangosai fod bron i dri chwarter y plant a'r bobl ifanc a fabwysiadwyd yn cytuno bod 'Plant eraill i'w gweld yn mwynhau'r ysgol fwy na fi.' Dywedodd dwy ran o dair o'r bobl ifanc oed ysgol uwchradd sydd wedi'u mabwysiadu eu bod wedi cael eu pryfocio neu eu bwlio yn yr ysgol oherwydd eu bod wedi eu mabwysiadu. Dwy ran o dair. Mae bron 70 y cant o rieni'n teimlo bod problemau gyda'u lles yn yr ysgol yn effeithio ar gynnydd dysgu eu plentyn mabwysiedig. Mae 60 y cant o rieni mabwysiadol yn teimlo nad yw eu plentyn yn cael cyfle cyfartal yn yr ysgol, ac mae bron i hanner rhieni plant oedran ysgol uwchradd wedi gorfod cadw eu plant o'r ysgol oherwydd pryderon am eu hiechyd meddwl neu eu lles. Felly, rwy'n credu bod hon yn stori drist iawn.

Felly, mewn gwirionedd rwy'n croesawu'r ffaith bod plant wedi'u mabwysiadu yn gymwys i gael cymorth drwy'r grant datblygu disgyblion ac rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 24 mewn egwyddor, er ei bod yn ymddangos ei bod hi'n anodd sefydlu system lle gall ysgol wybod bod plant wedi cael eu mabwysiadu er mwyn gallu cynnig eu help. Ond rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud y bydd yn mynd ar drywydd y mater hwn. Ond rwy'n siomedig na chafodd yr argymhelliad nesaf, argymhelliad 25, ei fabwysiadu, oherwydd yn amlwg, fel y dywedodd y Cadeirydd yn ei sylwadau agoriadol, os nad ydym yn gallu dyrannu swm o arian i dalu am nifer y plant rydym yn amcangyfrif eu bod wedi eu mabwysiadu, ni fydd yn bosibl iddynt gael budd o'r grant datblygu disgyblion. Rwy'n meddwl bod hwn yn faes sy'n bwysig iawn, a rhoddodd y Cadeirydd ffigurau—credaf fod y grant datblygu disgyblion wedi'i ddyrannu ar gyfer tua 3,000 i 5,500 o blant—ond os nad oes gennym systemau ar gyfer casglu'r data, ni fyddwn yn gallu sicrhau eu bod yn cael yr help sydd ei angen.

Felly, i gloi, rwyf wedi canolbwyntio'n fyr ar blant a fabwysiadwyd gan nad wyf yn meddwl bod pobl yn gyffredinol yn gwybod, ac nid wyf yn meddwl bod ysgolion bob amser yn deall, bod gan blant wedi'u mabwysiadu lawer o'r trawmâu sy'n wynebu plant sydd wedi derbyn gofal, felly roeddwn yn meddwl ei bod hi'n bwysig tynnu sylw at hynny yn fy nghyfraniad heddiw.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:37, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Rwyf fi hefyd yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol. Roedd yn eithaf calonogol, o ystyried fy mod wedi gweld adroddiadau eraill lle na chafodd cynifer o welliannau eu derbyn mewn egwyddor—roeddwn yn credu bod 24 o 31 argymhelliad yn eithaf da. Ond mae'n rhwystredig iawn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod nifer o argymhellion y pwyllgor a oedd yn seiliedig, mewn gwirionedd, ar lawer o dystiolaeth wirioneddol dda yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

Roedd yn hynod siomedig fod y Llywodraeth wedi gwrthod argymhelliad 5, y dylai ariannu dyraniad grant datblygu disgyblion ysgolion ar gyfer myfyrwyr sydd wedi bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim ar unrhyw adeg yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn hytrach na thros y flwyddyn ddiwethaf. Yn ei hymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg fod Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod yna garfan ehangach o ddysgwyr ar y cyrion a fyddai'n cael budd o gymorth ychwanegol hefyd. Eto i gyd, mae'r cymorth ychwanegol hwn yn cael ei dynnu'n ôl o'r cyllid presennol sy'n cael ei ddyrannu i ysgolion drwy'r grant datblygu disgyblion yn hytrach nag arian ychwanegol. Ac mewn cyfarfod yn gynharach heddiw—mae hon yn broblem fawr yn fy etholaeth bellach, lle mae mwy a mwy o deuluoedd yn sôn am bryderon go iawn. Mae'r Llywodraeth wedyn yn disgwyl i ysgolion ymestyn eu cyllid, i ddarparu cymorth ychwanegol i'r myfyrwyr sydd fwyaf o'i angen, ond nid yw'n darparu unrhyw gefnogaeth ychwanegol ar eu cyfer. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhoi'r myfyrwyr hyn, sydd eisoes mewn perygl o gyrhaeddiad addysgol is o ganlyniad i amgylchiadau personol, mewn mwy o anfantais o'i gymharu â'u cyfoedion. Rwy'n sicr yn gofyn: sut y gall y Llywodraeth gredu bod hyn yn deg, ac fel yr ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei hymateb i'r adroddiad, beth y mae'r Llywodraeth yn ei ystyried yw'r dyraniad gorau posibl?

Caiff y broblem ei gwaethygu gan ddiffyg ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag argymhelliad 13, sy'n ymwneud ag ymchwilio ar fyrder i ehangu'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a rhai nad ydynt yn gymwys yn 2017. Mae adroddiad y pwyllgor yn cyflwyno data sy'n dangos bod y bwlch cyrhaeddiad rhwng y rheini sy'n cael prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn eu cael wedi cynyddu o 17.4 y cant yn 2016 i 25 y cant yn 2017, tuedd sy'n peri pryder mawr, ac rwy'n credu ei bod yn galw am ymchwiliad ar frys gan y Llywodraeth i sicrhau nad yw'n parhau.

Yn ddiweddar dywedodd Cymdeithas y Plant eu bod yn pryderu y gallai newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim wrthdroi cynnydd a wnaed ar gau'r bwlch cyrhaeddiad. Maent yn dweud y bydd y cynlluniau'n golygu y bydd 55,000 o blant yn colli prydau ysgol am ddim. Fodd bynnag, gwelodd ymchwil yn yr Adran Addysg yn Lloegr y byddai ymestyn hawl i brydau ysgol am ddim yn arwain at welliant academaidd, yn enwedig ymysg plant o deuluoedd llai cefnog. Os yw Llywodraeth Cymru yn wirioneddol ymroddedig i fynd i'r afael ag effaith amddifadedd ar ganlyniadau addysgol, yr amlinellir ei bod yn flaenoriaeth allweddol yn y strategaeth 'Ailysgrifennu'r dyfodol: Codi uchelgais a chyrhaeddiad yn ysgolion Cymru' yn 2014, does bosib nad oes rhaid iddi adolygu'r modd y cyfrifir bod disgyblion yn gallu cael prydau ysgol am ddim? At hynny, dylai geisio darparu lefelau uwch o gyllid at y grant datblygu disgyblion yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU o £550 miliwn ar gyfer Cymru. Byddai hyn yn sicrhau bod plant difreintiedig a phlant sy'n destun pryder yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni'r canlyniadau addysgol uchaf posibl, gan helpu i greu Cymru lle mae symudedd cymdeithasol yn flaenllaw ym mholisïau'r Llywodraeth. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:41, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams?

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu'r adroddiad hwn ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor a'i staff am yr adroddiad ac am y dull adeiladol a chydweithredol o weithio a welwyd yn ystod yr ymchwiliad? Mae'r adroddiad yn deg a chytbwys, yn cydnabod yr heriau a wynebwn ac yn nodi lle y gwnaed gwelliannau, gan awgrymu hefyd lle y gallem fynd ymhellach i gefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig.

Rwy'n falch o fod wedi gallu derbyn y mwyafrif helaeth o argymhellion y pwyllgor, arwydd o'r flaenoriaeth y mae'r Llywodraeth hon yn ei rhoi i gynorthwyo pob dysgwr i gyrraedd eu potensial. Dyna'n union pam y mae'n rhaid inni barhau i flaenoriaethu cymorth wedi'i dargedu a dal ati i ymdrechu i dorri cylch tlodi ac anfantais.

Bydd llawer ohonoch yma yn y Siambr wedi fy nghlywed yn dweud fwy nag unwaith fod y grant datblygu disgyblion yn bolisi a hefyd yn ymrwymiad personol ar fy rhan i a'r Llywodraeth hon, ond yn bwysicach na'r hyn rwy'n ei ddweud, mae'r hyn y mae ysgolion yn ei feddwl o'r grant datblygu disgyblion—mae hynny'n fwy pwysig—ac maent yn cytuno. Canfu'r gwerthusiad diweddar fod ysgolion yn ystyried bod y grant datblygu disgyblion yn amhrisiadwy ac yn aml bydd penaethiaid ac athrawon dosbarth fel ei gilydd yn dweud wrthyf am y gwahaniaeth y mae'n ei wneud ar sail ddyddiol. Yn ystod yr hanner tymor diwethaf, ymwelais ag ysgolion yn y Rhyl, Bangor a Merthyr Tudful, a phan ofynnaf iddynt beth yw'r peth pwysicaf y gallaf ei wneud iddynt, maent i gyd yn dweud yn gyson, 'Rhaid i chi gadw'r grant datblygu disgyblion.'

A gaf fi wneud sylwadau'n fyr ar rai o'r materion a godwyd gan bobl eraill yn y ddadl? Mae Julie Morgan yn llygad ei lle yn sôn am y materion sy'n effeithio ar blant wedi'u mabwysiadu. Rwy'n arbennig o awyddus i barhau i weithio ochr yn ochr â David Melding, nad yw yn ei sedd, i edrych ar gyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal. Mae gennym fynydd i'w ddringo yn hynny o beth ac nid wyf yn ymddiheuro am gydnabod yr heriau rydym yn dal i'w hwynebu fel Llywodraeth ar gyfer y garfan honno o blant, am yr angen i atgyfnerthu ein hymdrechion yn hynny o beth, ac rwy'n awyddus, Julie, i wneud yr hyn a allwn i nodi'n well pa blant sydd wedi'u mabwysiadu yn ein system ysgolion ac edrych ar ffyrdd o gefnogi eu haddysg.

Rhaid imi ddweud, o ran cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim a chanlyniadau credyd cynhwysol, gadewch imi fod yn gwbl glir: o ganlyniad i'r credyd cynhwysol—rhywbeth nad yw'r Llywodraeth hon wedi gofyn amdano—cawn ein hunain mewn sefyllfa anodd iawn. Pe bai'r holl bobl sydd â hawl i gredyd cynhwysol yn cael prydau ysgol am ddim, ni fyddai bron hanner ein carfan o blant yn cael prydau ysgol am ddim, a cheir problemau sylfaenol yn ymwneud â fforddiadwyedd yn hynny o beth. O dan y cynigion yr ymgynghorwyd arnynt yn ddiweddar, bydd mwy o blant yng Nghymru yn gymwys am brydau ysgol am ddim nag sy'n gymwys ar hyn o bryd. Os ceir rhai plant y gallai eu cymhwysedd newid o ganlyniad i'r credyd cynhwysol, byddant yn cael amddiffyniad carfannau penodol. A rhaid imi ddweud wrth Janet Finch-Saunders, o'r holl bobl yn y Siambr hon i roi pregeth imi am y ffaith bod ganddi deuluoedd yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd, buaswn yn ei chyfeirio at ei chydweithwyr yn Llundain sy'n dilyn y polisi hwn. A rhaid imi ddweud, Janet, mae wyneb gennych i ddweud bod angen inni wneud mwy i gefnogi'r teuluoedd hyn gan mai polisïau eich Llywodraeth yn San Steffan sy'n achosi'r anawsterau hynny.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:45, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Cododd Siân Gwenllian fater ariannu ysgolion yn gyffredinol ac wrth gwrs, nid wyf yn gyfrifol am ariannu ein hysgolion o ddydd i ddydd—cyfrifoldeb ein cydweithwyr llywodraeth leol yw hynny; swyddogaeth a chyfrifoldeb y maent yn ei hystyried yn annwyl iawn yn wir. Nawr, efallai mai pen draw yr hyn y mae Siân yn ei ddweud yw mai polisi Plaid Cymru yw cael dull cenedlaethol o ariannu ysgolion wedi ei gyfarwyddo o'r canol. Ac os mai dyna yw polisi newydd Plaid Cymru, rwy'n sicr y bydd gan ei chyd-Aelodau, megis Ellen ap Gwynn, ddigon i'w ddweud yn ei gylch.

Os caf droi, felly, at fater canlyniadau TGAU, gwelodd canlyniadau TGAU 2018 gynnydd bach yn y nifer a lwyddodd i gael A* i C mewn Saesneg a mathemateg ymhlith dysgwyr sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim, ac mae hynny i'w gydnabod wrth gwrs, ond mae gennym ffordd hir i fynd i gynorthwyo ein disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim i ennill y graddau uchaf posibl. Oherwydd newidiadau i'r dulliau o fesur perfformiad, gwyddom eleni fod llawer o ddisgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim a gofrestrwyd ar gyfer cymwysterau gwyddoniaeth alwedigaethol o'r blaen wedi sefyll arholiadau TGAU gwyddoniaeth am y tro cyntaf. Bu cynnydd o 37 y cant yn nifer y dysgwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim a safodd un arholiad TGAU gwyddoniaeth, o gymharu â 2016, ac 20 y cant o gynnydd yn nifer yr holl ddisgyblion blwyddyn 11 a safodd arholiadau mewn o leiaf un TGAU gwyddoniaeth eleni, o'i gymharu â 2016. Mae hwn yn newid cadarnhaol iawn, gan fod angen inni baratoi ein dysgwyr yn well er mwyn sicrhau ein bod ni fel gwlad yn cynhyrchu gwyddonwyr y dyfodol. Mae'n hanfodol fod mesurau perfformiad cyfnod allweddol 4 a threfniadau atebolrwydd ysgolion yn cymell ysgolion i gynorthwyo disgyblion sy'n cael prydau am ddim i gyflawni'r radd uchaf sy'n bosibl, a pheidio â mabwysiadu syndrom 'druan bach', a chael disgwyliadau uchel ar gyfer ein plant i gyd, beth bynnag fo'u cefndir. Rydym eisoes wedi cymryd camau i'r cyfeiriad hwn trwy'r ymrwymiad i weithredu'r mesurau perfformiad dros dro yng nghyfnod allweddol 4 o 2019 ymlaen. Bydd y dull o ddefnyddio mesurau sy'n adlewyrchu cyrhaeddiad ar gyfer pob gradd yn cymell ysgolion i gynorthwyo'r holl ddysgwyr i gyflawni eu canlyniadau gorau, yn hytrach na chanolbwyntio ar garfan gul iawn o blant yn eu hysgol.

Ochr yn ochr â'n diwygiadau ehangach i godi safonau a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad, rydym hefyd yn datblygu trefniadau'r grant datblygu disgyblion yn uniongyrchol. Rydym wedi cryfhau ein dull rhanbarthol o ddarparu her a chymorth mwy effeithiol i ysgolion o ran y modd y maent yn defnyddio'r adnodd hwn. Fel y cydnabu'r Cadeirydd, mae pob consortiwm bellach yn cyflogi cynghorydd strategol ar gyfer y grant datblygu disgyblion, gyda ffocws ar wella cyrhaeddiad pob dysgwr difreintiedig, ac rwyf wedi gofyn iddynt gryfhau'r cydweithrediad ar draws Cymru i sicrhau bod arferion da yn cael eu rhannu a'u datblygu. Ceir corff cynyddol o dystiolaeth sy'n dweud wrthym beth sy'n gweithio ar gyfer y plant hyn, ac mae angen ei weithredu'n gyson ar draws ein system. Ddirprwy Lywydd, pam y gall ysgolion yn y brifddinas hon, yn yr un consortiwm rhanbarthol, gyda'r un awdurdod addysg lleol, sicrhau bod eu holl blant sy'n cael prydau ysgol am ddim yn cael pum TGAU neu fwy, a bod ysgol sydd â phroffil tebyg yn methu gwneud hynny? Ni all hynny fod yn dderbyniol i unrhyw un ohonom yma, rwy'n siŵr y byddem oll yn cytuno, ac mae angen dulliau a chefnogaeth gyson fel y gall pob plentyn gyflawni hynny, ni waeth ym mha ysgol y byddant.

Rydym hefyd yn gwybod mai ymyrraeth gynnar yng ngyrfa addysgol disgybl fydd yn sicrhau'r effaith orau, yn hytrach na defnyddio'r grant datblygu disgyblion fel plastr yn unig a mesur i'w ddefnyddio mewn panig pan fydd plentyn yn dechrau blwyddyn 10 neu flwyddyn 11. Nawr, mae'r plant hynny angen cymorth wrth gwrs, ond mae angen hefyd i ysgolion sicrhau eu bod yn cefnogi eu plant o'r eiliad y maent yn mynd i'r ysgol uwchradd, a hefyd o'r funud y byddant yn dechrau yn y system addysg. Dyna pam fod y Llywodraeth hon—. Rwyf wedi dyblu'r swm o grant datblygu disgyblion sydd ar gael ar gyfer ein darpariaeth blynyddoedd cynnar oherwydd os gallwn gael y dechrau gorau i blant, fe wyddom mai dyna ble y cawn yr effaith fwyaf.

Nawr, cyfeiriodd Suzy Davies a Lynne Neagle at blant mwy abl a thalentog. Ni ddylem am un eiliad dynnu llinell uniongyrchol rhwng gallu academaidd a gallu rhiant i dalu. Nid yw system addysg Cymru yn y gorffennol wedi canolbwyntio digon ar blant mwy abl a thalentog, a dyna pam rydym wedi cyflwyno trefniadau newydd i gynorthwyo plant mwy abl a thalentog, beth bynnag fo'u cefndir. Ond hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i'w gwneud yn glir unwaith eto fod y grant datblygu disgyblion yno ar gyfer pob plentyn sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim, nid yn unig ar gyfer y plant sydd angen help ychwanegol.

A gaf fi orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy gydnabod cyfraniad ein hyrwyddwr codi cyrhaeddiad, Syr Alasdair Macdonald? Mae ei gyfoeth o wybodaeth a phrofiad yn caniatáu ar gyfer gwelliant parhaus ac yn hollbwysig, ar gyfer myfyrio, gan gyfrannu tuag at y weledigaeth strategol yn ogystal â datblygiad gweithredol y grant hwn. Ac wrth gloi, unwaith eto, hoffwn ddiolch i Lynne Neagle, aelodau'r pwyllgor, am eu gwaith yn y maes hwn, ac rwy'n ymrwymo i barhau i ystyried yr argymhellion a symud ymlaen gyda'r hyn y credaf ei bod yn genhadaeth a rennir ar draws y Siambr hon i sicrhau bod plant, beth bynnag fo'u hamgylchiadau economaidd, yn ffynnu yn ein hysgolion.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:50, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Lynne Neagle i ymateb i'r ddadl?

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddadl adeiladol y prynhawn yma ar bwnc pwysig iawn? Nid wyf wedi cael neges yn rhoi gwybod i mi faint o amser sydd gennyf, Lywydd, felly rwy'n credu—

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour

(Cyfieithwyd)

O'r gorau. Iawn, diolch. [Torri ar draws.] O'r gorau. Os dechreuaf, felly, gyda Suzy Davies, a dynnodd sylw at rai o ddiffygion y grant datblygu disgyblion, a gafodd sylw yn ein hadroddiad, ond y gobeithiwn yn fawr y bydd ein hargymhellion ac ymateb cadarnhaol Llywodraeth Cymru yn helpu i fynd i'r afael â hwy—pethau fel y canllawiau newydd rydym wedi galw amdanynt. Gwn fod y Gweinidog yn datblygu pecyn cymorth a ddylai wella cysondeb, a staff newydd y grant datblygu disgyblion yn y consortia, sy'n mynd i fod yno i herio, gobeithiwn y byddant yn gwneud gwahaniaeth. Ac fel y gwyddoch, gwnaeth y pwyllgor argymhellion ynghylch y materion y sonioch chi amdanynt yn briodol iawn sy'n ymwneud â pharch cydradd.

Tynnodd Jenny Rathbone sylw at rai o'r pryderon sy'n codi oherwydd y newid mawr yn nifer y plant sydd mewn ysgol, ac roedd hynny'n rhywbeth a nodwyd yn glir gennym yn ein hadroddiad. Roeddem wedi gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwnnw, ond rydym yn gobeithio y bydd yn cael ei gadw dan arolwg, ac rwy'n credu ei fod yn arbennig o berthnasol i ardaloedd Caerdydd, mae'n debyg, lle rydych yn debygol o gael newidiadau mawr yn y boblogaeth, mwy felly nag mewn rhai cymunedau eraill, oherwydd nid ydym am weld yr ysgolion hynny'n cael eu gadael ar ôl neu dan anfantais.

Siân Gwenllian—. A gaf fi groesawu Siân i'r pwyllgor, a hefyd i fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i Llyr Gruffydd, sydd wedi bod yn aelod rhagorol a chydwybodol iawn o'r pwyllgor? Felly, diolch am bopeth a wnaethoch, Llyr. Soniodd Siân am rai materion cyffredinol yn ymwneud ag ariannu ysgolion, a'r hyn sydd wedi bod yn amlwg yn ein holl ymchwiliadau, mewn gwirionedd, yw bod pwysau ar gyllid, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod y pwynt hwnnw. Dyna pam rydym yn edrych ar ariannu ysgolion yn fwy trwyadl yn awr er mwyn ceisio gweld a oes unrhyw argymhellion y gallwn eu gwneud i wella'r sefyllfa.

Cododd Siân Gwenllian a Janet Finch-Saunders fater y polisi prydau ysgol am ddim. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiweddar i ofyn am ragor o wybodaeth am y ffordd y cyfrifwyd y ffigurau, pam fod y torbwynt lle y mae, ond hoffwn ddweud hefyd fod aelodau'r pwyllgor yn ymwybodol iawn o'r angen i beidio ag arwain at unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Pe bai cynnydd mawr yn nifer y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim, credaf fod yn rhaid inni gadw mewn cof y gallai hynny olygu cynnydd mawr yn y grant datblygu disgyblion, neu, yn waeth, gallai'r grant datblygu disgyblion gael ei wanhau'n ddifrifol ar gyfer ein disgyblion tlotaf, a byddai hynny'n gam mawr tuag yn ôl. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o hynny hefyd; mae'n bwysig iawn inni gadw hynny mewn cof.   

A gaf fi ddiolch i Julie Morgan am ei chyfraniad—cyfraniad pwysig iawn—ar blant wedi'u mabwysiadu? Ac wrth gwrs, fel y cofiwch, fe gynhaliodd y pwyllgor a'n rhagflaenodd ymchwiliad pwysig i fabwysiadu, ac rydym yn ymwybodol iawn o anghenion plant wedi'u mabwysiadu, a hefyd, wrth gwrs, yn ymwybodol fod llawer o'r mentrau sydd mor bwysig mewn ysgolion mewn perthynas ag iechyd emosiynol ac iechyd meddwl yn cael eu hariannu o'r grant datblygu disgyblion mewn llawer o'n hysgolion, felly dyna pam y mae'n bwysig inni gael y cymorth hwnnw ar gyfer plant wedi'u mabwysiadu mewn ysgolion, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych arno eto. Mae'n gwbl hanfodol fod y gefnogaeth honno yno.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb pellach heddiw ac am y ffordd gadarnhaol y mae hi wedi ymwneud â'r ymchwiliad? Mae'r pwyllgor yn cytuno'n llwyr â hi ynglŷn â'r angen i wneud popeth i gefnogi ein holl ddisgyblion, gan gynnwys ein disgyblion mwy abl a thalentog. Rydym yn croesawu'r camau a gymerwyd eisoes yn hyn o beth, ond byddwn yn ceisio gwneud gwaith dilynol gyda'r ymchwiliad hwn ar y modd y mae'r canllawiau newydd yn gwneud yn siŵr, y modd y mae'r her newydd yn gwneud yn siŵr, fod ein disgyblion mwy abl a thalentog hefyd yn cael eu heffeithio gan polisi hwn. A gaf fi orffen, felly, drwy ddiolch, unwaith eto, i bawb am gyfrannu, i bawb a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad, i dîm y pwyllgor, sydd, fel bob amser, wedi bod yn hollol wych, ac atgoffa'r Aelodau yma y byddwn yn dychwelyd at hyn, fel y gwnawn gyda'n holl ymchwiliadau, er mwyn monitro a chraffu ar y cynnydd a wneir ar argymhellion yr ymchwiliad pwysig hwn? Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:56, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Felly, y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.