Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Wrth ymateb i'n llythyr, dywedodd y Prif Weinidog fod trafodaethau ar y gweill gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chytundeb gwleidyddol a fyddai'n cymeradwyo fframwaith presennol y ddeddfwriaeth triniaeth gyfartal sydd mewn grym ar draws rhannau cyfansoddol y DU. Dywedodd y Prif Weinidog wrthym hefyd y byddent yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i ofyn am sicrwydd ynglŷn â hawliau unigol. Heddiw, buaswn yn gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hyn gan Lywodraeth Cymru—pa gamau pellach y maent yn bwriadu eu cymryd i sicrhau y bydd hawliau'r siarter yn parhau i fod mewn grym pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac am fwy o fanylion ynglŷn â'r cytundeb gwleidyddol a nodwyd yn ymateb y Prif Weinidog.
Clywsom dystiolaeth gan nifer o randdeiliaid yn mynegi pryderon ynglŷn â cholli arian UE a dargedwyd ar gyfer materion cydraddoldeb a hawliau dynol. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n derbyn £370 miliwn y flwyddyn gan yr UE. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru weinyddu'r gronfa ffyniant gyffredin er mwyn ei galluogi i fod yn sensitif i anghenion ac anghydraddoldebau lleol. Galwasom hefyd am sicrhau bod y gronfa wedi'i thargedu ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol. Rydym yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r alwad hon, a heddiw, hoffwn ofyn am y newyddion diweddaraf ynglŷn â sut y mae trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yn datblygu ar y mater pwysig hwn.
Rhan bwysig o'n gwaith oedd deall beth arall y gellid ei wneud yng Nghymru i sicrhau y byddwn yn aros ar y blaen mewn perthynas â hawliau dynol a chydraddoldebau. Galwodd rhanddeiliaid am sicrhau bod y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn cael ei rhoi mewn grym yng Nghymru. Ymhellach, nodwn fod y ddyletswydd hon bellach mewn grym yn yr Alban, ac mae gennym bwerau i wneud yr un peth yng Nghymru. Yn yr adroddiad diweddar, 'A yw Cymru'n decach? (2018)', mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi argymell y dylid gweithredu'r ddyletswydd hon fel mater o flaenoriaeth.
Galwasom am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag a fyddent yn ceisio gweithredu'r ddyletswydd hon. Rydym yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn yr ymateb yn rhoi llawer o bwyslais ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hon yn ddeddfwriaeth bwysig wrth gwrs, ond nid yw'n cyflawni'r un effaith â gweithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Nododd y Llywodraeth hefyd y byddent yn adolygu eu sefyllfa yng ngoleuni'r adolygiad cyflym ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau, a phrofiad Llywodraeth yr Alban o weithredu'r ddyletswydd. Felly, a all arweinydd y tŷ amlinellu pa bryd y mae'n disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad ynglŷn ag a ddylai'r ddyletswydd hon ddod yn weithredol yng Nghymru?
Ddirprwy Lywydd, ffordd arall o ddiogelu hawliau dynol yng Nghymru fyddai ymgorffori cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol yng nghyfraith Cymru. Wrth ymateb i'n hargymhelliad yn galw am ystyriaeth bellach i'r awgrym hwn, nodwn fod y Llywodraeth yn pwysleisio mai Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol unwaith yn rhagor yw'r prif fframwaith deddfwriaethol ar gyfer hyn. Er ein bod yn cydnabod hynny, hoffem nodi unwaith eto nad yw'r Ddeddf hon yn rhoi unrhyw her gyfreithiol os nad yw hawliau'n cael eu cynnal. Mae'n ddeddfwriaeth bwysig, ond nid yw'n un a all sicrhau amddiffyniadau hawliau dynol yn ddigonol.
Clywsom bryderon hefyd y bydd amddiffyniadau hawliau dynol yn cael eu rhewi pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yn benodol, amlygodd sefydliadau anabledd nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth y DU yn y dyfodol yr oeddent yn pryderu na fyddai'r DU yn elwa arnynt. Dyna pam y galwasom am fecanwaith ar gyfer monitro datblygiadau hawliau dynol yn y dyfodol i sicrhau bod dinasyddion Cymru yn parhau i gael yr un amddiffyniadau â dinasyddion yn yr Undeb Ewropeaidd.
Wrth ymateb i'r argymhelliad hwn, nododd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i fonitro cynnydd ar hawliau dynol. A wnaiff arweinydd y tŷ roi mwy o fanylion yn awr ynglŷn â sut y bydd hyn yn digwydd?
Y maes olaf y buom yn ymwneud ag ef oedd y cynnydd tybiedig yn nifer y troseddau casineb yn dilyn refferendwm yr UE. Galwasom am ddiweddaru'r cynllun cydlyniant cymunedol cyn haf 2018. Yn ei hymateb, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i'w gyhoeddi, ond ni nodwyd pa bryd y byddai hynny'n digwydd. Ym mis Gorffennaf, dywedodd arweinydd y tŷ y byddent yn ymgynghori ar y cynllun cydlyniant cymunedol diwygiedig yn yr hydref. Heddiw, a wnaiff arweinydd y tŷ amlinellu pa bryd yn union y bydd yr ymgynghoriad hwn yn digwydd a pha bryd y mae'n rhagweld y daw'r cynllun cydlyniant cymunedol newydd i rym? Ddirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau o bob ochr i'r Siambr.