– Senedd Cymru am 4:56 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Symudwn ymlaen at eitem 6, sef 'Brexit a Chydraddoldebau—Canfyddiadau ar y cyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol'. Felly, galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i wneud y cynnig—John Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Credaf mai dyma'r tro cyntaf i ddadl ar y cyd o'r fath gael ei chynnal. Rwy'n credu bod hynny'n dangos pa mor bwysig yw'r materion rydym yma i'w trafod. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i osod y bar yn uchel yng Nghymru ar gyfer diogelu hawliau dynol a lleihau anghydraddoldebau. Cyn mynd ymhellach, hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd i'r ddau bwyllgor ar y materion pwysig hyn.
Credaf ei bod yn werth gosod y ddadl hon yn ei chyd-destun ehangach. Yng Nghymru, mae gennym hanes balch o ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol mewn ffyrdd arloesol, megis pasio Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, deddfwriaeth sy'n arwain y ffordd ar draws y DU, a'r byd yn wir. Mae ein pwyllgorau wedi bod yn ystyried effaith Brexit ar gydraddoldebau a hawliau dynol dros y 18 mis diwethaf. Arweiniodd hyn at ein llythyr ar y cyd at y Prif Weinidog yn gynharach eleni, lle'r oeddem yn galw am sicrhau bod diogelu hawliau o dan siarter hawliau sylfaenol yr UE yn parhau ar ôl Brexit; cronfa ffyniant gyffredin arfaethedig y DU i gael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i ystyried anghenion ac anghydraddoldebau lleol; mwy o eglurder ynglŷn ag a fydd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn cael ei rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru; hawliau presennol sydd i'w diogelu, ac ymrwymiad i sicrhau na fydd hawliau'n cael eu herydu; i Gymru barhau i fod yn arweinydd byd-eang mewn hawliau dynol a chydraddoldeb—yn benodol, mae ein pwyllgor wedi galw dro ar ôl tro am fecanwaith ffurfiol i olrhain datblygiadau cydraddoldeb a hawliau dynol yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd—a bod y cynllun cydlyniant cymunedol wedi'i ddiweddaru cyn haf 2018, sydd bellach wedi mynd, yn amlwg, i roi ystyriaeth i faterion diweddar sy'n codi mewn perthynas â throseddau casineb.
Fe drof yn awr at bob un o'r materion hyn yn fanylach. Mae siarter hawliau sylfaenol yr UE yn ymgorffori hawliau y tu hwnt i'r rhai a geir mewn deddfwriaeth ddomestig, fel Deddf Hawliau Dynol 1998, yn enwedig mewn perthynas â hawliau cymdeithasol ac economaidd nad ydynt yn cael eu cydnabod yn dda yng nghyfraith y DU. Roedd Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) Llywodraeth Cymru yn cynnwys gofyniad i gyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE gael ei dehongli yn unol â hawliau'r siarter. Byddai hyn wedi rhoi rhywfaint o amddiffyniad cyfyngedig i hawliau'r siarter yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ymrwymo i gymryd camau i ddiddymu'r ddeddfwriaeth hon. Nid ydym wedi ein hargyhoeddi gan ddadansoddiad Llywodraeth y DU fod hawliau'r siarter eisoes yn cael eu hamddiffyn gan y gyfraith ddomestig. Llywiwyd ein barn gan gyngor cyfreithiol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a nodai fod hawliau'r siarter yn mynd y tu hwnt i'r amddiffyniadau y darperir ar eu cyfer ar hyn o bryd yng nghyfraith y DU.
Wrth ymateb i'n llythyr, dywedodd y Prif Weinidog fod trafodaethau ar y gweill gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chytundeb gwleidyddol a fyddai'n cymeradwyo fframwaith presennol y ddeddfwriaeth triniaeth gyfartal sydd mewn grym ar draws rhannau cyfansoddol y DU. Dywedodd y Prif Weinidog wrthym hefyd y byddent yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i ofyn am sicrwydd ynglŷn â hawliau unigol. Heddiw, buaswn yn gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hyn gan Lywodraeth Cymru—pa gamau pellach y maent yn bwriadu eu cymryd i sicrhau y bydd hawliau'r siarter yn parhau i fod mewn grym pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac am fwy o fanylion ynglŷn â'r cytundeb gwleidyddol a nodwyd yn ymateb y Prif Weinidog.
Clywsom dystiolaeth gan nifer o randdeiliaid yn mynegi pryderon ynglŷn â cholli arian UE a dargedwyd ar gyfer materion cydraddoldeb a hawliau dynol. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n derbyn £370 miliwn y flwyddyn gan yr UE. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru weinyddu'r gronfa ffyniant gyffredin er mwyn ei galluogi i fod yn sensitif i anghenion ac anghydraddoldebau lleol. Galwasom hefyd am sicrhau bod y gronfa wedi'i thargedu ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol. Rydym yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r alwad hon, a heddiw, hoffwn ofyn am y newyddion diweddaraf ynglŷn â sut y mae trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yn datblygu ar y mater pwysig hwn.
Rhan bwysig o'n gwaith oedd deall beth arall y gellid ei wneud yng Nghymru i sicrhau y byddwn yn aros ar y blaen mewn perthynas â hawliau dynol a chydraddoldebau. Galwodd rhanddeiliaid am sicrhau bod y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn cael ei rhoi mewn grym yng Nghymru. Ymhellach, nodwn fod y ddyletswydd hon bellach mewn grym yn yr Alban, ac mae gennym bwerau i wneud yr un peth yng Nghymru. Yn yr adroddiad diweddar, 'A yw Cymru'n decach? (2018)', mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi argymell y dylid gweithredu'r ddyletswydd hon fel mater o flaenoriaeth.
Galwasom am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag a fyddent yn ceisio gweithredu'r ddyletswydd hon. Rydym yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn yr ymateb yn rhoi llawer o bwyslais ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hon yn ddeddfwriaeth bwysig wrth gwrs, ond nid yw'n cyflawni'r un effaith â gweithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Nododd y Llywodraeth hefyd y byddent yn adolygu eu sefyllfa yng ngoleuni'r adolygiad cyflym ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau, a phrofiad Llywodraeth yr Alban o weithredu'r ddyletswydd. Felly, a all arweinydd y tŷ amlinellu pa bryd y mae'n disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad ynglŷn ag a ddylai'r ddyletswydd hon ddod yn weithredol yng Nghymru?
Ddirprwy Lywydd, ffordd arall o ddiogelu hawliau dynol yng Nghymru fyddai ymgorffori cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol yng nghyfraith Cymru. Wrth ymateb i'n hargymhelliad yn galw am ystyriaeth bellach i'r awgrym hwn, nodwn fod y Llywodraeth yn pwysleisio mai Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol unwaith yn rhagor yw'r prif fframwaith deddfwriaethol ar gyfer hyn. Er ein bod yn cydnabod hynny, hoffem nodi unwaith eto nad yw'r Ddeddf hon yn rhoi unrhyw her gyfreithiol os nad yw hawliau'n cael eu cynnal. Mae'n ddeddfwriaeth bwysig, ond nid yw'n un a all sicrhau amddiffyniadau hawliau dynol yn ddigonol.
Clywsom bryderon hefyd y bydd amddiffyniadau hawliau dynol yn cael eu rhewi pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yn benodol, amlygodd sefydliadau anabledd nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth y DU yn y dyfodol yr oeddent yn pryderu na fyddai'r DU yn elwa arnynt. Dyna pam y galwasom am fecanwaith ar gyfer monitro datblygiadau hawliau dynol yn y dyfodol i sicrhau bod dinasyddion Cymru yn parhau i gael yr un amddiffyniadau â dinasyddion yn yr Undeb Ewropeaidd.
Wrth ymateb i'r argymhelliad hwn, nododd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i fonitro cynnydd ar hawliau dynol. A wnaiff arweinydd y tŷ roi mwy o fanylion yn awr ynglŷn â sut y bydd hyn yn digwydd?
Y maes olaf y buom yn ymwneud ag ef oedd y cynnydd tybiedig yn nifer y troseddau casineb yn dilyn refferendwm yr UE. Galwasom am ddiweddaru'r cynllun cydlyniant cymunedol cyn haf 2018. Yn ei hymateb, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i'w gyhoeddi, ond ni nodwyd pa bryd y byddai hynny'n digwydd. Ym mis Gorffennaf, dywedodd arweinydd y tŷ y byddent yn ymgynghori ar y cynllun cydlyniant cymunedol diwygiedig yn yr hydref. Heddiw, a wnaiff arweinydd y tŷ amlinellu pa bryd yn union y bydd yr ymgynghoriad hwn yn digwydd a pha bryd y mae'n rhagweld y daw'r cynllun cydlyniant cymunedol newydd i rym? Ddirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau o bob ochr i'r Siambr.
Dyma ddadl ac adroddiad defnyddiol, ac mae'r rhain yn faterion pwysig y dylid myfyrio arnynt yn ofalus iawn. Credaf fy mod am ddechrau gyda'r ddadl ynglŷn â siarter hawliau dynol yr UE, sydd—. Fy nealltwriaeth i yw ei bod yn rhestru'r hawliau sy'n bodoli o dan gyfraith yr UE, ac am nad yw'n ddogfen sylfaenol fel y cyfryw, ac ond yn dwyn ynghyd yr hawliau yn neddfwriaeth bresennol yr UE, nid yw'n ymddangos i mi yn ddyfais ddiogel iawn ar gyfer sicrhau hawliau ar ôl Brexit—yn fwy hirdymor yn sicr—a barn Llywodraeth y DU yw bod yr hawliau hynny'n cael eu diogelu mewn colofnau eraill. Felly, credaf y byddai'n eithaf defnyddiol, os teimla Llywodraeth Cymru o ddifrif y ceir rhai hawliau presennol sydd bellach dan fygythiad wrth ymadael â'r UE, eich bod chi'n nodi'r rheini'n benodol ac yna gallwn eu profi, oherwydd ar hyn o bryd mae'n ymddangos mai ein dogfen sylfaenol yw'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol a'r ffordd y caiff hwnnw ei ddehongli—yn amlwg, mae'n ddogfen fyw—a Deddf Hawliau Dynol 1998, sydd, wrth gwrs, yn ei sefydlu yng nghyfraith y DU ac yn rhoi grym cyfreithiol iddo mewn ffordd lawer mwy ymarferol. Felly, credaf fod y ddwy golofn honno'n sicrhau na fydd unrhyw erydu'n digwydd. Fodd bynnag, os ceir pryderon dilys, a bod pobl yn gallu cynnig rhesymau argyhoeddiadol pam y gallai fod rhywfaint o gyfyngu ar hawliau am nad yw siarter yr UE yn mynd i fod yn berthnasol mwyach, gan y bydd yn ddiangen bellach o ran cyfraith y DU—.
Rwy'n nodi rôl Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ymgorffori cydraddoldeb, a chredaf fod y Ddeddf yn ddefnyddiol iawn yn yr ystyr, unwaith eto, ei bod yn caniatáu iddi fod yn ddogfen fyw ddatganiadol, ac mae'n caniatáu inni drafod y materion hyn a gweld sut y gellid eu cyflawni'n ymarferol. Safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod y Ddeddf mor sicr fel nad oes angen o reidrwydd am ffynonellau eraill ar gyfer ymgorffori cydraddoldeb, drwy'r ddyletswydd cydraddoldeb er enghraifft. Felly, ceir dulliau sydd—. Nawr, mae hynny'n debyg braidd i safbwynt Llywodraeth y DU ar siarter hawliau dynol yr UE, gellid dadlau—nad oes angen inni boeni gormod os yw un dull o weithredu heb fod ar gael, gan fod yr hawliau hynny'n bodoli ac wedi'u hymgorffori mewn mannau eraill.
Credaf fod y materion sy'n ymwneud â llywodraethiant y DU, ac mae hyn yn cyfeirio at y gwahanol fframweithiau a ddaw i'r amlwg yn awr, a bydd rhai ohonynt yn berthnasol iawn i gwestiynau'n ymwneud â chydraddoldeb—mae angen eu trin yn ofalus, ac wrth gwrs, ar yr ochr hon i'r Cynulliad, rydym bob amser wedi bod yn awyddus i bwysleisio'r angen i gydlywodraethu, ac i gryfhau sefydliadau'r DU o ran y cydgyngor gweinidogion, er enghraifft. Felly, yn hynny o beth, byddwn yn parhau i fod yn gefnogol ac yn adeiladol iawn, a chredaf y bydd hynny'n ein helpu i lywio drwy rai o'r pryderon pwysig sydd gan bobl ynglŷn â dyfodol buddsoddiad rhanbarthol a sut y caiff hynny ei lywodraethu, ac mae hynny'n rhywbeth, rwy'n credu, sydd o ddiddordeb perthnasol i bawb yma.
A gaf fi orffen drwy sôn am gydlyniant cymunedol? Credaf ei bod yn anffodus, gyda gwahanol ddatblygiadau o gwmpas y byd, fod rhai o'n traddodiadau lleiafrifol gwych yn teimlo o dan bwysau. Nid oes ond raid iddynt ei deimlo. Weithiau, nid yw realiti gwrthrychol hynny mor uniongyrchol ag y mae pobl yn ofni, ond mae'n bwysig iawn cofio os yw pobl yn teimlo o dan fygythiad yn sgil datblygiadau amrywiol, ein lle ni yw tawelu meddyliau pobl, fel roedd angen llawer o dawelu meddyliau ar ôl Brexit oherwydd y ffordd roedd pobl yn ofni y byddai'n arwain at gymdeithas lai amlddiwylliannol—ac nid yw'n golygu hynny, ac nid yw'n galw am unrhyw gyfyngu ar yr olwg honno ar y byd o gwbl. Mae'n bwysig ein bod yn gweithio drwy rai o'r newidiadau eraill sy'n digwydd o amgylch y byd. Rydym wedi clywed rhai ohonynt yn cael eu nodi, o ran gwrthdaro rhyngwladol a chreu ffoaduriaid. Mae'r holl bethau hyn yn creu lefel o ddadlau mewn rhai cylchoedd sy'n llawn o gasineb ac ymagwedd ymosodol, ac mae hynny, rwy'n credu, wedi adlewyrchu'n wael iawn ac wedi arwain at fygythiad penodol o ran sut y mae gwahanol draddodiadau lleiafrifol yn teimlo. Felly, mae angen inni gofio hynny a sicrhau ein bod yn cryfhau'r rhwydweithiau a'r ymgynghoriadau a gawn â hwy, a'u gwerthfawrogi mewn ffordd amlwg iawn. Dyna'r ffordd orau o atal y rhai sy'n cymryd rhan mewn amryw ffurfiau ar siarad casineb a throseddau casineb. Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.
Rwy'n falch o allu siarad yn y ddadl hon. Mewn llawer o ffyrdd, mae'n barhad o'r drafodaeth ddoe ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Gadewch i ni beidio â chamgymryd: er gwaethaf y geiriau y byddwn yn eu clywed yn nes ymlaen ynglŷn â chofio aberth y rhai a fu'n ymladd yn erbyn y Natsïaid, mae'r hawliau hyn o dan fygythiad. Nid trefniadau esmwyth yr UE ar gyfer cludo isotopau meddygol a oedd yn digio'r bobl gyfoethog a ariannodd UKIP a'r ymgyrch dros adael yr UE. Amddiffyniadau'r UE i hawliau gweithwyr, i fenywod, hawliau lleiafrifoedd ac ati a oedd yn eu hysgogi mewn gwirionedd.
Gwelir yr UE fel rhwystr tuag at greu DU neoryddfrydol, Thatcheraidd, gyda lefel isel o drethi a rheoleiddio ac amddiffyniadau i weithwyr. Yn wir, dyna pam y gwelwyd cymaint o frwdfrydedd ynghylch Brexit 'dim bargen', oherwydd byddai'n creu'r amodau o anhrefn sy'n angenrheidiol ar gyfer preifateiddio'r GIG, er enghraifft, fel y maent yn dymuno ei weld.
Felly, rydym wedi galw'n gyson am amddiffyn yr hawliau hyn. Mae canfyddiadau'r adroddiad hwn gan y ddau bwyllgor ar y cyd ar effaith Brexit ar hawliau dynol hefyd yn cefnogi llawer o'n pryderon. Mae'r llythyr cychwynnol at y Prif Weinidog yn nodi, er enghraifft, yn wahanol i lawer o wledydd eraill, nad yw'r hawl i gydraddoldeb yn y DU wedi'i diogelu gan fil hawliau cyfansoddiadol a fyddai'n cyfyngu ar y graddau y gallai deddfwriaeth seneddol erydu neu ddiddymu cydraddoldeb. Mae cyfraith yr UE ar hyn o bryd yn cyflawni'r swyddogaeth wrth gefn hon.
Yr hyn sy'n peri fwyaf o bryder i ni yw goblygiadau'r cytundeb a wnaed rhwng y DU a Llywodraeth Cymru i ddiddymu Deddf y Gyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018. Fel y byddwch yn gwybod, nid yw Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 Llywodraeth y DU yn cynnwys siarter hawliau sylfaenol Ewrop yng nghyfraith y DU, er gwaethaf ymgais i ddiwygio'r Ddeddf honno i'w chynnwys. Mae hyn wedi arwain at y cwestiwn rhesymol, a ofynnwyd gan y pwyllgor, ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu amddiffyn yr hawliau hynny. Mae'r ymateb yn llai na boddhaol a dweud y lleiaf. Rwy'n dyfynnu:
Mae'r rhain yn faterion a fydd yn galw am ystyriaeth ofalus. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i geisio sicrwydd ynghylch hawliau unigol yn y misoedd sydd i ddod.
Wel, dyna ddweud wrthynt, onid e?
Pan ofynnwyd iddi sut y gall sicrhau na chaiff hawliau presennol eu herydu, mae'n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi bodloni ar ddyfynnu Deddf Hawliau Dynol 1998. Yn fwy rhyfedd byth, cyfeiriodd at ymrwymiad y Llywodraeth i hawliau drwy nodi'r ffaith bod egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn wedi eu hymgorffori yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. O ddifrif? Yr unig reswm y cafodd hyn ei gynnwys yn y Ddeddf honno oedd oherwydd bod un o'u grŵp wedi pwyso'r botwm anghywir ac wedi pleidleisio o blaid gwelliant i'w ymgorffori. Nid oedd yn y Ddeddf am fod Llywodraeth Cymru eisiau iddo fod yno. Felly, mae'n amlwg i ni fod angen gwneud llawer mwy, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth sy'n bosibl i amddiffyn hawliau pobl yng Nghymru ar ôl Brexit. Mae hynny'n golygu peidio ag ildio i Lywodraeth y DU sy'n cael ei chadw'n wystl gan ffwndamentalwyr y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd a Rees Mogg. Ac mae hefyd yn golygu bod angen bil hawliau ar gyfer Cymru. Nid dyna yw diben y ddadl heddiw, ond mae'n rhywbeth y byddaf yn dychwelyd ato ar adeg arall.
Dywedodd Cadeiryddion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn eu llythyr ar y cyd at y Prif Weinidog yn gynharach eleni fod gan Gymru hanes balch o amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol mewn ffyrdd arloesol sy'n arwain y byd, a nododd mai'r Cynulliad, wrth gwrs, oedd y corff deddfwriaethol cyntaf yn y byd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Rwyf am inni ddiogelu a gwneud darpariaeth ar gyfer cefnogi'r hanes balch hwnnw.
Yn y ddadl ar y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ddoe, siaredais am bwysigrwydd cymorth ein cyd-bwyllgorau i fabwysiadu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yng Nghymru, ac rwy'n falch fod Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau heddiw wedi rhoi ei gefnogaeth unwaith eto i'r amcan allweddol hwn. Rwy'n credu bod hon yn ddyletswydd hollbwysig, a rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb yn awr i'n galluogi i ddefnyddio'r pŵer newydd hwn. Bydd yn chwarae rhan yn gwrthsefyll effeithiau andwyol Brexit ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae'r Alban wedi ei wneud, a rhaid i ni ei wneud hefyd.
Hefyd, tynnodd John Griffiths sylw at y bygythiadau i arian yr UE a'r rhagolygon i gronfa ffyniant gyffredin y DU. Fe'i gwnaethom yn glir ein bod yn rhannu safbwyntiau ein tystion—ac roedd tystion gan y ddau bwyllgor i'n hadolygiadau a'n hymchwiliadau—y dylai'r gronfa ffyniant gyffredin a argymhellwyd gan Lywodraeth y DU gael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Chymru er mwyn sicrhau ei bod yn sensitif i anghenion ac anghydraddoldebau lleol. Fe'i gwnaethom yn glir hefyd y dylid targedu'r gronfa ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae ein pwyllgorau wedi nodi cronfeydd yr UE sy'n uniongyrchol berthnasol i gydraddoldeb a hawliau dynol, gyda thua 60 y cant o'r prosiectau a ariennir o Gronfa Gymdeithasol Ewrop yn targedu pobl gydag un neu fwy o nodweddion gwarchodedig. Rwy'n siŵr y bydd arweinydd y tŷ yn cymeradwyo argymhellion y pwyllgor ar y pwynt hwn.
A gaf fi hefyd groesawu gwaith fforwm cymdeithas sifil Cymru a sefydlwyd yn ddiweddar ar Brexit? Gyda thros 40 o sefydliadau trydydd sector, mae'n fforwm ardderchog ar gyfer casglu tystiolaeth, gyda chefnogaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd. Mae'r fforwm yn datgan bod y DU'n creu risg ddifrifol i hawliau dynol a chydraddoldeb drwy dynnu'n ôl o siarter yr UE ar hawliau sylfaenol. Rwy'n croesawu'r alwad i sicrhau statws cyfreithiol domestig i siarter yr UE drwy ddeddfwriaeth benodol ar gyfer Cymru yn unig, i roi sylw dyledus i'r offeryn ar draws polisi cyhoeddus, os yw hynny'n ddichonadwy. Ac mae angen inni ymateb i'r alwad honno. Mae'r fforwm cymdeithas sifil hefyd yn datgan y dylai Llywodraeth Cymru geisio sicrhau bod y DU yn dal i fyny gyda'r UE lle y ceir datblygiadau mewn perthynas ag amddiffyniadau hawliau dynol neu gydraddoldeb. Dylai Llywodraeth Cymru geisio gweithredu unrhyw ddatblygiadau newydd a wneir gan yr UE yng Nghymru. Mae'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, er enghraifft, yn nodi bod yr UE ar hyn o bryd yn ystyried deddfwriaeth newydd yn ymwneud ag absenoldeb rhiant, gweithio hyblyg a bwydo ar y fron yn y gwaith. Yn ein llythyr fel ACau at y Prif Weinidog, roeddem yn gofyn i Lywodraeth Cymru nodi sut y bydd yn sicrhau bod hawliau'r siarter yn parhau i fod yn gymwys yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at yr ymateb gan arweinydd y tŷ, ac rwy'n gobeithio yr eir ar drywydd y dystiolaeth sy'n cael ei datblygu gan fforwm cymdeithas sifil Cymru ac y bydd symud ymlaen arni.
Ar sawl achlysur yn y Siambr hon, tynnais sylw at faniffesto'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Maent yn tynnu sylw at y bygythiadau i ddeddfwriaeth cydraddoldebau a hawliau dynol ar ôl Brexit. Maent yn pryderu y bydd effaith gadael yr UE yn arwain at gyfyngu ar hawliau cyfreithiol i fenywod, at leihau'r arian ar gyfer sefydliadau menywod ac at roi pwysau ar wasanaethau penodol.
Lywydd, rwy'n cadeirio rhwydwaith menywod yn Ewrop yng Nghymru er mwyn hyrwyddo hawliau menywod a chydraddoldeb rhwng y rhywiau yng nghyd-destun Brexit. Mae'r rhwydwaith yn awyddus i weld menywod yn cael llais cryfach yn yr archwiliadau a'r trafodaethau Brexit. Mae'r rhwydweithiau hyn yn edrych ar y ddadl hon heddiw; maent yn ei chroesawu'n fawr iawn a byddant yn disgwyl i bwyllgorau'r Cynulliad, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, fwrw ymlaen â hyn i'w archwilio a'i fonitro ymhellach. Mewn rôl flaenorol fel cynghorydd sir, gwelais y gyfran gyntaf o arian Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn cael ei roi i'r gweithdy arloesol i fenywod a agorwyd yn 1984 yng Nghaerdydd, gweithdy a hyfforddodd filoedd ar filoedd o fenywod dros 30 mlynedd mewn technoleg gwybodaeth ac electroneg. Mae'r menywod hynny bellach yn cyfrannu at yr economi leol. Mae hyn oll mewn perygl bellach o ganlyniad i Brexit. Fel y dywedodd Leanne Wood—mae'n wael o ran cydraddoldeb ac mae'n wael o ran yr economi. Felly, mae llawer mewn perygl o ganlyniad i Brexit, a'r testun pryder mwyaf i ni yw cydraddoldebau.
Diolch i'r pwyllgorau am ystyried y materion hyn ac i'r Prif Weinidog am ei ymateb, ac rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn arwydd i fenywod Cymru, i bobl dduon, pobl Asiaidd, pobl o leiafrifoedd ethnig, pobl anabl, a'r cymunedau ein bod yn sefyll dros eu hawliau dynol yn y Cynulliad hwn.
Galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Diolch, Lywydd. Rwy'n ymddiheuro i fy nghyd-Aelodau gan fy mod yn cael ychydig bach o drafferth gyda fy llais.
Felly, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu hadroddiad ar y cyd ac i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Rwy'n credu bod yna ymagwedd unigryw tuag at gydraddoldeb wedi'i gweu i mewn i feddylfryd datganoli Cymru o'r cychwyn cyntaf ac wedi'i adeiladu i mewn i DNA Llywodraeth Cymru. Mae'r ymrwymiad yn rhoi llwyfan cadarn i ni yng Nghymru greu polisïau a deddfwriaeth sy'n gryf a chynhwysol. Mae'n glir o'r hyn y mae pawb wedi'i ddweud yn eu cyfraniadau ein bod yn derbyn ein bod ar drothwy cyfnod digynsail ac ansicr i Gymru wrth i ni adael yr UE, o ran y trafodaethau ar oblygiadau gwahanol senario 'bargen' neu senario 'dim bargen' i amddiffyniadau hawliau dynol y mae pawb ohonom am eu gweld yn cael eu diogelu. A chredaf fod pob siaradwr yn cytuno bod angen diogelu'r hawliau hynny.
Rydym wedi bod yn gyson iawn yn yr hyn rydym am ei weld o ran ein blaenoriaethau ar gyfer gadael yr UE a'n rhan yn sgyrsiau Brexit, ac un o'r blaenoriaethau hynny oedd cynnal y safbwynt hanfodol ar hawliau dynol ar gyfer dinasyddion Cymru a'u lle yn y byd. Ac wrth gwrs, byddai hynny hefyd yn cynnwys ymrwymiad parhaus i sicrhau nad oes unrhyw gam yn ôl yn digwydd o ganlyniad i adael yr UE. Felly, rhaid cael rhyw fodd o wirio beth yw safbwynt gwledydd blaenllaw eraill ym mhob cwr o'r byd ar hawliau dynol a sicrhau ein bod yn camu'n glos wrth hynny. A soniodd David Melding yn fwyaf arbennig, rwy'n credu, nad yr UE yn unig y dylem fod yn ei fonitro o ran hynny, a dyna'n sicr yw ein barn ni yn ogystal, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod Cymru'n camu'n glos wrth yr arferion gorau oll yn y gwaith hwn.
Fodd bynnag, mae'r ansicrwydd parhaus yn ei gwneud hi'n anodd iawn gwerthuso dyfodol y dirwedd ac i fod â llwybrau gweithredu penodol iawn ar hyn o bryd, hyd nes y gwelwn sut olwg a fydd ar y dirwedd honno. Nododd David Melding hefyd, er enghraifft, y drafodaeth gyhoeddus ynglŷn â'r gwahaniaeth rhwng siarter yr UE ar hawliau sylfaenol a'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol sy'n deillio o'r Cyngor Ewropeaidd, a'r dryswch ym meddwl pobl ynglŷn â beth sydd wedi'i ymgorffori yn lle ac ati. Felly, rwy'n credu mai un o'r pethau rydym yn awyddus iawn i'w wneud yw edrych i weld beth y gallwn ei wneud o ran deddfwriaeth Cymru, beth i'w ymgorffori yn neddfau Cymru, fel ein bod yn diogelu'r rhyddid sylfaenol hwnnw mewn ffordd syml iawn. Ac mewn gwirionedd, o ganlyniad i sgwrs a gychwynnwyd yn y Siambr hon, Lywydd, gan Helen Mary Jones ar ei chynnig deddfwriaethol i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, rydym wedi comisiynu ymchwil i ddangos i ni sut, yng Nghymru, y mae'r darnau o ddeddfwriaeth yn clymu wrth ei gilydd yn y ffordd orau.
Mae llawer o'r Aelodau—Jane Hutt, John Griffiths ac Aelodau eraill—wedi sôn am y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, er enghraifft, ac a ddylem roi honno mewn grym. Rydym yn awyddus iawn i wneud hynny. Ond rydym am sicrhau ein bod yn ei wneud mewn ffordd sy'n hollol gydnaws â'n Deddf lles cenedlaethau'r dyfodol er enghraifft, ac nad yw'n torri ar ei thraws mewn unrhyw ffordd neu'n tanseilio'r Ddeddf honno. Felly, rydym wedi comisiynu ymchwil i weld sut y mae'r jig-so'n ffitio i'w gilydd yn y ffordd orau ac i roi map inni ar gyfer cyrraedd man a amlinellwyd gan bawb yn y Siambr, sef man lle'r ydym, yn syml iawn, yn nodi beth yw'r hawliau sylfaenol hynny yn y ddeddfwriaeth Gymreig a sicrhau nad ydym yn cael effaith haenog. Mewn sgwrs gyda chomisiynydd Deddf cenedlaethau'r dyfodol, er enghraifft, soniodd am yr anhawster o sicrhau nad ydym yn llithro'n ôl—rydym wedi pasio'r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sydd â phethau i'w dweud am ffactorau economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau yng Nghymru—ac nid ydym yn rhoi'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol ar yr haen nesaf, fel bod pobl yn mynd yno yn gyntaf, ond rydym yn sicrhau eu bod yn cydgysylltu. Felly, un o'r problemau gyda chopïo'r Alban yw nad oes gan yr Alban Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, felly rydym am wneud yn siŵr eu bod yn clymu wrth ei gilydd.
Felly, rwyf am roi sicrwydd i bawb yn y Siambr ein bod am sicrhau bod gennym yr amddiffyniad gorau a mwyaf arloesol i'r hawliau dynol hyn yng Nghymru, mewn ffordd sy'n unigryw Gymreig, mewn ffordd sy'n cyfuno ein deddfwriaeth â'r confensiynau amrywiol, ac mewn ffordd sy'n diogelu hawliau unigol, fel y nododd John Griffiths yn ei araith, rwy'n credu. Un o'r pethau pwysig iawn i'w hystyried pan edrychwn ar hawliau'r confensiwn a gweithredu'r dyletswyddau amrywiol ac ati yw bod gan unigolion fodd o fynnu eu hawliau eu hunain ac ymladd yn erbyn unrhyw gyfyngu arnynt. Felly, rwy'n hapus iawn, Lywydd, i ddweud wrth y Siambr y byddwn yn dychwelyd cyn gynted ag y bydd y gwaith ymchwil hwnnw gyda ni ac y bydd gennym fap ar gyfer cyrraedd lle'r ydym eisiau bod a bod hynny'n annibynnol ar y ddadl ynglŷn â'r UE, oherwydd rydym am weld sut olwg a ddylai fod ar ein deddfwriaeth beth bynnag. Ac yna, gan fod hynny'n cael ei lywio gan sut olwg fydd ar y Ddeddf ymadael ar ei ffurf derfynol, ac a geir bargen ai peidio, gallwn wneud yn siŵr fod hynny'n cael ei gynnwys yn y sgwrs honno.
Felly, nododd amryw o Aelodau eraill—esgusodwch fi, mae'n ddrwg gennyf, rwy'n cael trafferth mawr gyda fy ngwddf heddiw, yn anffodus—faterion eraill o bwys yn ymwneud â hyn. Hoffwn gyfeirio at rai o'r rheini wrth imi orffen fy nghyfraniad. Un yw'r cynnydd yn nifer y troseddau casineb a'r cynnydd o 71 y cant yn nifer yr atgyfeiriadau. Mae hyn yn wirioneddol syfrdanol i ni. Mae gan Gymru hanes hir o groesawu pobl o bedwar ban byd. Fel y dywed y Prif Weinidog yn aml, rydym i gyd yn ymfudwyr, mae'n dibynnu pa mor bell yn ôl yn eich teulu y dymunwch fynd. Ni ddaeth neb ohonom o'r fan hon yn wreiddiol. Rydym yn awyddus iawn i weld gwlad groesawgar, gadarnhaol a goddefgar, ac un o'r pethau y byddwn yn ei ystyried yn ein hymchwil yw gweld a yw'r ddeddfwriaeth yn rhoi llwyfan yng Nghymru i wneud yn siŵr ein bod yn mynnu'r wlad ddiwylliannol sy'n edrych tuag allan y dymunwn ei gweld drwy alluogi pobl i droi at y gyfraith os caiff yr hawliau hynny eu herydu. Felly, dyna un o'r pethau y mae gennym ddiddordeb mawr yn ei wneud. Rydym hefyd yn edrych i weld a yw'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn cydweithio i ddatblygu amcanion cydraddoldeb cyffredin y gellir eu targedu ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol fel rhan o'r gwaith ar droseddau casineb. Mae llawer o'r bobl sy'n cael profiad o droseddau casineb yn eu profi yn sgil nodwedd warchodedig benodol, ond mae iddo elfennau croestoriadol mewn gwirionedd. Yn aml, mae ganddynt nifer o'r nodweddion hynny, ac rydym am weld hyn yn cael amddiffyniad y gyfraith cymaint ag y gallwn.
Felly, Lywydd, rydym am gerdded y llinell denau rhwng bod yn ofalus iawn ynglŷn â gosod beichiau ychwanegol ar ein gwasanaethau cyhoeddus a bod yn glir iawn ynglŷn â beth yn union yw eu rhwymedigaethau a'u dyletswyddau o ran darparu gwasanaethau i bobl Cymru. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r ddau bwyllgor am eu gwaith yn cyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n hapus iawn i gadarnhau ein bod yn gwneud yr ymchwil sy'n angenrheidiol i ymgorffori pob un o'r darnau hynny o ddeddfwriaeth yn y patrwm gorau posibl, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r ddau bwyllgor yn y dyfodol i gyflwyno hynny. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor materion allanol i ymateb i'r ddadl, David Rees.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniad i'r ddadl heddiw? Credaf mai dyma'r tro cyntaf efallai i ni gael adroddiad ar y cyd yn dod gerbron y Cynulliad gan bwyllgorau yn y Cynulliad hwn. Mae hefyd yn dangos, efallai, fod y ffordd rydym yn gweithio yn esblygu wrth inni symud ymlaen. A gaf fi hefyd gofnodi diolch y ddau bwyllgor i'w staff, clercod y pwyllgorau a'u timau, ac i'r tystion? Heb y rheini, byddai ein gwaith yn llawer iawn anos.
Mae'r canfyddiadau hyn yn allweddol i ni, ac efallai fod Brexit wedi tynnu sylw at rywbeth. Mae gennyf ychydig o bwyntiau o'r hyn y siaradodd yr Aelodau amdano. David Melding, ar y siarter hawliau sylfaenol, rwyf am dynnu sylw at y ffaith nad yw'n gyfraith, rwy'n cytuno, ond mae o fewn fframwaith y gyfraith Ewropeaidd, ac felly mae'n bodoli o fewn y fframwaith hwnnw. Wrth inni adael yr UE, mae'r fframwaith cyfraith Ewropeaidd hwnnw y mae'n gweithredu ynddo'n diflannu. Felly, nid yw'r hawliau a oedd yno o reidrwydd yn cael eu diogelu gan y gyfraith o fewn y DU am nad yr un cyfreithiau Ewropeaidd sydd gennym. Dyna yw'r broblem rydym yn ceisio tynnu sylw ati. Dyna pam roedd ein pwyllgor ni yn arbennig yn falch o weld y cyfeiriad hwnnw ym Mil y gyfraith sy'n deillio o'r UE i sicrhau y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau, fel rhan o'i Bil parhad—. Ond wrth gwrs, ni chafodd ei barhau yn y Bil ymadael â'r UE—neu'r Ddeddf, fel yw hi bellach. Cafodd ei gynnwys gan yr Arglwyddi fel gwelliant, ond fe'i trechwyd yn Nhŷ'r Cyffredin yn yr adran ping-pong. Ond mae'n bwysig ei fod gennym gan fod yna hawliau y mae angen inni eu hamddiffyn, hawliau y mae pawb ohonom wedi elwa arnynt. Credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw nad oes neb yn rhagweld y bydd yr hawliau hynny'n cael eu herydu o fewn un diwrnod i adael yr UE, ond heb ddeddfwriaeth i ategu'r hawliau hyn, rydym yn gadael ein hunain yn agored i gyfle ymhen blynyddoedd i Lywodraethau eraill ddod i mewn a thanseilio'r hawliau hynny. Dyna oedd y rheswm am hyn—sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn bodoli.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod dyfodol buddsoddiad rhanbarthol yn bryder a rennir gan bawb ar draws y Siambr hon—rydym wedi ei glywed yn aml—ac mae cydlywodraethu yn un—. Mae angen inni edrych i weld sut rydym yn mynd i reoli hynny, a daw hynny gyda'r gronfa ffyniant gyffredin. Nid yw hyn yn ymwneud â'r gronfa ffyniant gyffredin ynddi ei hun, ond mae'n amlygu enghreifftiau a phryderon sydd gennym ar hyn o bryd ynglŷn â sut y rheolwn y gronfa honno a sut y gallwn sicrhau y bydd y blaenoriaethau i Gymru yn cael eu sicrhau gan Lywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn hytrach na chael eu gorfodi arnom gan San Steffan—rhywbeth y mae pobl Brexit i'w gweld yn dymuno ei wneud—i adlewyrchu'r un dadleuon am Frwsel.
Dywedodd Leanne fod hawliau o dan fygythiad, a dyna pam rydym wedi nodi hynny. Maent o dan fygythiad oni bai eu bod yn cael eu hategu gan gyfraith. Ac rydych wedi tynnu sylw at bobl adain dde, efallai, sydd o'r farn fod gadael, Brexit, yn gyfle. Y realiti yw bod yna bobl mewn swyddi uchel sy'n arddel y farn honno. Dyna'r realiti. Ac roeddem eisiau sicrhau, wrth i'r UE fanteisio ar y cyfle i roi deddfwriaeth ar waith i amddiffyn pobl, ein bod ninnau hefyd yn gwneud yr un fath yma yn y DU wedi i ni adael yr UE, fel bod y deddfau yno i amddiffyn hawliau unigolion. Pa un a fyddwn yn cael Bil hawliau dynol Cymreig—rwy'n siŵr y gallai fod yn rhywbeth y bydd hi'n ei gyflwyno fel Bil Aelod, Bil aelod o'r meinciau cefn.
Unwaith eto, nododd Jane y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, ac mae honno'n hollbwysig yma. Nawr, rwyf wedi darllen y llythyrau gan y Prif Weinidog yn dweud yn glir fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynd i gynnwys popeth, a deallaf sylwadau arweinydd y tŷ ynglŷn â sicrhau eu bod yn gweithio gyda'i gilydd, yn cydblethu'n dda. Rwy'n deall hynny'n iawn, ond credaf ei fod yn allweddol. Mae gennym bwerau i wneud hyn—gadewch inni ei wneud. Gadewch inni wneud yn siŵr nad yw'n 10 mis, dwy flynedd, tair blynedd, neu Gynulliad arall eto efallai, cyn inni wneud hynny. Nawr yw'r amser i fanteisio ar y cyfle. Rwy'n derbyn eich bod yn dweud bod gennych ymchwil ar waith ar hynny. Ni roesoch amserlen; fe ddywedoch y byddech yn dod yn ôl atom cyn gynted â phosibl. Byddai amserlenni'n wych pe baem yn gwybod—chwe mis; rhyw fath o ffactor amser.
Mis Chwefror.
Mis Chwefror. Diolch. Mae hynny'n beth da, oherwydd mae gennym o leiaf—. Bellach mae gennym syniad mewn gwirionedd y bydd yn digwydd cyn inni adael yr UE. Mae hynny'n bwysig iawn i ni.
Nododd Jane hefyd ei bod hi'n bwysig fod hawliau'n dod i'r amlwg, ac yn arbennig ein bod yn nodi hawliau sy'n dod i'r amlwg yn ystod y cyfnod pontio, os oes un, oherwydd byddwn yn gweithredu o dan yr amodau hynny hyd nes y daw'r cyfnod pontio hwnnw i ben. Sut y mae sicrhau bod y rheini hefyd o fewn cyfraith y DU ac wedi'u hamddiffyn pan fyddwn yn gadael y cyfnod pontio? Felly, mae'n elfen hollbwysig; rydym yn bwriadu edrych ar hynny.
Arweinydd y tŷ, fe sonioch chi am gamu'n glos. Rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Soniasoch am ddeddfwriaeth Gymreig. Mae'n bwysig ein bod yn gwneud mwy na dim ond dal ati i ddweud, 'Mae gennym y Bil unigryw hwn, Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sy'n darparu hyn.' Gallwn wneud mwy, a dylem wneud mwy gyda'r pwerau sydd gennym.
Lywydd, bydd goblygiadau cyfansoddiadol, cyfreithiol a gwleidyddol dwfn yn deillio o'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd i bobl Cymru yn y blynyddoedd i ddod. Nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Drwy daflu goleuni ar fater hawliau dynol a chydraddoldeb, a oedd yn rhywbeth nad oedd pobl eisiau siarad llawer amdano yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, rwy'n gobeithio bod y ddau bwyllgor wedi atgoffa pobl fod gan Gymru hanes balch o arwain y ffordd yn y meysydd hyn, a'n nod yw sicrhau bod yr hanes balch hwn yn parhau. Mae angen sicrwydd y bydd yr hawliau'n parhau i fod yn berthnasol yng Nghymru ar ôl Brexit. Mae angen inni sicrhau na chânt eu tynnu'n ôl fel na fyddwn yn gweld yr hawliau hynny'n cael eu herydu. Ac wrth edrych ymlaen, byddwn yn parhau i gadw llygad ar hyn, byddwn yn parhau i gadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd, gobeithio, dros y cyfnod pontio, ac rwy'n cymeradwyo'r adroddiad ar y cyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.