Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Diolch, Lywydd. Rwy'n ymddiheuro i fy nghyd-Aelodau gan fy mod yn cael ychydig bach o drafferth gyda fy llais.
Felly, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu hadroddiad ar y cyd ac i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Rwy'n credu bod yna ymagwedd unigryw tuag at gydraddoldeb wedi'i gweu i mewn i feddylfryd datganoli Cymru o'r cychwyn cyntaf ac wedi'i adeiladu i mewn i DNA Llywodraeth Cymru. Mae'r ymrwymiad yn rhoi llwyfan cadarn i ni yng Nghymru greu polisïau a deddfwriaeth sy'n gryf a chynhwysol. Mae'n glir o'r hyn y mae pawb wedi'i ddweud yn eu cyfraniadau ein bod yn derbyn ein bod ar drothwy cyfnod digynsail ac ansicr i Gymru wrth i ni adael yr UE, o ran y trafodaethau ar oblygiadau gwahanol senario 'bargen' neu senario 'dim bargen' i amddiffyniadau hawliau dynol y mae pawb ohonom am eu gweld yn cael eu diogelu. A chredaf fod pob siaradwr yn cytuno bod angen diogelu'r hawliau hynny.
Rydym wedi bod yn gyson iawn yn yr hyn rydym am ei weld o ran ein blaenoriaethau ar gyfer gadael yr UE a'n rhan yn sgyrsiau Brexit, ac un o'r blaenoriaethau hynny oedd cynnal y safbwynt hanfodol ar hawliau dynol ar gyfer dinasyddion Cymru a'u lle yn y byd. Ac wrth gwrs, byddai hynny hefyd yn cynnwys ymrwymiad parhaus i sicrhau nad oes unrhyw gam yn ôl yn digwydd o ganlyniad i adael yr UE. Felly, rhaid cael rhyw fodd o wirio beth yw safbwynt gwledydd blaenllaw eraill ym mhob cwr o'r byd ar hawliau dynol a sicrhau ein bod yn camu'n glos wrth hynny. A soniodd David Melding yn fwyaf arbennig, rwy'n credu, nad yr UE yn unig y dylem fod yn ei fonitro o ran hynny, a dyna'n sicr yw ein barn ni yn ogystal, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod Cymru'n camu'n glos wrth yr arferion gorau oll yn y gwaith hwn.
Fodd bynnag, mae'r ansicrwydd parhaus yn ei gwneud hi'n anodd iawn gwerthuso dyfodol y dirwedd ac i fod â llwybrau gweithredu penodol iawn ar hyn o bryd, hyd nes y gwelwn sut olwg a fydd ar y dirwedd honno. Nododd David Melding hefyd, er enghraifft, y drafodaeth gyhoeddus ynglŷn â'r gwahaniaeth rhwng siarter yr UE ar hawliau sylfaenol a'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol sy'n deillio o'r Cyngor Ewropeaidd, a'r dryswch ym meddwl pobl ynglŷn â beth sydd wedi'i ymgorffori yn lle ac ati. Felly, rwy'n credu mai un o'r pethau rydym yn awyddus iawn i'w wneud yw edrych i weld beth y gallwn ei wneud o ran deddfwriaeth Cymru, beth i'w ymgorffori yn neddfau Cymru, fel ein bod yn diogelu'r rhyddid sylfaenol hwnnw mewn ffordd syml iawn. Ac mewn gwirionedd, o ganlyniad i sgwrs a gychwynnwyd yn y Siambr hon, Lywydd, gan Helen Mary Jones ar ei chynnig deddfwriaethol i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, rydym wedi comisiynu ymchwil i ddangos i ni sut, yng Nghymru, y mae'r darnau o ddeddfwriaeth yn clymu wrth ei gilydd yn y ffordd orau.
Mae llawer o'r Aelodau—Jane Hutt, John Griffiths ac Aelodau eraill—wedi sôn am y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, er enghraifft, ac a ddylem roi honno mewn grym. Rydym yn awyddus iawn i wneud hynny. Ond rydym am sicrhau ein bod yn ei wneud mewn ffordd sy'n hollol gydnaws â'n Deddf lles cenedlaethau'r dyfodol er enghraifft, ac nad yw'n torri ar ei thraws mewn unrhyw ffordd neu'n tanseilio'r Ddeddf honno. Felly, rydym wedi comisiynu ymchwil i weld sut y mae'r jig-so'n ffitio i'w gilydd yn y ffordd orau ac i roi map inni ar gyfer cyrraedd man a amlinellwyd gan bawb yn y Siambr, sef man lle'r ydym, yn syml iawn, yn nodi beth yw'r hawliau sylfaenol hynny yn y ddeddfwriaeth Gymreig a sicrhau nad ydym yn cael effaith haenog. Mewn sgwrs gyda chomisiynydd Deddf cenedlaethau'r dyfodol, er enghraifft, soniodd am yr anhawster o sicrhau nad ydym yn llithro'n ôl—rydym wedi pasio'r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sydd â phethau i'w dweud am ffactorau economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau yng Nghymru—ac nid ydym yn rhoi'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol ar yr haen nesaf, fel bod pobl yn mynd yno yn gyntaf, ond rydym yn sicrhau eu bod yn cydgysylltu. Felly, un o'r problemau gyda chopïo'r Alban yw nad oes gan yr Alban Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, felly rydym am wneud yn siŵr eu bod yn clymu wrth ei gilydd.
Felly, rwyf am roi sicrwydd i bawb yn y Siambr ein bod am sicrhau bod gennym yr amddiffyniad gorau a mwyaf arloesol i'r hawliau dynol hyn yng Nghymru, mewn ffordd sy'n unigryw Gymreig, mewn ffordd sy'n cyfuno ein deddfwriaeth â'r confensiynau amrywiol, ac mewn ffordd sy'n diogelu hawliau unigol, fel y nododd John Griffiths yn ei araith, rwy'n credu. Un o'r pethau pwysig iawn i'w hystyried pan edrychwn ar hawliau'r confensiwn a gweithredu'r dyletswyddau amrywiol ac ati yw bod gan unigolion fodd o fynnu eu hawliau eu hunain ac ymladd yn erbyn unrhyw gyfyngu arnynt. Felly, rwy'n hapus iawn, Lywydd, i ddweud wrth y Siambr y byddwn yn dychwelyd cyn gynted ag y bydd y gwaith ymchwil hwnnw gyda ni ac y bydd gennym fap ar gyfer cyrraedd lle'r ydym eisiau bod a bod hynny'n annibynnol ar y ddadl ynglŷn â'r UE, oherwydd rydym am weld sut olwg a ddylai fod ar ein deddfwriaeth beth bynnag. Ac yna, gan fod hynny'n cael ei lywio gan sut olwg fydd ar y Ddeddf ymadael ar ei ffurf derfynol, ac a geir bargen ai peidio, gallwn wneud yn siŵr fod hynny'n cael ei gynnwys yn y sgwrs honno.
Felly, nododd amryw o Aelodau eraill—esgusodwch fi, mae'n ddrwg gennyf, rwy'n cael trafferth mawr gyda fy ngwddf heddiw, yn anffodus—faterion eraill o bwys yn ymwneud â hyn. Hoffwn gyfeirio at rai o'r rheini wrth imi orffen fy nghyfraniad. Un yw'r cynnydd yn nifer y troseddau casineb a'r cynnydd o 71 y cant yn nifer yr atgyfeiriadau. Mae hyn yn wirioneddol syfrdanol i ni. Mae gan Gymru hanes hir o groesawu pobl o bedwar ban byd. Fel y dywed y Prif Weinidog yn aml, rydym i gyd yn ymfudwyr, mae'n dibynnu pa mor bell yn ôl yn eich teulu y dymunwch fynd. Ni ddaeth neb ohonom o'r fan hon yn wreiddiol. Rydym yn awyddus iawn i weld gwlad groesawgar, gadarnhaol a goddefgar, ac un o'r pethau y byddwn yn ei ystyried yn ein hymchwil yw gweld a yw'r ddeddfwriaeth yn rhoi llwyfan yng Nghymru i wneud yn siŵr ein bod yn mynnu'r wlad ddiwylliannol sy'n edrych tuag allan y dymunwn ei gweld drwy alluogi pobl i droi at y gyfraith os caiff yr hawliau hynny eu herydu. Felly, dyna un o'r pethau y mae gennym ddiddordeb mawr yn ei wneud. Rydym hefyd yn edrych i weld a yw'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn cydweithio i ddatblygu amcanion cydraddoldeb cyffredin y gellir eu targedu ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol fel rhan o'r gwaith ar droseddau casineb. Mae llawer o'r bobl sy'n cael profiad o droseddau casineb yn eu profi yn sgil nodwedd warchodedig benodol, ond mae iddo elfennau croestoriadol mewn gwirionedd. Yn aml, mae ganddynt nifer o'r nodweddion hynny, ac rydym am weld hyn yn cael amddiffyniad y gyfraith cymaint ag y gallwn.
Felly, Lywydd, rydym am gerdded y llinell denau rhwng bod yn ofalus iawn ynglŷn â gosod beichiau ychwanegol ar ein gwasanaethau cyhoeddus a bod yn glir iawn ynglŷn â beth yn union yw eu rhwymedigaethau a'u dyletswyddau o ran darparu gwasanaethau i bobl Cymru. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r ddau bwyllgor am eu gwaith yn cyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n hapus iawn i gadarnhau ein bod yn gwneud yr ymchwil sy'n angenrheidiol i ymgorffori pob un o'r darnau hynny o ddeddfwriaeth yn y patrwm gorau posibl, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r ddau bwyllgor yn y dyfodol i gyflwyno hynny. Diolch.