Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Mae ein cynnig yn galw ar y Cynulliad i anrhydeddu
'cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog.'
Arweiniais ddadl fer yma ym mis Ionawr 2008 i gefnogi ymgyrch Anrhydeddu'r Cyfamod y Lleng Brydeinig Frenhinol, a deuthum i'r casgliad fod yn rhaid ymladd drosto hyd nes y caiff ei ennill. Wedyn croesawais y cyhoeddiad ynghylch cyfamod y lluoedd arfog ym mis Mai 2011, yn cyflwyno dyletswydd statudol o 2012 ymlaen i osod adroddiad blynyddol gerbron Senedd y DU i ystyried effeithiau gwasanaeth ar filwyr rheolaidd, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr, eu teuluoedd a'r rhai mewn galar, a hefyd i edrych ar feysydd o anfantais bosibl a'r angen am ddarpariaeth arbennig lle y bo'n briodol.
Llofnododd Llywodraeth Cymru a'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru y cyfamod ac ymrwymo i weithio gyda sefydliadau partner i gynnal ei egwyddorion. Fodd bynnag, ni chafwyd adolygiad annibynnol eto o gynnydd a chyflawniad ar draws Cymru gyfan ers sefydlu'r cyfamod—neu ni chafwyd adolygiad hyd nes y cyflawnodd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a chadetiaid y gwaith.
Yn ein dadl ar gymorth ar gyfer y lluoedd arfog y llynedd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet na ddylai fod gan yr Aelodau unrhyw amheuaeth ynghylch y pwyslais y mae'r Llywodraeth hon yn ei roi ar gyflawni'r cyfamod yng Nghymru. Fodd bynnag, mae pryderon yn parhau ynglŷn â'i weithredu ac o ran sicrhau bod cyn-filwyr yn ymwybodol o'r cymorth hwn.
Archwiliodd yr adolygiad y llynedd o weithrediad y cyfamod gan grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar y lluoedd arfog a chadetiaid y modd roedd gwasanaethau yng Nghymru yn cyflawni eu rhwymedigaethau o dan gyfamod y lluoedd arfog. Ers cyflwyno'r cyfamod, canfu'r grŵp fod gwaith da wedi'i wneud ledled Cymru ar gyflawni ei nodau, a bod mwy o ymwybyddiaeth gan y gwasanaethau cyhoeddus. Er gwaethaf y datblygiadau cadarnhaol, fodd bynnag, canfu nad oes digon o atebolrwydd er mwyn sicrhau bod cyrff sydd wedi ymrwymo i'r cyfamod yn cyflawni eu rhwymedigaethau mewn gwirionedd.
Mae'r cyfamod yn datgan na ddylai unrhyw un sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog wynebu anfantais, ac mewn amgylchiadau penodol, gallant ddisgwyl ystyriaeth arbennig o ran eu gofal GIG. Er gwaethaf hyn, fodd bynnag, mae cyn-filwyr a'u teuluoedd wedi wynebu anghysonder o ran cael mynediad at ofal iechyd yng Nghymru, gyda'r trydydd sector a'r sector elusennol yn aml yn gorfod darparu'r gwasanaethau adsefydlu a'r gwasanaethau arbenigol sydd eu hangen arnynt.
Mae ymlyniad at y cyfamod a'r modd y caiff ei weithredu yn amrywio'n fawr ar draws byrddau iechyd Cymru, fel y dengys gwybodaeth ddiweddar a gafodd y Ceidwadwyr Cymreig gan bob bwrdd iechyd. Gan Abertawe Bro Morgannwg yn unig y ceir cyllideb bwrpasol ar gyfer cyn-filwyr. Yn ystod y tair blynedd ariannol ddiwethaf, dyrannwyd £242,000 yno, ond defnyddio dyraniadau craidd yn unig a wnaeth y chwe bwrdd iechyd arall ar gyfer ariannu anghenion cyn-filwyr. Byrddau iechyd Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro, Powys a Hywel Dda yn unig sydd wedi mabwysiadu canllawiau 2017 Llywodraeth Cymru yn llawn ac mae'n destun pryder fod Betsi Cadwaladr wedi nodi nad oedd yn gwneud mwy na dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2008, dair blynedd cyn cyhoeddi'r cyfamod.
Roedd hyfforddiant ac ymwybyddiaeth staff o'r cyfamod yn amrywio'n fawr ar draws y byrddau iechyd, gydag ond ychydig o hyfforddiant ffurfiol ar ei ofynion yn digwydd. Roedd timau cofnodion meddygol yn Aneurin Bevan a Chaerdydd a'r Fro wedi cael hyfforddiant ar flaenoriaeth ac atgyfeiriadau cyflym, gyda Chaerdydd a'r Fro ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar becyn hyfforddiant ar gyfer gofal sylfaenol. Ac eto nid oedd Abertawe Bro Morgannwg wedi gwneud dim mwy na dosbarthu canllawiau protocol, ar lefel bwrdd yn unig yr oedd Powys wedi darparu hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth, ac nid oedd Hywel Dda na Betsi Cadwaladr wedi darparu unrhyw hyfforddiant ffurfiol. Er bod y cyfamod yn berthnasol i weithwyr byrddau iechyd lleol, roeddwn yn bryderus yn ddiweddar pan euthum gyda gweithiwr yn un o'r byrddau iechyd a oedd wedi cael diagnosis o anhwylder straen wedi trawma milwrol i gyfarfod gyda'i gyflogwyr, pan nododd y bwrdd iechyd mai eu dealltwriaeth hwy oedd nad oedd y cyfamod ond yn berthnasol iddo fel claf.
Siaradais yn lansiad Newid Cam yn 2013, sef gwasanaeth cymorth a mentora gan gyn-filwyr ar gyfer cyn-filwyr sy'n ceisio cymorth gyda iechyd meddwl, unigrwydd neu broblemau dibyniaeth, dan arweiniad yr elusen CAIS yng ngogledd Cymru. Mae Newid Cam bellach wedi helpu mwy na 1,700 o gyn-filwyr a'u teuluoedd ers ei lansio, ac eto mae ei ddibyniaeth ar arian sy'n rhaid gwneud cais amdano yn her hirdymor wrth geisio darparu gwasanaethau hanfodol. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicr o ddweud wrthym am y swm o arian a roddwyd i GIG Cymru i Gyn-filwyr, sy'n darparu asesiadau a thriniaeth seicolegol ar gyfer problemau iechyd meddwl gan gynnwys anhwylder straen wedi trawma i gyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru. Er gwaethaf hyn, mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn nodi na fyddant yn gallu parhau i leihau amseroedd aros ar gyfer triniaeth heb gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Maent wedi dweud wrthym eu bod yn lleihau rhestrau aros ar gyfer triniaeth drwy gyflogi tri therapydd amser llawn ar gyfer cyn-filwyr gydag arian gan yr elusen Help for Heroes, ac maent wedi cwblhau'r flwyddyn gyntaf o hynny, ond ym mis Medi 2020, bydd y swyddi hyn yn diflannu ac mae'r rhestrau aros yn debygol o gynyddu eto heb gynnydd yn y cymorth gan Lywodraeth Cymru. Wrth gwrs, heb y cynnydd hwnnw, byddai baich cost ychwanegol ar y gwasanaethau iechyd a gofal, ac felly byddai'n economi ffug. Mae Gig Cymru i Gyn-filwyr hefyd yn datgan bod astudiaethau ar raddfa fawr wedi'u cynnal yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar anghenion cyn-filwyr a chyn-bersonél y lluoedd arfog gan ymddiriedolaeth Forces in Mind, ac maent yn galw am astudiaeth debyg yng Nghymru i helpu i lywio polisi ac ymarfer.
Mae tai yn allweddol i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf wedi arwain y ffordd ar hyn yng Nghymru ac wedi sicrhau cyllid o gronfa'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer llety i gyn-filwyr er mwyn darparu cartrefi ledled Cymru. Mae menter Cartrefi ar gyfer Cyn-filwyr Cymru Alabaré yn darparu tai â chymorth ar gyfer cyn-filwyr sy'n ei chael hi'n anodd ymaddasu i'r byd sifil. Drwy weithio gyda'i gilydd, cyflawnodd Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf ac Alabaré brosiect hunanadeiladu uchelgeisiol ar gyfer cyn-filwyr yn Wrecsam, y drydedd drigfan yng ngogledd Cymru i gael ei rheoli gan Cartrefi Cymru ar gyfer Cyn-filwyr, ac aeth â darpariaeth yr elusen ar draws Cymru i 57 o leoedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi llwybr atgyfeirio ar gyfer tai i gyn-filwyr ac wedi diweddaru canllawiau. Fodd bynnag, nid yw darparu taflenni a chardiau cyngor yn lleddfu pryderon ynglŷn â sut y gall y swyddogion tai sy'n darparu cymorth angenrheidiol reoli achosion cymhleth yn ymwneud ag ailgartrefu cyn-filwyr. Felly mae angen i Lywodraeth Cymru integreiddio gwasanaethau tai, iechyd a gofal yn well, ynghyd â chymorth ar gyfer cynlluniau megis y rhai a ddarperir gan Dewis Cyntaf ac Alabaré, yn enwedig pan fo gostyngiad mawr wedi bod yn nifer yr aelwydydd cyn-filwyr y mae awdurdodau lleol wedi derbyn bod ganddynt angen blaenoriaethol am lety ers cyflwyno Deddf Tai (Cymru) 2014. Ni allaf gredu bod y ffigurau hynny'n adlewyrchiad o wir lefel yr angen.
Elusen sy'n darparu mannau diogel yw Woody's Lodge i alluogi cyn-filwyr y lluoedd arfog, rhai sydd wedi gadael yn ddiweddar, milwyr wrth gefn, a'r rhai a fu'n gwasanaethu yn y gwasanaethau brys, i gymdeithasu a chael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac i ryngweithio â phobl sydd wedi cael profiadau tebyg. Yn dilyn llwyddiant eu canolfan sefydledig gyntaf yn ne Cymru, maent bellach yn agor canolfan ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn ar gyfer cyn-filwyr ar draws gogledd Cymru. Ochr yn ochr ag Age Cymru a Chynghrair Henoed Cymru, mae Woody's Lodge yn bartner yn y prosiect 360°, a ariennir gan gronfa cyn-filwyr hŷn Canghellor y DU, i gefnogi cyn-filwyr hŷn ledled Cymru.
Cymeradwywyd yr adroddiad gan y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid y cyfeiriwyd ato'n gynharach, a chanfu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried penodi comisiynydd y lluoedd arfog ar gyfer Cymru er mwyn cynnal y cyfamod a gwella atebolrwydd sefydliadau sector cyhoeddus i ddarparu cyfamod y lluoedd arfog. Dywedodd y dylai fod yn ofynnol i'r comisiynydd gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydymffurfiaeth â'r cyfamod i'w osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Er bod hynny i'w groesawu, nid yw penodi swyddogion cyswllt y lluoedd arfog wedi'u hariannu gan y cyfamod ar draws awdurdodau lleol Cymru yn bodloni'r gofyniad hwn.
Wrth ymateb i mi ddoe, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet osgoi hyn drwy ddatgan yn lle hynny mai rôl y Cynulliad Cenedlaethol yw sicrhau atebolrwydd y Llywodraeth. A yw'n dweud felly nad oes angen comisiynwyr arnom mewn meysydd eraill, gan gynnwys plant, pobl hŷn a chenedlaethau'r dyfodol? Onid yw eu bodolaeth yn profi'r egwyddor fod gan gomisiynwyr ran allweddol i'w chwarae mewn gwirionedd? Gan mlynedd ar ôl llofnodi'r cytuniad a arweiniodd at ddod â'r rhyfel byd cyntaf i ben, mae'n rhaid i gyfamod y lluoedd arfog barhau. Diolch yn fawr.