– Senedd Cymru ar 7 Tachwedd 2018.
Symudwn yn awr at y ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y lluoedd arfog, a galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6854 Darren Millar
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Sul y Cofio eleni yn nodi canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad a ddiwedd y rhyfel byd cyntaf.
2. Yn croesawu ymgyrch 'Thank you 100' y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy'n cofio'r rhai a wasanaethodd, aberthodd a newidodd ein byd rhwng 1914 a 1918.
3. Yn anrhydeddu cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru er mwyn sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal.
Diolch. Wel, y Sul hwn fydd canmlwyddiant llofnodi'r cadoediad a ddaeth â'r rhyfel byd cyntaf i ben. Ar 3 Awst, gyda 100 o ddyddiau tan ganmlwyddiant y cadoediad, lansiodd y Lleng Brydeinig Frenhinol ymgyrch dorfol i ddweud 'diolch' wrth genhedlaeth y rhyfel byd cyntaf a wasanaethodd, a aberthodd ac a newidiodd ein byd, gyda phob cymuned yn cael eu hannog i ymuno a channoedd o ddigwyddiadau cymunedol wedi'u trefnu. Yr wythnos diwethaf, lansiwyd Remember Together hefyd, sef menter newydd gan British Future a'r Lleng Brydeinig Frenhinol i ddod â phobl o wahanol gefndiroedd at ei gilydd i nodi'r cofio a chanmlwyddiant cadoediad y rhyfel byd cyntaf.
Ceir ymwybyddiaeth gynyddol y gallai ac y dylai cofio berthyn i bob un ohonom, beth bynnag yw ein gwleidyddiaeth, ein hethnigrwydd neu ein ffydd. Roedd byddinoedd 1914-18 yn edrych yn debycach i Brydain 2018 na Phrydain y cyfnod hwnnw. Ymladdai milwyr Prydain ochr yn ochr â milwyr o wahanol liwiau a chredoau o bob rhan o'r Gymanwlad, gan gynnwys dros 1 filiwn o filwyr o India, 400,000 ohonynt yn Fwslimiaid o'r hyn sy'n Bacistan heddiw. Mae'r hanes hwn a rennir o wasanaeth a chyfraniad yn rhywbeth y gall pawb ohonom ym Mhrydain a'r DU ei goffáu.
Mae ein cynnig yn galw ar y Cynulliad i anrhydeddu
'cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog.'
Arweiniais ddadl fer yma ym mis Ionawr 2008 i gefnogi ymgyrch Anrhydeddu'r Cyfamod y Lleng Brydeinig Frenhinol, a deuthum i'r casgliad fod yn rhaid ymladd drosto hyd nes y caiff ei ennill. Wedyn croesawais y cyhoeddiad ynghylch cyfamod y lluoedd arfog ym mis Mai 2011, yn cyflwyno dyletswydd statudol o 2012 ymlaen i osod adroddiad blynyddol gerbron Senedd y DU i ystyried effeithiau gwasanaeth ar filwyr rheolaidd, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr, eu teuluoedd a'r rhai mewn galar, a hefyd i edrych ar feysydd o anfantais bosibl a'r angen am ddarpariaeth arbennig lle y bo'n briodol.
Llofnododd Llywodraeth Cymru a'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru y cyfamod ac ymrwymo i weithio gyda sefydliadau partner i gynnal ei egwyddorion. Fodd bynnag, ni chafwyd adolygiad annibynnol eto o gynnydd a chyflawniad ar draws Cymru gyfan ers sefydlu'r cyfamod—neu ni chafwyd adolygiad hyd nes y cyflawnodd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a chadetiaid y gwaith.
Yn ein dadl ar gymorth ar gyfer y lluoedd arfog y llynedd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet na ddylai fod gan yr Aelodau unrhyw amheuaeth ynghylch y pwyslais y mae'r Llywodraeth hon yn ei roi ar gyflawni'r cyfamod yng Nghymru. Fodd bynnag, mae pryderon yn parhau ynglŷn â'i weithredu ac o ran sicrhau bod cyn-filwyr yn ymwybodol o'r cymorth hwn.
Archwiliodd yr adolygiad y llynedd o weithrediad y cyfamod gan grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar y lluoedd arfog a chadetiaid y modd roedd gwasanaethau yng Nghymru yn cyflawni eu rhwymedigaethau o dan gyfamod y lluoedd arfog. Ers cyflwyno'r cyfamod, canfu'r grŵp fod gwaith da wedi'i wneud ledled Cymru ar gyflawni ei nodau, a bod mwy o ymwybyddiaeth gan y gwasanaethau cyhoeddus. Er gwaethaf y datblygiadau cadarnhaol, fodd bynnag, canfu nad oes digon o atebolrwydd er mwyn sicrhau bod cyrff sydd wedi ymrwymo i'r cyfamod yn cyflawni eu rhwymedigaethau mewn gwirionedd.
Mae'r cyfamod yn datgan na ddylai unrhyw un sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog wynebu anfantais, ac mewn amgylchiadau penodol, gallant ddisgwyl ystyriaeth arbennig o ran eu gofal GIG. Er gwaethaf hyn, fodd bynnag, mae cyn-filwyr a'u teuluoedd wedi wynebu anghysonder o ran cael mynediad at ofal iechyd yng Nghymru, gyda'r trydydd sector a'r sector elusennol yn aml yn gorfod darparu'r gwasanaethau adsefydlu a'r gwasanaethau arbenigol sydd eu hangen arnynt.
Mae ymlyniad at y cyfamod a'r modd y caiff ei weithredu yn amrywio'n fawr ar draws byrddau iechyd Cymru, fel y dengys gwybodaeth ddiweddar a gafodd y Ceidwadwyr Cymreig gan bob bwrdd iechyd. Gan Abertawe Bro Morgannwg yn unig y ceir cyllideb bwrpasol ar gyfer cyn-filwyr. Yn ystod y tair blynedd ariannol ddiwethaf, dyrannwyd £242,000 yno, ond defnyddio dyraniadau craidd yn unig a wnaeth y chwe bwrdd iechyd arall ar gyfer ariannu anghenion cyn-filwyr. Byrddau iechyd Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro, Powys a Hywel Dda yn unig sydd wedi mabwysiadu canllawiau 2017 Llywodraeth Cymru yn llawn ac mae'n destun pryder fod Betsi Cadwaladr wedi nodi nad oedd yn gwneud mwy na dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2008, dair blynedd cyn cyhoeddi'r cyfamod.
Roedd hyfforddiant ac ymwybyddiaeth staff o'r cyfamod yn amrywio'n fawr ar draws y byrddau iechyd, gydag ond ychydig o hyfforddiant ffurfiol ar ei ofynion yn digwydd. Roedd timau cofnodion meddygol yn Aneurin Bevan a Chaerdydd a'r Fro wedi cael hyfforddiant ar flaenoriaeth ac atgyfeiriadau cyflym, gyda Chaerdydd a'r Fro ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar becyn hyfforddiant ar gyfer gofal sylfaenol. Ac eto nid oedd Abertawe Bro Morgannwg wedi gwneud dim mwy na dosbarthu canllawiau protocol, ar lefel bwrdd yn unig yr oedd Powys wedi darparu hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth, ac nid oedd Hywel Dda na Betsi Cadwaladr wedi darparu unrhyw hyfforddiant ffurfiol. Er bod y cyfamod yn berthnasol i weithwyr byrddau iechyd lleol, roeddwn yn bryderus yn ddiweddar pan euthum gyda gweithiwr yn un o'r byrddau iechyd a oedd wedi cael diagnosis o anhwylder straen wedi trawma milwrol i gyfarfod gyda'i gyflogwyr, pan nododd y bwrdd iechyd mai eu dealltwriaeth hwy oedd nad oedd y cyfamod ond yn berthnasol iddo fel claf.
Siaradais yn lansiad Newid Cam yn 2013, sef gwasanaeth cymorth a mentora gan gyn-filwyr ar gyfer cyn-filwyr sy'n ceisio cymorth gyda iechyd meddwl, unigrwydd neu broblemau dibyniaeth, dan arweiniad yr elusen CAIS yng ngogledd Cymru. Mae Newid Cam bellach wedi helpu mwy na 1,700 o gyn-filwyr a'u teuluoedd ers ei lansio, ac eto mae ei ddibyniaeth ar arian sy'n rhaid gwneud cais amdano yn her hirdymor wrth geisio darparu gwasanaethau hanfodol. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicr o ddweud wrthym am y swm o arian a roddwyd i GIG Cymru i Gyn-filwyr, sy'n darparu asesiadau a thriniaeth seicolegol ar gyfer problemau iechyd meddwl gan gynnwys anhwylder straen wedi trawma i gyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru. Er gwaethaf hyn, mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn nodi na fyddant yn gallu parhau i leihau amseroedd aros ar gyfer triniaeth heb gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Maent wedi dweud wrthym eu bod yn lleihau rhestrau aros ar gyfer triniaeth drwy gyflogi tri therapydd amser llawn ar gyfer cyn-filwyr gydag arian gan yr elusen Help for Heroes, ac maent wedi cwblhau'r flwyddyn gyntaf o hynny, ond ym mis Medi 2020, bydd y swyddi hyn yn diflannu ac mae'r rhestrau aros yn debygol o gynyddu eto heb gynnydd yn y cymorth gan Lywodraeth Cymru. Wrth gwrs, heb y cynnydd hwnnw, byddai baich cost ychwanegol ar y gwasanaethau iechyd a gofal, ac felly byddai'n economi ffug. Mae Gig Cymru i Gyn-filwyr hefyd yn datgan bod astudiaethau ar raddfa fawr wedi'u cynnal yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar anghenion cyn-filwyr a chyn-bersonél y lluoedd arfog gan ymddiriedolaeth Forces in Mind, ac maent yn galw am astudiaeth debyg yng Nghymru i helpu i lywio polisi ac ymarfer.
Mae tai yn allweddol i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf wedi arwain y ffordd ar hyn yng Nghymru ac wedi sicrhau cyllid o gronfa'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer llety i gyn-filwyr er mwyn darparu cartrefi ledled Cymru. Mae menter Cartrefi ar gyfer Cyn-filwyr Cymru Alabaré yn darparu tai â chymorth ar gyfer cyn-filwyr sy'n ei chael hi'n anodd ymaddasu i'r byd sifil. Drwy weithio gyda'i gilydd, cyflawnodd Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf ac Alabaré brosiect hunanadeiladu uchelgeisiol ar gyfer cyn-filwyr yn Wrecsam, y drydedd drigfan yng ngogledd Cymru i gael ei rheoli gan Cartrefi Cymru ar gyfer Cyn-filwyr, ac aeth â darpariaeth yr elusen ar draws Cymru i 57 o leoedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi llwybr atgyfeirio ar gyfer tai i gyn-filwyr ac wedi diweddaru canllawiau. Fodd bynnag, nid yw darparu taflenni a chardiau cyngor yn lleddfu pryderon ynglŷn â sut y gall y swyddogion tai sy'n darparu cymorth angenrheidiol reoli achosion cymhleth yn ymwneud ag ailgartrefu cyn-filwyr. Felly mae angen i Lywodraeth Cymru integreiddio gwasanaethau tai, iechyd a gofal yn well, ynghyd â chymorth ar gyfer cynlluniau megis y rhai a ddarperir gan Dewis Cyntaf ac Alabaré, yn enwedig pan fo gostyngiad mawr wedi bod yn nifer yr aelwydydd cyn-filwyr y mae awdurdodau lleol wedi derbyn bod ganddynt angen blaenoriaethol am lety ers cyflwyno Deddf Tai (Cymru) 2014. Ni allaf gredu bod y ffigurau hynny'n adlewyrchiad o wir lefel yr angen.
Elusen sy'n darparu mannau diogel yw Woody's Lodge i alluogi cyn-filwyr y lluoedd arfog, rhai sydd wedi gadael yn ddiweddar, milwyr wrth gefn, a'r rhai a fu'n gwasanaethu yn y gwasanaethau brys, i gymdeithasu a chael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac i ryngweithio â phobl sydd wedi cael profiadau tebyg. Yn dilyn llwyddiant eu canolfan sefydledig gyntaf yn ne Cymru, maent bellach yn agor canolfan ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn ar gyfer cyn-filwyr ar draws gogledd Cymru. Ochr yn ochr ag Age Cymru a Chynghrair Henoed Cymru, mae Woody's Lodge yn bartner yn y prosiect 360°, a ariennir gan gronfa cyn-filwyr hŷn Canghellor y DU, i gefnogi cyn-filwyr hŷn ledled Cymru.
Cymeradwywyd yr adroddiad gan y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid y cyfeiriwyd ato'n gynharach, a chanfu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried penodi comisiynydd y lluoedd arfog ar gyfer Cymru er mwyn cynnal y cyfamod a gwella atebolrwydd sefydliadau sector cyhoeddus i ddarparu cyfamod y lluoedd arfog. Dywedodd y dylai fod yn ofynnol i'r comisiynydd gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydymffurfiaeth â'r cyfamod i'w osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Er bod hynny i'w groesawu, nid yw penodi swyddogion cyswllt y lluoedd arfog wedi'u hariannu gan y cyfamod ar draws awdurdodau lleol Cymru yn bodloni'r gofyniad hwn.
Wrth ymateb i mi ddoe, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet osgoi hyn drwy ddatgan yn lle hynny mai rôl y Cynulliad Cenedlaethol yw sicrhau atebolrwydd y Llywodraeth. A yw'n dweud felly nad oes angen comisiynwyr arnom mewn meysydd eraill, gan gynnwys plant, pobl hŷn a chenedlaethau'r dyfodol? Onid yw eu bodolaeth yn profi'r egwyddor fod gan gomisiynwyr ran allweddol i'w chwarae mewn gwirionedd? Gan mlynedd ar ôl llofnodi'r cytuniad a arweiniodd at ddod â'r rhyfel byd cyntaf i ben, mae'n rhaid i gyfamod y lluoedd arfog barhau. Diolch yn fawr.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Neil McEvoy i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn ei enw.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid ydym yn gadael milwyr ar ôl ar faes y gad ac ni ddylem eu gadael ar ôl pan fyddant yn dychwelyd adref. Mae fy ngwelliant heno yn un syml i sicrhau Deddf peidio â gadael yr un milwr ar ôl a fyddai'n gwarantu tai a gofal iechyd o ansawdd i gyn-filwyr sydd wedi gweld gwasanaeth gweithredol.
Mae llawer o filwyr yn gwasanaethu ac yn mynd drwy drawma. Caiff rhai eu hanafu ac yn anffodus, ni fydd rhai ohonynt yn dychwelyd. O'r rhai sy'n dychwelyd, beth sy'n eu hwynebu wedi iddynt ddod yn ôl? Diffyg gofal iechyd, diffyg darpariaeth iechyd meddwl a diffyg cartref. Maent yn cael problem fawr yn dod o hyd i dŷ. Mae gormod o lawer o gyn-filwyr yn byw ar y stryd. Mae gennym gyfamod ar gyfer y lluoedd arfog, ond nid wyf yn meddwl ei fod yn ddigon da. Yn wir, rwy'n gwybod nad yw'n ddigon da. Mae angen deddfwriaeth i flaenoriaethu'r rhai sydd wedi gweld gwasanaeth gweithredol. Dylai adnabod cyn-filwyr fod yn norm yn y GIG, a dywedir wrthyf nad yw hynny'n wir yn rhy aml o lawer. Dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gael hyfforddiant, a dylem fod yn edrych ar arferion gorau.
Mae'r cyn-filwr Gus Hales ar streic newyn i alw am well cymorth i gyn-filwyr, yn enwedig cyn-filwyr sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma. Dywedodd fod 56 o gyn-filwyr wedi cyflawni hunanladdiad y flwyddyn hon yn y DU. Mae wedi bod ar streic newyn ers 10 diwrnod, ac mae'n 62 mlwydd oed. Sut y gall y dyn hwn, sy'n byw yng Nghymru, fod wedi llithro drwy'r rhwyd? Sut y gallai ddigwydd?
Ar y ffôn yn gynharach, dywedodd Norman McGuigan, ymgyrchydd dros gyfiawnder i gyn-filwyr y lluoedd arfog, nad yw'r cyfamod yn gweithio. Mae'n bosibl ei fod ychydig yn well yng Nghymru nag yn Lloegr, ond nid yw hynny'n ddigon da mewn gwirionedd. Mae angen inni gyflwyno Deddf peidio â gadael yr un milwr ar ôl a fyddai'n gwarantu, pan ddaw gwasanaeth milwrol balch pobl i ben, eu bod yn cael y gefnogaeth a'r ddarpariaeth dai sydd ei hangen arnynt, ac yn bwysicach, y ddarpariaeth y maent yn ei haeddu. Gall Cymru arwain ar hyn, felly gadewch i ni ei wneud. Diolch.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon ar ein lluoedd arfog yn ystod yr wythnos bwysig hon o gofio cenedlaethol ac rwy'n codi i gefnogi gwelliant y Llywodraeth.
Hoffwn ddechrau ar nodyn personol. Gwn fod yr Aelod dros Orllewin Clwyd hefyd yn ffrind a chydweithiwr i Carl Sargeant. Flwyddyn wedi marw Carl, gwn fod ei ddiffuantrwydd a'i bresenoldeb yn byw o hyd i'r rhai ohonom yma heddiw a oedd yn malio amdano, ond mae hefyd yn parhau yn y mentrau a'r ddeddfwriaeth barhaus a ysgogodd ar ran Cymru gyfan, a chredaf y bydd yn parhau i flodeuo ar gyfer Cymru gyfan. Ar y mater hwn, rwyf am ddyfynnu'r Aelod dros Orllewin Clwyd a ddywedodd fod Carl yn allweddol yn y gwaith o sicrhau bod rhai o'r gwelliannau arwyddocaol wedi'u darparu, ac mewn gwirionedd, un o'r rhannau pwysicaf oedd cael cymunedau'r lluoedd arfog at ei gilydd, yn enwedig y sector gwirfoddol, sy'n aml yn y gorffennol wedi bod yn rhanedig ac yn gweithio mewn seilos. Helpodd Carl i sicrhau bod cynhadledd y lluoedd arfog yn cael ei chynnal bob blwyddyn i helpu i oresgyn y rhwystrau hynny. Ac mae Darren hefyd yn rhannu'r un ymrwymiad i'n lluoedd arfog ag y dangosai Carl mor angerddol bob amser. Ar ôl cael yr anrhydedd yn ddiweddar o ymuno â grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar y lluoedd arfog, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi, Darren, yn y maes pwysig hwn.
Felly, wrth i ni nodi canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad a diwedd y rhyfel byd cyntaf, mae'n iawn ein bod yn ymuno ag ymgyrch #ThankYou100 y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy'n cofio'r rhai a wasanaethodd, a aberthodd ac a newidiodd ein byd rhwng 1914 a 1918. Fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, mae'n anrhydedd i minnau hefyd ac rwy'n falch iawn o sefyll yma heddiw yn Siambr Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi diolch ar ran ein cymunedau a fy nghymunedau i yn Islwyn am yr arwriaeth a ddangoswyd gan ein brodyr a'n chwiorydd ganrif yn ôl. Byddwn yn eu cofio.
Er bod y cyfrifoldeb hwn dros y lluoedd arfog heb ei ddatganoli wrth gwrs, gwn fod y Llywodraeth Lafur hon yn hynod o falch o'r 385,000 o bobl sy'n aelodau o gymuned y lluoedd arfog ar draws Cymru, ac rydym wedi ymrwymo'n gadarn i egwyddorion cyfamod y lluoedd arfog. Fel y dywedais wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gynharach heddiw a ddoe, credaf ei bod hi'n bwysig inni barhau i gryfhau'r uned cyn-filwyr o fewn Llywodraeth Cymru a thyrchu ymhellach er mwyn asesu unrhyw fylchau posibl yn y ddarpariaeth o wasanaethau a fydd yn galw am sylw. Fe allwn ac fe fyddwn yn parhau gyda'r hyn a adawodd Carl ar ei ôl yn y lle hwn yn hyn o beth, ac rwy'n hyderus ac yn bendant mai dyma yw ewyllys wleidyddol a gweledigaeth glir Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod hyn yn flaenoriaeth.
Lywydd, i gloi, rwy'n gobeithio y bydd y Ceidwadwyr Cymreig, sydd wedi cyflwyno'r cynnig hwn, yn galw'n briodol hefyd ar arweinwyr Torïaidd y DU yn y Llywodraeth i gefnogi ein lluoedd arfog, oherwydd ym mis Gorffennaf, clywsom y bydd personél y lluoedd arfog yn derbyn codiad cyflog o 2 y cant. Mae hynny'n is nag argymhelliad corff adolygu cyflogau'r lluoedd arfog, ac mae'n gynnig cyflog sy'n is na chwyddiant. Yn yr hinsawdd ansefydlog sydd ohoni, nid yw'n syndod fod bron i 15,000 o bobl wedi gadael y lluoedd arfog dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig, er bod nifer y bobl sy'n ymuno â'r lluoedd arfog yn gostwng yn fawr.
Nid wyf yn credu bod hyn yn iawn, ac mewn cyfnod o ansicrwydd byd-eang cynyddol, bygythiad terfysgaeth a phryderon ynghylch diogelwch Brexit, gadewch inni gofio am bawb sydd wedi gwasanaethu, sy'n barod i wasanaethu ac a oedd yn barod i wneud yr aberth eithaf ar ran ein gwlad—yn barod i sicrhau ein bod yn parhau i anrhydeddu eu hymrwymiad, nid yn unig mewn gair a rhethreg, ond fel y gwnaeth Carl, drwy weithredu deddfwriaethol a chynlluniau, i sicrhau diogelwch pawb yn ein cymdeithas. Diolch.
Diolch am y cyfle i gofio'r rhyfel mawr. Yn 1916, roedd fy nhaid yn 21 mlwydd oed, newydd briodi, ac yn y Royal Welch Fusiliers yn y Somme ac yn Ypres. Roedd taid yn un o fechgyn Dolgellau a'r cylch efo'i gilydd yn y rhyfel mawr, a bechgyn Traws—Trawsfynydd—heb fod ymhell oddi wrthynt, ar faes y gad, a'r cyfathrebu yn Gymraeg ar gaeau dramor, a marwolaethau ffrindiau agos yn cael effaith ddwys arnynt i gyd yng nghanol y brwydro ac yn rhwygo calonnau mamau a gwragedd a chymunedau clos Cymraeg gwledig Cymru a'i magodd nhw, a rhwygo seiliau anghydffurfiaeth heddychlon Cymraeg ar yr un pryd. Bechgyn a oedd yn gwrthod y consgripsiwn ar sail ffydd yn cael eu herlid a'u dilorni, a'n capeli llawn ar y pryd yn llawn gwewyr hefyd. Gweision ffermydd Meirionnydd wedi cael mynd i ryfel, a meibion y meistri wedi cael aros adre. Ie, mae pobl yn cofio.
Un dydd, ar ganol brwydr, bu i gyfaill taid gael ei anafu yn ddifrifol, wedi ei saethu tra'n brwydro nesa i taid. Bu i taid ei godi a'i gario ar ei gefn a cheisio mynd â'i gyfaill i loches, ond bu i fwled arall y gelyn saethu ei gyfaill o Ddolgellau yn farw, tra'i fod ar gefn taid, a taid yn goroesi yn rhyfeddol. Ond wrth i'r brwydro barhau dros erwau gwaedlyd Fflandrys a Ffrainc, dioddefodd taid gael ei wenwyno gan y nwy gwenwynig, y mustard gas, a oedd yn cerdded y ffosydd yn niwl llosg, dieflig, angheuol—ie, rhaid cofio—a phydrodd ei draed wrth sefyll am fisoedd yn y ffosydd llawn dwr, gwaed a budreddi o bob math, yn wynebu’r gweddillion cnawd ar y weiren bigog bondigrybwyll.
Bu i taid oroesi yn wyrthiol, neu fuaswn i ddim yma, ond prin bu iddo siarad am ei brofiadau erchyll a'r holl ddioddefaint. Cofio mud oedd cofio taid, mor wahanol i ffawd Hedd Wyn, bardd y gadair ddu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhenbedw, 1917. Enillodd Hedd Wyn, y ffarmwr a'r bardd o Drawsfynydd, y gadair y flwyddyn honno, ond roedd wedi ei ladd ar Pilckem Ridge, brwydr Passchendaele, ar 31 Gorffennaf 1917—mis cyn yr Eisteddfod, ond wedi iddo fo ddanfon ei awdl Yr Arwr i mewn i'r Eisteddfod. Daeth dydd y cadeirio yn yr Eisteddfod Genedlaethol 1917—mis Medi—a David Lloyd George, Prif Weinidog Prydain, yn y gynulleidfa. Ond er galw'r bardd buddugol, arhosodd cadair yr Eisteddfod yn wag, a chwrlid du yn cael ei rhoi drosti, a'r dagrau yn llond y lle, wrth i bawb ddarganfod ffawd y bardd buddugol.
Ie, rydym ni'n cofio. Gwnaeth Hedd Wyn ymuno â'r fyddin er mwyn i'w frawd iau osgoi gorfodaeth filwrol—osgoi y conscription. Heddiw, mae cartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, Yr Ysgwrn, wedi'i adfer, yn sefyll fel yr oedd ym 1917, inni gofio aberth cenhedlaeth ifanc ddisglair ein gwlad. A Hedd Wyn, yn gadael toreth o farddoniaeth fendigedig ar ei ôl, yn cael ei ladd yn 30 mlwydd oed.
Clywch, i orffen, ei gerdd Rhyfel:
'Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng, / A Duw ar drai ar orwel pell; / O'i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng, / Yn codi ei awdurdod hell. / Pan deimlodd fyned ymaith Dduw / Cyfododd gledd i ladd ei frawd; / Mae sŵn yr ymladd ar ein clyw, / A'i gysgod ar fythynnod tlawd. / Mae'r hen delynau genid gynt / Ynghrog ar gangau'r helyg draw, / A gwaedd y bechgyn lond y gwynt, / A'u gwaed yn gymysg efo'r glaw.'
Cofiwn aberth cenhedlaeth taid.
Mae'n briodol ar yr adeg hon o'r flwyddyn inni gofio ac anrhydeddu'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog. Fodd bynnag, mae eleni'n arbennig o arwyddocaol, gan ei bod yn ganmlwyddiant diwedd y rhyfel byd cyntaf. Wrth gydnabod aberth y rhai a wasanaethodd yn y rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel, hoffwn sôn am y rhai y mae'n rhy hawdd anghofio eu cyfraniad.
Cyfeiriaf at deyrngarwch ac arwriaeth y rhai a ddaeth o'r hyn a elwid wedyn yn Gymanwlad. Daethant o filoedd o filltiroedd i ffwrdd i ymladd dros wlad nad oeddent erioed wedi ei gweld. Daeth pobl o tua 80 o wledydd sy'n rhan o'r Gymanwlad yn awr i ymladd yn y rhyfel byd cyntaf. Daeth llawer o Awstralia, Seland Newydd a Chanada, a daeth llawer mwy o India, Pacistan, Bangladesh, Affrica ac India'r Gorllewin. Daeth miliwn a hanner o wirfoddolwyr o India yn unig, India fel roedd hi cyn y rhaniad, a gwasanaethodd 150,000 o filwyr ar ffrynt y gorllewin yn unig. Enillodd milwyr o is-gyfandir India 13,000 o fedalau, gan gynnwys 12 croes Victoria. Gwasanaethodd 15,000 o filwyr o India'r Gorllewin, ac ennill 81 o fedalau am ddewrder. Ymladdodd 55,000 o ddynion o Affrica dros Brydain, gan ennill 1,066 o fedalau. Yn y dyddiau hyn o ragfarn a gwahaniaethu cynyddol ar sail hil, mae'n weddus inni roi amser i fyfyrio ar y ffeithiau hyn.
Mewn mynwentydd ar draws y byd ceir beddau pobl o bob hil a ffydd, neu bobl heb ffydd, a ymladdodd ochr yn ochr i amddiffyn y rhyddid y mae pob un ohonom yn ei fwynhau, ac fe wnaethant aberthu eu bywydau. Mae arnom ddyled fawr i bob un a fu'n gwasanaethu, ac mae'r ddyled honno'n parhau heddiw oherwydd, yn anffodus, honiad ffug oedd ei bod hi'n rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel. Gwta 21 mlynedd yn ddiweddarach, aeth y byd wysg ei ben i ail ryfel byd, a nifer o ryfeloedd eraill ers hynny: y Falklands, Kuwait, Irac ac Affganistan, i enwi rhai'n unig.
Mae llawer o gyn-filwyr heddiw yn gorfod byw gyda chyflyrau sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth. Awgryma ymchwil ddiweddar gan King's College Llundain y gallai rhyfeloedd yn Irac ac Affganistan fod wedi arwain at gynnydd yn y gyfradd o anhwylder straen wedi trawma ymhlith aelodau o'r lluoedd arfog fel y nododd fy nghyd-Aelod. Yn anffodus, mae o leiaf un aelod yn marw o'r broblem hon bob wythnos. Rhaid inni wneud rhywbeth, Weinidog, ac yn gynharach gofynnais i chi sôn rhywbeth am gyn-filwyr ac roedd eich ateb mor druenus fel fy mod yn dal i deimlo cywilydd ynglŷn â'r ateb a roesoch, gan na ddywedoch chi ddim o'u plaid.
Ac eto, mae cyn-filwyr yng Nghymru a'u teuluoedd wedi wynebu anghysonder o ran mynediad at ofal iechyd, gan ddibynnu ar y trydydd sector ac elusennau i ddarparu'r gwasanaethau arbenigol a'r gwasanaethau adsefydlu sydd eu hangen arnynt, er gwaethaf cyfamod y lluoedd arfog. Mae diffyg paratoi yn golygu bod cyn-filwyr yn wynebu rhwystrau sylweddol wrth ddychwelyd at fywyd sifil yng Nghymru. Nid yw darparu taflenni ar gyfer cyn-filwyr yn gwneud y tro yn lle'r cymorth arbenigol sydd ei angen arnynt i sicrhau mynediad at y ddarpariaeth dai. Mae'r un peth yn wir am fynediad at gyflogaeth. Mae gan lawer o gyn-filwyr sgiliau pwysig a allai fod yn ddefnyddiol i fusnesau yng Nghymru, ac eto dengys ymchwil gan fanc Barclays na fyddai hanner y cyflogwyr yn edrych yn ffafriol ar brofiad milwrol ar CV. Ni chafwyd unrhyw arwydd hyd yn hyn o lwybrau cyflogaeth Llywodraeth Cymru. Os ydym o ddifrif ynglŷn ag anrhydeddu'r ddyled sydd arnom i'n lluoedd arfog, rhaid inni sicrhau bod y cyfamod yn cael ei weithredu'n effeithiol ar bob lefel. Dyna pam y gofynnaf i'r Prif Weinidog newydd, pan ddaw i'w swydd, adolygu'r penderfyniad i wrthod penodi comisiynydd y lluoedd arfog.
Ddirprwy Lywydd, ysgrifennodd yr awdur Indiaidd, Raghu Karnad, y geiriau hyn,
Mae pobl yn marw ddwy waith: daw'r farwolaeth gyntaf ar ddiwedd eu hoes... a daw'r ail ar ddiwedd y cof am eu bywydau, pan fydd pawb sy'n eu cofio wedi mynd.
Rhaid inni sicrhau bod ein lluoedd arfog, yn awr ac yn y dyfodol, yn parhau i gael eu cofio a'u gwerthfawrogi am byth yng Nghymru. Diolch.
Nid wyf yn credu y gallaf gymharu mewn unrhyw ffordd â myfyrdodau ingol Dai Lloyd ar y rhyfel byd cyntaf, ond rhaid inni atgoffa ein hunain nad yw ein lluoedd arfog yn mynd i ryfel o'u gwirfodd eu hunain; maent yn mynd fel arfer am fod gwleidyddion wedi methu. Ond personél ein lluoedd arfog sy'n talu'r pris am y methiant hwnnw. Cofir am ddynion a menywod o'n dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi bob blwyddyn drwy inni ddod at ein gilydd yn y dinasoedd, y trefi a'r pentrefi hynny, nid i ddathlu, ond i dalu gwrogaeth am yr aberth a wnaeth aelodau'r holl luoedd arfog ar ein rhan. Yn UKIP rydym yn rhoi gwerth mawr ar yr aberth hwnnw, nid yn unig gan y rhai a fu farw yn y rhyfel erchyll rydym bellach yn nodi canmlwyddiant ei ddiwedd, rhyfel a elwir gennym yn rhyfel mawr, ond hefyd y rhai a fu farw yn yr ail ryfel mawr yn yr ugeinfed ganrif ac yn wir, pob rhyfel y bu ein lluoedd arfog yn rhan ohono ers diwedd yr ail ryfel byd. Ar ran UKIP, hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y sefydliadau elusennol, yn enwedig y Lleng Brydeinig Frenhinol, i sicrhau bod y rhai sydd wedi dioddef wrth wasanaethu yn cael gofal yn y ffordd orau sy'n bosibl.
Rydym yn cydnabod ac yn croesawu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ei chefnogaeth i'r grŵp arbenigol ar anghenion cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru a'u dull o sicrhau bod cyfamod y lluoedd arfog yn cael ei gynnal, a hefyd y nifer o ymyriadau y maent wedi'u cychwyn er mwyn cefnogi'r nod hwn. Fodd bynnag, efallai y caf leisio un nodyn o anghytgord drwy ddweud fy mod yn deall mai'r tro diwethaf i'r grŵp arbenigol gyfarfod oedd ar 7 Chwefror 2018, a chyn hynny ar 5 Gorffennaf 2017, saith mis cyfan rhwng cyfarfodydd. Os yw hyn yn wir, nid yw'n fwlch derbyniol o amser i offeryn mor bwysig ar gyfer darparu'r ymyriadau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru.
Rydym yn cefnogi'r alwad am gomisiynydd y lluoedd arfog. Gwelwn ef fel rhywun a fyddai â rôl yn cydlynu a dod â holl rannau gwahanol y systemau cymorth sydd ar gael at ei gilydd er mwyn ein cyn-filwyr, a rhywun a fyddai'n gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio yn y ffordd fwyaf effeithiol. Os oes gennym gomisiynydd plant, comisiynydd pobl hŷn a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, pam na chawn ni un ar gyfer y lluoedd arfog? Rydym hefyd yn cefnogi galwad Neil McEvoy am Ddeddf peidio â gadael yr un milwr ar ôl. Gadewch i ni roi rhwymedigaeth gyfreithiol i ddyletswydd gofal y Llywodraeth i bersonél ein lluoedd arfog.
Mae ein lluoedd arfog yn enwog am fod y gorau yn y byd, ac felly mae'n hanfodol fod gennym rywun ar y brig i sicrhau bod y gorau'n cael y gorau o ran y gofal a'r driniaeth a gânt pan fyddant yn gadael y lluoedd arfog, ac yn wir, tra'u bod yn gwasanaethu yn unrhyw un o'r lluoedd arfog.
Gadewch inni fod yn falch o'r ffaith mai 5 y cant yn unig o boblogaeth y DU sy'n byw yng Nghymru ond mae'n darparu 8 y cant o luoedd arfog Ei Mawrhydi. Felly mae'n briodol fod Cymru ar y blaen yn sicrhau bod ein cyn-filwyr yn cael eu trin â'r parch a'r anrhydedd y maent yn eu haeddu. Nid cysgu ar ein strydoedd neu broblemau meddyliol yn gysylltiedig â'u hamser yn ymladd na roddwyd diagnosis na thriniaeth ar eu cyfer yw'r hyn y dylent ei ddisgwyl. Rhaid inni wneud popeth a allwn i gefnogi dioddefwyr o'r fath a diddymu'r sefyllfaoedd enbyd sy'n eu gorfodi i fyw ar ein strydoedd.
Mae'n galonogol iawn, mewn gwirionedd, i fod yn Aelod Cynulliad ac i sefyll yma heno yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ochr yn ochr ag Aelodau ar draws yr holl raniadau gwleidyddol yma yn y Siambr, wrth i bawb ohonom dalu teyrnged anrhydeddus i'r rhai sydd wedi mynd o'n blaenau a'r rhai sy'n parhau i weithio ar ein rhan ni a'n gwlad, er mwyn sicrhau bod gennym y rhyddid sydd gennym.
Ac wrth inni gofio canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad, i mi, roeddwn yn falch dros ben—ac roedd hi'n gymaint o fraint ac anrhydedd—o gael fy ngwahodd, fel yr Aelod Cynulliad dros Aberconwy, i Ddiwrnod y Lluoedd Arfog yn Llandudno, gyda fy nghyd-Aelod Darren Millar AC. A chredaf y byddai Darren yn cytuno ei fod yn ddigwyddiad anhygoel gyda thros 1,000 o bersonél sy'n gwasanaethu a chyn-filwyr yn cymryd rhan. Roedd yn ddiwrnod o ddathlu'r gwaith gwych a wneir gan ein lluoedd arfog ledled y DU, a'n Lleng Brydeinig Frenhinol, a thramor. Ac roedd yn anrhydedd cael cyfarfod â chymaint o bobl ysbrydoledig sydd wedi rhoi eu bywydau i wasanaethu ac i amddiffyn eu gwlad heb ofn o gwbl. Ac rydym yn cofio'r rheini sydd wedi talu pris eithaf i ddiogelu'r rhyddid a'r gwerthoedd a goleddwn i'r fath raddau ac sy'n caniatáu i mi, yma heddiw, gael rhyddid i lefaru.
Er hynny, ni ddylem byth anghofio'r digwyddiadau ofnadwy 100 mlynedd yn ôl ac mewn rhyfeloedd niferus wedyn. Felly, rwy'n ymuno â chyd-Aelodau i groesawu ymgyrch #ThankYou100 y Lleng Brydeinig Frenhinol. Mae ein lluoedd arfog, yn y gorffennol a'r presennol, wedi cyfrannu cymaint at ein gwlad ac maent yn haeddu ein diolch mwyaf.
Mae'n galonogol felly fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau yn 2017 ar sut y gall awdurdodau lleol gynnal cyfamod y lluoedd arfog. Mae'r cyfamod yn ffordd bwysig iawn o gydnabod yr aberth a wnaed gan ein lluoedd arfog a'u teuluoedd, ac yn ceisio eu helpu, gobeithio, i ymgyfarwyddo â bywyd sifil wedyn. Rhwymedigaeth sylfaenol yn hyn yw sicrhau bod y gwasanaethau iechyd yn deall ac yn ymateb i ystyriaethau iechyd penodol cyn-filwyr, y rhai sy'n cael eu hanafu mewn rhyfel, a'r rhai sydd bellach angen triniaeth fawr ei hangen. Maent angen y llwybrau triniaeth penodol ac mae'n ofynnol, yn dechnegol, i glinigwyr eu dilyn. Ac eto, gall y gefnogaeth a'r driniaeth a gaiff yr unigolion hyn fod yn llai na chyson ledled Cymru. Mewn cais rhyddid gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n cynnwys fy etholaeth fy hun, ei fod yn dilyn canllawiau a gyhoeddwyd yn 2008 gan Lywodraeth Cymru ac nid canllawiau cyfredol 2017. Felly, gydag Ysgrifennydd y Cabinet yma'n bresennol, hoffwn ofyn iddo edrych ar hynny. Gwaethygir y mater wrth glywed nad yw bwrdd Betsi Cadwaladr wedi darparu unrhyw hyfforddiant ffurfiol i staff ynglŷn â'i rwymedigaethau ei hun, ac nid yw'n ei gwneud yn ofynnol i gyn-filwyr ddweud mai dyna ydynt pan fyddant yn derbyn triniaeth. Mor wych fyddai hi pe bai rhyw gyfeiriad teithio lle gallent barhau i dderbyn cymorth. A gwelaf Ysgrifennydd y Cabinet yn ysgwyd ei ben. Rhag eich cywilydd.
Mae cyn-filwyr yn cael cam oherwydd diffyg cydnabyddiaeth ehangach i'r egwyddorion hyn. Mae'n fwyfwy anodd mesur sut y caiff cyfamod y lluoedd arfog ei gyflawni gan nad yw Llywodraeth Cymru yn casglu digon o ddata i allu craffu'n briodol ar hyn.
Mae'n hynod siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y syniad o greu comisiynydd y lluoedd arfog ar gyfer Cymru yn gynharach eleni ar sail y gost. A chredaf mai dyma'r seithfed tro i mi siarad ers cael fy ethol yn AC, a gwn fod Darren Millar a'r Ceidwadwyr Cymreig cyn i mi ddod yma wedi bod eisiau comisiynydd. Ni allaf weld pam ei fod yn cael ei wrthod ar sail y gost. Beth yw cost un bywyd? Yn sicr dylai lles personél ein lluoedd arfog ddod o flaen ystyriaethau ariannol. Mae'r gwasanaeth y maent wedi ei roi, ac yn parhau i'w roi, i'w gwlad yn haeddu cydnabyddiaeth. Byddai sefydlu comisiynydd yn helpu i sicrhau bod egwyddorion y cyfamod yn cael eu sefydlu'n gadarn yng Nghymru, gan ganolbwyntio ymdrechion ar ddarparu cymorth i bersonél a chyn-filwyr. Byddai'n helpu'n arbennig i lunio cynllun cenedlaethol mwy cydlynol ar gyfer darparu mwy o fynediad at wasanaethau iechyd wedi'u teilwra sy'n diwallu anghenion yr unigolion hyn. Mae angen inni wneud iawn am yr anfanteision a wynebir gan ein personél milwrol sy'n gwasanaethu a chyn-filwyr; maent yn haeddu gwell. Rwy'n annog pob Aelod o'r Siambr hon i gefnogi'r cynnig hwn ac i sicrhau bod ein lluoedd arfog yn cael y cymorth gorau posibl. Mae angen ein cymorth arnynt, mae angen ein help arnynt, a'n dyletswydd yw darparu hynny.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r grŵp Ceidwadol am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw? Rwyf am ddechrau gydag ychydig o eiriau byr yn egluro sut y bydd grŵp Plaid Cymru yn pleidleisio yn y ddadl hon. Byddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth, nid oherwydd ein bod yn credu bod popeth y gellid ei wneud yn cael ei wneud, gwnaeth Mark Isherwood achos effeithiol iawn a ddangosai nad dyna fel y mae, ond nid ydym yn argyhoeddedig ar hyn o bryd mai comisiynydd yw'r ateb, er y byddem yn agored i gael ein hargyhoeddi yn y dyfodol.
Yn yr un modd, gyda gwelliant 2, byddwn yn ymatal ar yr achlysur hwn, er ein bod yn sylweddoli cymaint o deimlad sydd y tu ôl iddo. Nid ydym yn gwbl argyhoeddedig eto mai deddfwriaeth yw'r ffordd ymlaen, ond mae'n bosibl y daw'n angenrheidiol, ac yn bersonol, buasai gennyf ddiddordeb mawr mewn archwilio sut y gallai deddfwriaeth o'r fath weithio a sut y gellid gwneud iddi sicrhau bod y cyfamod yn cael ei gyflawni'n effeithiol ac y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cosbi os ydynt yn methu gwneud hynny.
Ddirprwy Lywydd, nid yw bob amser yn iawn defnyddio profiad personol pan fyddwn yn siarad yn y Siambr hon, ond teimlaf yr hoffwn wneud hynny heddiw. Hoffwn dalu teyrnged i fy nhad, John Mervyn Jones, a aned yn 1910 yng Nghwm Aman, Aberdâr. Ymunodd â'r Llynges Frenhinol Wrth Gefn yn 1938, nid oherwydd ei fod yn ifanc ac yn ddiniwed, roedd yn athro 28 mlwydd oed, nid oherwydd ei fod yn chwilio am antur neu'n awchu i ymladd, ef oedd un o'r dynion mwyaf addfwyn rwyf wedi'u hadnabod erioed ac roedd wedi gweld ei ewythr yn dod yn ôl wedi torri o'r rhyfel byd cyntaf; nid ymladd fyddai fy nhad wedi bod eisiau ei wneud. Ni wnaeth ymuno oherwydd gwladgarwch hyd yn oed, ond roedd wedi gweld twf ffasgiaeth yn Ewrop, ac roedd yn argyhoeddedig mai'r unig ffordd o drechu ffasgiaeth oedd drwy ymladd.
Gwasanaethodd drwy gydol y rhyfel ac fel llawer, ni siaradai lawer iawn am ei brofiadau. Fel plant, byddem yn clywed y straeon doniol. Fy ffefryn personol oedd fy nhad yn disgrifio cael pasta am y tro cyntaf yn yr Eidal ac yntau heb unrhyw syniad o gwbl beth ydoedd na beth ddylai ei wneud ag ef. Yn anffodus, yn enwedig i fy mam druan, gwnaeth iddo ymwrthod ag unrhyw beth yr ystyriai ei fod yn fwyd tramor ar hyd ei oes—cig yno, llysiau yno, ac na foed i'r ddau byth ddod at ei gilydd.
Lawer yn ddiweddarach, siaradai â mi yn arbennig, ac yn enwedig pan allai ddisgrifio'r profiadau hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, am y profiadau tywyllach a wynebodd yn y rhyfel. Ond aeth ymlaen i gael teulu a gyrfa lwyddiannus, ac roedd yn ffodus ac yn ystyried ei hun yn lwcus. Yn fwy ffodus, wrth gwrs, na llawer o gyn-filwyr heddiw y gofynnir iddynt beryglu eu bywydau a cholli eu hiechyd mewn rhyfeloedd y mae llawer o bobl gartref yn eu gwrthwynebu.
Ar ddiwedd ei oes, arswydai fy nhad wrth dystio i'r aberth roedd gofyn i'n lluoedd arfog eu gwneud yn yr hyn a oedd yn ei farn ef yn rhyfel anghyfiawn ac anghyfreithlon yn Irac. Ar ôl ymladd ei hun, gwyddai beth oedd gofyn iddynt ei wneud. Byddai wedi ffieiddio, fel llawer o gyn-filwyr y lluoedd arfog rwy'n tybio, wrth weld bod disgwyl i bersonél eithriadol ein lluoedd arfog yma yng Nghymru heddiw hyfforddi peilotiaid Saudi i fomio sifiliaid diniwed yn Yemen. Nid dros hynny y brwydrodd.
Roedd yn gas ganddo ryfel, ond roedd bob amser yn credu iddo wneud y peth iawn a'r unig beth, a daeth adref i wlad ddiolchgar. Credai ei fod wedi amddiffyn democratiaeth, roedd yn falch o fod wedi gwneud hynny, ac roedd y genedl yn falch ohono. Mae'n llawer anos yn emosiynol i lawer o gyn-filwyr heddiw, gofynnwyd iddynt wasanaethu mewn rhyfeloedd dadleuol mewn amgylchiadau anodd iawn a chyda chanlyniadau aneglur. Eto i gyd, maent yn gwneud hynny.
Wrth i ni gofio'r rhai a wasanaethodd yn y gorffennol, rwy'n credu'n angerddol fod rhaid inni sicrhau ein bod yn cefnogi cyn-filwyr heddiw, yn enwedig y rhai sy'n dioddef trawma a phroblemau iechyd meddwl, ar ôl yr hyn y mae Llywodraethau olynol y DU wedi eu hanfon i'w wneud. Rhaid inni anrhydeddu'r cyfamod. Beth bynnag yw ein barn am y rhyfeloedd y gofynnwyd i'r dynion a'r menywod hynny wasanaethu ynddynt, fe wnaethant wasanaethu, a dylem roi ein diolch iddynt, a'u parchu a'u cefnogi.
Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae'n bleser gennyf fod yn rhan o'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog, a hoffwn ddiolch i Darren Millar am yr ymrwymiad y mae'n ei ddangos wrth ei arwain. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i Carl Sargeant, a weithiodd yn ddiflino yn y maes hwn a chyflawni llawer.
Ddydd Sul, byddwn yn ymgasglu wrth gofebion rhyfel ledled y wlad i nodi Diwrnod y Cadoediad, y diwrnod y tawelodd y gynnau yn ystod y rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel. Gan mlynedd yn ôl ar yr unfed awr ar ddeg o unfed dydd ar ddeg yr unfed mis ar ddeg, daeth yr arllwys gwaed i ben, pum mlynedd o ryfel a welodd filiynau o fywydau'n cael eu colli yn y 'rhyfel mawr' fel y'i gelwir. Ond yn anffodus, nid hwn oedd y rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel ac yn y 100 mlynedd wedyn, mae'r byd wedi gweld rhyfeloedd dirifedi heb ddiwedd ar yr arllwys gwaed. Mae'n ffaith drist fod rhyfel yn anochel weithiau. Rhaid inni wneud safiad yn erbyn cyfundrefnau ac unbeniaid gormesol sy'n benderfynol o ladd eu pobl eu hunain hyd yn oed.
Ar hyn o bryd mae 60 gwrthdaro arfog yn mynd rhagddynt ledled y byd ac oherwydd hyn, rydym yn gweld Rwsia fwyfwy eofn yn benderfynol o adfer ei ffiniau i'r hyn roeddent yn y cyfnod Sofietaidd. Oherwydd hyn, mae angen ein lluoedd arfog arnom yn fwy nag erioed. Mae arnom angen ein dynion a'n menywod ifanc mewn iwnifform sy'n barod i wneud yr aberth eithaf, i roi eu bywydau er mwyn amddiffyn ein rhyddid. Er mwyn anrhydeddu'r rhai a wnaeth yr aberth hwnnw ac i ddiolch i'r rhai sydd, ac a oedd yn barod i wneud yr aberth hwnnw, byddwn yn dod at ein gilydd ar yr unfed awr ar ddeg o unfed dydd ar ddeg yr unfed mis ar ddeg a byddwn yn eu cofio.
Ond fel Aelodau etholedig, mae gennym ddyletswydd i wneud cymaint yn fwy nag anrhydeddu ein harwyr marw. Rhaid inni sicrhau bod ein harwyr byw yn cael gofal da. Mae gormod o lawer o gyn-filwyr yn cael cam gan y wladwriaeth, mae llawer gormod yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma, a gormod o lawer yn y carchar am na chawsant eu helpu i ymaddasu i fywyd sifil, a gormod o lawer yn cysgu ar y stryd am nad oes ganddynt do addas dros eu pennau. Dynion a menywod sydd wedi brwydro drosom, sy'n barod i farw drosom, wedi'u hanghofio.
Mae cyfamod y lluoedd arfog i fod i sicrhau nad yw hyn yn digwydd, a dyna pam rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi penodi swyddogion cyswllt y lluoedd arfog ledled Cymru. Fel y Ceidwadwyr, rwyf am sicrhau bod y cyfamod yn cael ei gynnal, ond nid wyf yn gwybod ai comisiynydd y lluoedd arfog yw'r ffordd iawn o wneud hynny. Credaf hefyd nad yw'r cyfamod yn mynd yn ddigon pell a byddaf yn cefnogi gwelliant Neil McEvoy yn galw am Ddeddf i warantu tai a gofal iechyd o ansawdd ar gyfer cyn-filwyr sydd wedi gweld gwasanaeth gweithredol. Sut y gallwn ganiatáu i rywun a beryglodd eu bywyd drosom wrth amddiffyn ein gwlad a'n rhyddid gysgu mewn bin sbwriel y tu ôl i siopau neu i ail-fyw erchyllterau a thrawma'r rheng flaen drachefn a thrachefn? Dylid rhoi'r driniaeth orau sydd ar gael a chartref iddynt fel mesur bach iawn o ad-daliad am y ddyled enfawr sydd arnom iddynt.
Roedd hi'n anrhydedd ychydig wythnosau yn ôl ym Mhort Talbot: roedd ein maer lleol yn anrhydeddu cyfamod y lluoedd arfog, ac roedd hi'n wych cael sefyll ochr yn ochr â Blesma, yr elusen ar gyfer cyn-filwyr rhyfel sydd wedi colli breichiau neu goesau, a chasglu a gweld haelioni pobl Port Talbot wrth i'r bwced fynd yn drymach ac yn drymach. Pa ffordd well o nodi Sul y Cofio, a chanmlwyddiant diwedd y rhyfel mawr nag ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth i wella bywydau ein cyn-filwyr? Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig a'r ddau welliant. Diolch.
A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Fel eraill yn y ddadl hon, hoffwn ddechrau fy sylwadau drwy roi teyrnged i waith fy ffrind a fy rhagflaenydd, Carl Sargeant. Rwy'n credu bod heddiw wedi bod yn ddiwrnod anodd i lawer ohonom, ac mae ein meddyliau gyda Bernie, Jack a Lucy a'r teulu. Ac wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonom yn meddwl am y gwaith a wnaeth Carl a gobeithio hefyd y bydd pawb ohonom yn gallu uno gyda'n gilydd a chofio rhywun a oedd yn ffrind ac yn was da i bobl y wlad hon.
Ddoe, ceisiais amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi cymuned y lluoedd arfog. Hoffwn groesawu'n gynnes iawn y sylwadau a wnaed gan Mark Isherwood wrth agor y ddadl y prynhawn yma. Roeddwn yn teimlo iddo wneud rhai sylwadau rhagorol, ac roeddwn yn meddwl ei fod yn gyfraniad meddylgar a gwerthfawr i'r ddadl hon. Byddaf yn ceisio ateb y rhan fwyaf o'r pwyntiau a wnaed yn y ddadl yn ystod yr ateb hwn, ond rwy'n cydnabod na fyddaf yn gallu ymateb i'r holl bwyntiau a wnaed. Felly, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddweud y byddaf yn ysgrifennu at Mark gyda chopi i'r holl Aelodau yn ymateb yn llawnach i'r pwyntiau a godwyd yn y cyfraniad agoriadol, oherwydd rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ni ymateb yn llawn i'r pwyntiau a wnaed ganddo.
O ran ein hymagwedd at hyn, a gaf fi ddweud fy mod wedi mwynhau gwrando ar yr areithiau yn y ddadl a gawsom y prynhawn yma? Roedd hi'n dda clywed geiriau Hedd Wyn yn cael eu llefaru y prynhawn yma, ac roeddwn yn credu bod Dai Lloyd a Helen Mary Jones wedi gallu gweu straeon teuluol pawb ohonom, ein straeon personol, i mewn i'n stori genedlaethol. Credaf ei bod hi'n bwysig cydnabod wrth inni sôn am y colledion y mae'r wlad hon wedi'u dioddef yn gwarchod ein rhyddid, ein cymdeithas, ein cymunedau a'n democratiaeth, mai dyma'r bobl—maent yn dadau a mamau, yn wragedd a gwŷr, yn frodyr, chwiorydd, meibion a merched—ac mae pawb ohonom yn adnabod pobl sydd wedi dioddef o ganlyniad i wrthdaro.
Mae'n sobreiddiol iawn meddwl, pan fo Caroline Jones yn siarad am y gynnau'n tawelu ar yr unfed awr ar ddeg o'r unfed dydd ar ddeg, fod dros 800 o filwyr o Brydain a'r Gymanwlad wedi cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw. Byddai meddwl am y fath laddfa ar unrhyw ddiwrnod heddiw yn golled na ellid ei dychmygu, ond mae meddwl amdano'n digwydd ar y diwrnod pan wnaethom groesawu diwedd y rhyfel a dyfodiad heddwch yn dangos effaith wirioneddol y rhyfel ar gymunedau ar hyd a lled y wlad.
Mae'n bwysig cydnabod y pwyntiau a wnaeth Mohammad Asghar yn ei gyfraniad hefyd, pan siaradodd am y milwyr a ymladdodd yn y rhyfel hwnnw, a'r ffaith y byddai'r ffiwsilwyr, y byddai taid Dai Lloyd wedi ymladd ochr yn ochr â hwy mae'n debyg, wedi ymladd gyda, ac ochr yn ochr â milwyr o India, a byddent wedi ymladd ochr yn ochr â rhai a oedd yn addoli duwiau gwahanol—byddent wedi ymladd ochr yn ochr â milwyr Mwslimaidd a Hindŵaidd hefyd, milwyr rydym yn eu hadnabod yn ein hanes ein hunain. Mae'n bwysig ein bod, bob un ohonom, a rhai ohonom yn y Siambr hon, yn y dadleuon a gawn heddiw, a'r dadleuon gwleidyddol a gawn, yn cydnabod bod yr aberth a welwyd yn y rhyfel byd cyntaf yn aberth a wnaed gan bobl o bob gwlad, gan bobl o gefndiroedd diwylliannol a chrefyddol gwahanol iawn. Pan ddefnyddiwn iaith lac heddiw, dylem bob amser gydnabod bod canlyniad rhagfarn, canlyniad gwahaniaethu, yn rhy aml i'w weld ar faes y gad. Ac rwy'n gobeithio y bydd llawer o bobl yn myfyrio ynglŷn â'r iaith a ddefnyddiant mewn gwleidyddiaeth heddiw wrth gofio aberth pobl eraill dros y blynyddoedd.
Rydym wedi treulio pedair blynedd yn edrych yn ôl dros y rhyfel byd cyntaf, a bydd canmlwyddiant y cadoediad ddydd Sul yn gyfle i ni, nid yn unig fel Llywodraeth, ond fel Cynulliad Cenedlaethol, fel Senedd genedlaethol y wlad hon, i ymuno â gwledydd eraill, nid yn unig yn y DU ond mewn mannau eraill, i nodi'r canmlwyddiant. Byddwn yn cael gwasanaeth cenedlaethol o ddiolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i allu coffáu'r holl rai a gollwyd, a anafwyd ac yr effeithiwyd arnynt gan y rhyfel hwnnw. Ond rwy'n gobeithio y byddwn oll yn ymuno â'r holl wledydd a gymerodd ran yn y gwrthdaro i gofio aberth pob gwlad, a'r holl bobl a gollwyd yn y rhyfel hwnnw. Gwn y bydd yr Aelodau hefyd yn manteisio ar y cyfle i fynychu digwyddiadau a gynhelir yn eu hetholaethau eu hunain, ar draws y wlad, i nodi'r adeg bwysig hon mewn hanes. Mae'n iawn ac yn briodol i bob un ohonom ymuno gyda'n gilydd i gofio aberth y lluoedd arfog o bob un o'n cymunedau yn y ffordd hon.
Credaf ei bod hi'n iawn ac yn briodol hefyd i ni ganmol gwaith Cymru'n Cofio a ddarparodd raglen gynhwysfawr i goffáu canmlwyddiant y rhyfel hwnnw, y rhyfel byd cyntaf. Bydd y cyllid yn parhau tan 2020 gan ganiatáu inni sicrhau hefyd ein bod yn gallu dysgu gwersi o'r rhyfel hwnnw. Rydym yn cofio mai cadoediad a gafwyd ym mis Tachwedd 1918, nid heddwch. Ac fe ddaeth heddwch, a chafodd yr heddwch ei greu gan arweinwyr gwledydd, gan gynnwys, wrth gwrs, ein David Lloyd George ein hunain lawer yn ddiweddarach, ac mae'n iawn ac yn briodol inni fyfyrio ar ganlyniadau rhyfel a chanlyniadau heddwch. Rwy'n gobeithio mai gwaddol barhaus Cymru'n Cofio fydd i bobl ar hyd a lled y wlad hon gofio nid yn unig digwyddiadau'r rhyfel byd cyntaf, ond canlyniadau'r digwyddiadau i'n gwlad a'r canlyniadau i gymunedau a theuluoedd.
Ddirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth yn cytuno ag ail bwynt y cynnig, a byddwn yn cefnogi llawer o'r hyn a ddywedwyd yn y ddadl ac yn y cynnig heddiw. Fel llawer o rai eraill, rwyf wedi gweld y silwetau tawel yn ymgyrch y Lleng Brydeinig Frenhinol #ThankYou100. Maent wedu'u lleoli ledled ein cymunedau, ac mae'r ffigurau hyn yn rhoi cyfle i ni fel gwlad ddweud 'diolch' wrth bawb sydd wedi gwasanaethu, aberthu a newid ein byd. Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi'r ymgyrch bwysig hon, ac mae'n ein hatgoffa, rwy'n credu, nad enwau ar gofebau'n unig yw'r rhain, fod y rhain yn bobl, ac roedd y rhain yn bobl a safodd ac a fu'n byw ac a fu farw, a fu'n gweithio ac yn caru yn ein cymunedau, ac maent yn bobl a fu farw'n amddiffyn ein cymunedau. Dyma bobl y gall pawb ohonom eu hadnabod yn ein cof, ond weithiau rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod eu lle yn ein trefi a'n pentrefi ar draws Cymru.
Byddwn yn parhau â'n pecyn cymorth i anrhydeddu cyfraniad yr holl rai a fu'n gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog, a byddwn yn ceisio parhau i sicrhau na fydd unrhyw aelodau dan anfantais o ran cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i'w gwasanaeth yn y lluoedd arfog. Yr wythnos hon rwyf eisoes wedi trafod y cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu fel rhan o'n gwaith ar gyflawni'r cyfamod. Nid wyf yn dymuno ailadrodd y pwyntiau hynny heddiw, ond rwyf am ddweud gair am y grŵp arbenigol. Roedd Mark Isherwood yn llygad ei le pan ddywedodd fod yn rhaid cael atebolrwydd cyhoeddus am y gweithredoedd y mae'r Llywodraeth hon yn eu cyflawni ar y cyfamod. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Rwy'n gobeithio bod y grŵp arbenigol yn ein galluogi i wneud hynny, i ddeall sut y byddwn yn cyflawni'r cyfamod, ac i ddeall lle nad ydym yn gwneud hynny, ac i ddeall sut y mae'n rhaid inni ddarparu mewn ffordd wahanol neu ffordd well mewn rhai mannau, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Byddwn yn cynhyrchu adroddiad blynyddol a fydd yn galluogi'r lle hwn i'n dwyn i gyfrif am yr hyn a wnawn a'r addewidion a wnawn. Gobeithiaf y bydd modd inni ystyried hefyd sut y gall ein democratiaeth yma yng Nghymru ein helpu i fy nwyn i ac eraill i gyfrif am yr hyn a ddywedwn, am yr ymrwymiadau a wnawn. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gwneud hynny gyda'r grŵp arbenigol a hefyd gyda'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog.
Ddirprwy Lywydd, wrth ddod â fy sylwadau i ben heddiw, gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn ymuno â mi i ddiolch i bawb sydd wedi gwasanaethu a phawb sy'n parhau i wasanaethu, a byddwn yn ymuno gyda'n gilydd fel gwlad y penwythnos hwn i gydnabod aberth enfawr y rhai na chafodd gyfle i ddod adref.
Diolch. Galwaf yn awr ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb cadarnhaol i'r ddadl y prynhawn yma ac yn wir, i'r holl siaradwyr am eu cyfraniadau teimladwy iawn? Hoffwn dalu teyrnged i Ysgrifennydd y Cabinet am y gwaith y mae wedi'i wneud yn parhau gwaith llawer o'i ragflaenwyr, wrth gwrs, gan gynnwys Carl Sargeant, y nodwn flwyddyn ers ei farwolaeth heddiw. Yn wir roedd Carl yn ffrind mawr. Roedd yn ffrind i ni, ac wrth gwrs, roedd yn ffrind i'r lluoedd arfog ac i gymuned y cyn-filwyr yma yng Nghymru ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith a wnaeth yn ystod ei gyfnod fel y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am y lluoedd arfog a'r ffordd y byddai'n ymwneud â gwaith y grŵp trawsbleidiol y mae'n bleser gennyf allu ei rannu.
I gyffwrdd ar rai o'r straeon personol—mae gennyf fy stori bersonol fy hun hefyd, wrth gwrs, heddiw, ar y diwrnod teimladwy hwn. Ymladdodd fy hen daid yn y rhyfel byd cyntaf. Roedd yn Wyddel, o Ddulyn. Cofrestrodd pan oedd yn 14 oed—dywedodd gelwydd am ei oed. Mae gennyf gopi o docyn cofrestru y Preifat ifanc, John Collins. Aeth i ymladd ar ffrynt y gorllewin, a diolch i Dduw, fe ddychwelodd.
Ymladdodd 200,000 o Wyddelod ym mrwydrau'r rhyfel byd cyntaf, a bu farw 35,000 ohonynt, a dyna pam rwy'n gwisgo pabi meillionen heddiw, er mwyn nodi eu cyfraniad hwy i'r rhyfel. Oherwydd mae Ysgrifennydd y Cabinet a Mohammad Asghar yn hollol iawn: ymladdodd y Gymanwlad gyfan yn y brwydrau hyn. Roedd dynion Prydeinig ac aelodau o'r lluoedd arfog o bob cwr o'r Gymanwlad yn ymladd ochr yn ochr yn erbyn yr hyn a welent fel drygioni mawr eu dydd, a gwnaeth llawer yr aberth eithaf. Mae'n hollol iawn inni eu cofio y penwythnos hwn, a byddwn yn sicrhau na chaiff y cof amdanynt ei ddiffodd yn y ffordd y caiff ei ddiffodd ynglŷn â chymaint o bethau eraill yn y byd hwn.
Rwy'n credu ei bod hi wedi bod yn rhaglen goffa wych dros y pedair blynedd ddiwethaf, a hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am y ffordd y cychwynnodd raglen Cymru'n Cofio yr holl flynyddoedd hynny yn ôl. Rwy'n falch o weld bod y rhaglen waith yn mynd i gael ei hymestyn. Mae rhai dyddiadau pwysig iawn i'w nodi dros y 12 mis nesaf wrth gwrs, gan gynnwys 75 mlynedd ers D-day a rhyddhau 's-Hertogenbosch yn yr Iseldiroedd gan Adran 53 y Milwyr Traed (Cymreig), a ddigwyddodd 75 mlynedd yn ôl i fis Hydref y flwyddyn nesaf. Credaf y byddai'n dda pe gallai gwaith Cymru'n Cofio barhau y tu hwnt i'r amserlen y cafodd ei hymestyn eisoes hyd yn oed, oherwydd bydd dyddiadau milwrol i'w coffáu ar sail barhaus wrth gwrs. Nid oes cymaint â hynny o amser hyd nes y byddwn yn nodi 75 mlynedd ers digwyddiadau eraill yn ystod yr ail ryfel byd, ac 80 a 90 mlynedd yn wir. Felly, credaf fod angen i'r rhaglen goffáu milwrol hon barhau.
Agorodd Mark Isherwood y ddadl hon, wrth gwrs, drwy dynnu sylw at y ffaith nid yn unig fod cynnydd sylweddol wedi'i wneud yn y blynyddoedd diwethaf, ond bod gennym gryn ffordd i fynd i sicrhau bod cefnogaeth gyson ar gael i'n cymuned o gyn-filwyr, yn sicr o ran y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae gennym stori wych i'w hadrodd gyda GIG Cymru i Gyn-filwyr, ond mae amseroedd aros yn rhy hir yn y gwasanaeth hwnnw ar hyn o bryd, a hynny er gwaethaf y gwaith da y mae Help for Heroes wedi'i wneud yn darparu buddsoddiad er mwyn ceisio helpu i lenwi'r bylchau hynny.
Mae'r trydydd sector, wrth gwrs, yn gwneud gwaith aruthrol yn cefnogi ein teuluoedd lluoedd arfog. Soniwyd am y Lleng Brydeinig Frenhinol sawl gwaith heddiw yn barod, yn ogystal â Newid Cam, ond hefyd mae Combat Stress, SSAFA, Alabaré, Woody's Lodge—llu o sefydliadau sy'n cynnig cymorth, a chredaf fod Llywodraeth Cymru i'w chanmol am weithio gyda hwy'n dda iawn i ymestyn y gefnogaeth honno i gymuned y cyn-filwyr. Ond fel y dywedaf, mae llawer mwy o waith i'w wneud, a chredaf fod angen i bawb ohonom bwyso i wneud yn siŵr fod y bylchau sy'n weddill yn y gwasanaethau yn cael eu nodi a'u llenwi.
Hoffwn droi'n fyr iawn, cyn i mi orffen, at fater comisiynydd, a'r angen am gomisiynydd y lluoedd arfog yma yng Nghymru. Wrth gwrs roedd fy mhlaid yn croesawu'r cymorth ychwanegol i swyddogion cyswllt y lluoedd arfog sy'n gweithio ac yn ennill eu plwyf mewn awdurdodau lleol ledled Cymru, a chredaf fod angen inni dalu teyrnged iddynt am eu gwaith. Ond y realiti yw bod y swyddi hynny'n swyddi llai dylanwadol mewn sefydliadau sector cyhoeddus mawr. Ni fydd gan yr unigolion hynny y math o ddylanwad a allai fod gan gomisiynydd y lluoedd arfog i gefnogi personél y lluoedd arfog ledled Cymru sy'n gwasanaethu a'u teuluoedd, ac i gefnogi cyn-filwyr a'u teuluoedd. Rydym wedi gweld effaith, effaith gadarnhaol, comisiynwyr plant a phobl ifanc, pobl hŷn, ac yn wir y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wrth iddi ymgymryd â'i gwaith yn awr, a'r ffordd y gallant symud agenda yn ei blaen mewn ffordd nad yw eraill yn gallu ei wneud. Felly, buaswn yn annog pob Aelod yn y Siambr, gan gynnwys y rhai sy'n dal heb ffurfio barn ar y mater, i gefnogi'r egwyddor o gomisiynydd y lluoedd arfog i Gymru. Oherwydd rwy'n meddwl o ddifrif y byddai'n gwneud gwahaniaeth aruthrol i deuluoedd y lluoedd arfog a chymuned y lluoedd arfog ar draws y wlad. [Torri ar draws.] Ie, iawn.
Hoffwn gyffwrdd ar y gwelliant y mae Neil McEvoy wedi'i gyflwyno hefyd, yn fyr iawn. Ni fyddaf yn gallu cefnogi'r gwelliant hwnnw heddiw, yn syml am eich bod yn cyfeirio at filwyr yn unig. Wrth gwrs, fe wyddom nad milwyr yn unig sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Mae gennych awyrenwyr, mae gennych forwyr, a llu o bobl eraill sy'n cyfrannu at ein lluoedd arfog. Felly, mae'n ddrwg gennyf ond ni fyddaf yn gallu cefnogi eich gwelliant heddiw yn syml oherwydd y cyfyngiadau o ran y ffordd y mae wedi'i eirio. Ond rwy'n gobeithio y bydd pobl yn ailystyried y gefnogaeth i gomisiynydd y lluoedd arfog wrth feddwl sut y maent yn mynd i bleidleisio. Diolch.
Diolch. Rhoddir 15 munud i agor a chau dadl ac os ydych yn cael dau Aelod o'ch plaid, eich lle chi yw trefnu eich amseru.
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Iawn, fe symudwn at y cyfnod pleidleisio, felly. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, fe symudaf ymlaen yn syth at y cyfnod pleidleisio.