7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Lluoedd Arfog

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 6:30, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Ymladdodd 200,000 o Wyddelod ym mrwydrau'r rhyfel byd cyntaf, a bu farw 35,000 ohonynt, a dyna pam rwy'n gwisgo pabi meillionen heddiw, er mwyn nodi eu cyfraniad hwy i'r rhyfel. Oherwydd mae Ysgrifennydd y Cabinet a Mohammad Asghar yn hollol iawn: ymladdodd y Gymanwlad gyfan yn y brwydrau hyn. Roedd dynion Prydeinig ac aelodau o'r lluoedd arfog o bob cwr o'r Gymanwlad yn ymladd ochr yn ochr yn erbyn yr hyn a welent fel drygioni mawr eu dydd, a gwnaeth llawer yr aberth eithaf. Mae'n hollol iawn inni eu cofio y penwythnos hwn, a byddwn yn sicrhau na chaiff y cof amdanynt ei ddiffodd yn y ffordd y caiff ei ddiffodd ynglŷn â chymaint o bethau eraill yn y byd hwn.

Rwy'n credu ei bod hi wedi bod yn rhaglen goffa wych dros y pedair blynedd ddiwethaf, a hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am y ffordd y cychwynnodd raglen Cymru'n Cofio yr holl flynyddoedd hynny yn ôl. Rwy'n falch o weld bod y rhaglen waith yn mynd i gael ei hymestyn. Mae rhai dyddiadau pwysig iawn i'w nodi dros y 12 mis nesaf wrth gwrs, gan gynnwys 75 mlynedd ers D-day a rhyddhau 's-Hertogenbosch yn yr Iseldiroedd gan Adran 53 y Milwyr Traed (Cymreig), a ddigwyddodd 75 mlynedd yn ôl i fis Hydref y flwyddyn nesaf. Credaf y byddai'n dda pe gallai gwaith Cymru'n Cofio barhau y tu hwnt i'r amserlen y cafodd ei hymestyn eisoes hyd yn oed, oherwydd bydd dyddiadau milwrol i'w coffáu ar sail barhaus wrth gwrs. Nid oes cymaint â hynny o amser hyd nes y byddwn yn nodi 75 mlynedd ers digwyddiadau eraill yn ystod yr ail ryfel byd, ac 80 a 90 mlynedd yn wir. Felly, credaf fod angen i'r rhaglen goffáu milwrol hon barhau.

Agorodd Mark Isherwood y ddadl hon, wrth gwrs, drwy dynnu sylw at y ffaith nid yn unig fod cynnydd sylweddol wedi'i wneud yn y blynyddoedd diwethaf, ond bod gennym gryn ffordd i fynd i sicrhau bod cefnogaeth gyson ar gael i'n cymuned o gyn-filwyr, yn sicr o ran y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae gennym stori wych i'w hadrodd gyda GIG Cymru i Gyn-filwyr, ond mae amseroedd aros yn rhy hir yn y gwasanaeth hwnnw ar hyn o bryd, a hynny er gwaethaf y gwaith da y mae Help for Heroes wedi'i wneud yn darparu buddsoddiad er mwyn ceisio helpu i lenwi'r bylchau hynny.

Mae'r trydydd sector, wrth gwrs, yn gwneud gwaith aruthrol yn cefnogi ein teuluoedd lluoedd arfog. Soniwyd am y Lleng Brydeinig Frenhinol sawl gwaith heddiw yn barod, yn ogystal â Newid Cam, ond hefyd mae Combat Stress, SSAFA, Alabaré, Woody's Lodge—llu o sefydliadau sy'n cynnig cymorth, a chredaf fod Llywodraeth Cymru i'w chanmol am weithio gyda hwy'n dda iawn i ymestyn y gefnogaeth honno i gymuned y cyn-filwyr. Ond fel y dywedaf, mae llawer mwy o waith i'w wneud, a chredaf fod angen i bawb ohonom bwyso i wneud yn siŵr fod y bylchau sy'n weddill yn y gwasanaethau yn cael eu nodi a'u llenwi.

Hoffwn droi'n fyr iawn, cyn i mi orffen, at fater comisiynydd, a'r angen am gomisiynydd y lluoedd arfog yma yng Nghymru. Wrth gwrs roedd fy mhlaid yn croesawu'r cymorth ychwanegol i swyddogion cyswllt y lluoedd arfog sy'n gweithio ac yn ennill eu plwyf mewn awdurdodau lleol ledled Cymru, a chredaf fod angen inni dalu teyrnged iddynt am eu gwaith. Ond y realiti yw bod y swyddi hynny'n swyddi llai dylanwadol mewn sefydliadau sector cyhoeddus mawr. Ni fydd gan yr unigolion hynny y math o ddylanwad a allai fod gan gomisiynydd y lluoedd arfog i gefnogi personél y lluoedd arfog ledled Cymru sy'n gwasanaethu a'u teuluoedd, ac i gefnogi cyn-filwyr a'u teuluoedd. Rydym wedi gweld effaith, effaith gadarnhaol, comisiynwyr plant a phobl ifanc, pobl hŷn, ac yn wir y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wrth iddi ymgymryd â'i gwaith yn awr, a'r ffordd y gallant symud agenda yn ei blaen mewn ffordd nad yw eraill yn gallu ei wneud. Felly, buaswn yn annog pob Aelod yn y Siambr, gan gynnwys y rhai sy'n dal heb ffurfio barn ar y mater, i gefnogi'r egwyddor o gomisiynydd y lluoedd arfog i Gymru. Oherwydd rwy'n meddwl o ddifrif y byddai'n gwneud gwahaniaeth aruthrol i deuluoedd y lluoedd arfog a chymuned y lluoedd arfog ar draws y wlad. [Torri ar draws.] Ie, iawn.

Hoffwn gyffwrdd ar y gwelliant y mae Neil McEvoy wedi'i gyflwyno hefyd, yn fyr iawn. Ni fyddaf yn gallu cefnogi'r gwelliant hwnnw heddiw, yn syml am eich bod yn cyfeirio at filwyr yn unig. Wrth gwrs, fe wyddom nad milwyr yn unig sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Mae gennych awyrenwyr, mae gennych forwyr, a llu o bobl eraill sy'n cyfrannu at ein lluoedd arfog. Felly, mae'n ddrwg gennyf ond ni fyddaf yn gallu cefnogi eich gwelliant heddiw yn syml oherwydd y cyfyngiadau o ran y ffordd y mae wedi'i eirio. Ond rwy'n gobeithio y bydd pobl yn ailystyried y gefnogaeth i gomisiynydd y lluoedd arfog wrth feddwl sut y maent yn mynd i bleidleisio. Diolch.