Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Wel, nid oes angen i fusnesau dilys ofni, wrth gwrs. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gwerthuso effaith cyflwyno premiymau treth gyngor. Mae hynny'n cynnwys arolwg o awdurdodau lleol, i asesu faint o eiddo sydd wedi newid o'r dreth gyngor i ardrethi annomestig. Ar ôl i'r arolwg hwnnw gael ei gwblhau, gallwn weld wedyn beth yw maint y broblem, a pha un a oes angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl yn talu'n briodol, yn unol â statws yr eiddo y maen nhw'n berchen arno.