Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Mae'n amlwg fod yr ansicrwydd o gwmpas y taliadau pensiwn yma yn creu problemau mawr ar lawr gwlad, ac nid ydym ni'n glir o gwbl beth fydd y mecanwaith ar gyfer darparu'r arian ychwanegol yma. Pa drafodaethau ydych chi'n eu cael, felly, efo'r Trysorlys, efo'ch Aelodau Seneddol chi yn San Steffan ac, yn wir, efo'r undebau addysg ynglŷn â'r broblem yma?