Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Rydym ni wedi ysgrifennu, gyda'r Alban, i alw am y newidiadau ynglŷn â'r pensiynau athrawon, a dylai hynny gael ei gyllido gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Nhw, wrth gwrs, sydd wedi creu'r sefyllfa, ac mae'r un peth yn yr Alban, fel rwy'n deall, ac felly rydym ni wedi ysgrifennu gyda'n gilydd er mwyn dweud, 'Chi sydd wedi mynnu dodi'r gost hyn ar awdurdodau lleol, felly chi ddylai dalu.'