Anghydraddoldebau Iechyd ym Merthyr Tudful a Rhymni

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 13 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:55, 13 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, ceir tystiolaeth gyson i awgrymu bod buddsoddiad yn y blynyddoedd cynnar yn gwella canlyniadau iechyd, cymdeithasol ac economaidd yn sylweddol. Felly, datblygwyd ein rhaglen Plant Iach Cymru gyda chynnig GIG cyffredinol safonol i bob teulu sydd â phlant rhwng dim a saith oed. Mae hynny'n cynnig amrywiaeth gyson o fesurau ataliol ac ymyrraeth gynnar ac, yn bwysig, canllawiau i gynorthwyo rhianta a dewisiadau ffordd iach o fyw. Mae hefyd yn nodi teuluoedd sydd angen cymorth ychwanegol. Felly, dyna un enghraifft, y rhaglen honno, o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i sicrhau bod y mater o ordewdra yn cael sylw yn gynnar ym mywyd plentyn, cyn i arferion anodd ddechrau ffurfio.