1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Tachwedd 2018.
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ52928
Mae'n un o uchelgeisiau canolog y Llywodraeth fod pawb yng Nghymru yn cael cyfle teg i fyw bywyd iach, ni waeth beth yw eu cefndir neu ym mha le maen nhw'n byw. Rydym ni'n parhau i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd trwy gymryd camau cenedlaethol a lleol, ac ar draws y Llywodraeth.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Er gwaethaf y buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau iechyd yn fy etholaeth i, gallwn weld bod tueddiad iechyd sy'n peri pryder yn parhau o hyd ymhlith y boblogaeth leol. Byddwch yn ymwybodol bod adroddiad blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru yn 2016 wedi tynnu sylw at yr annhegwch cymdeithasol sy'n effeithio ar ardaloedd fel Merthyr Tudful a Rhymni. Nawr, mae'n rhaid i gyllid digonol i wasanaethau iechyd a gofal lleol i oresgyn yr anghydraddoldebau hyn barhau i fod yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd i ddod, ond o gofio bod yr anghydraddoldebau hyn yn parhau'n ystyfnig, beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau nad yw incwm a dosbarth cymdeithasol yn parhau i fod yn rhwystrau i iechyd da?
Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol yn flaenoriaeth traws-Lywodraeth, fel y dangosir gan y ffaith ei fod yn un o uchelgeisiau canolog 'Ffyniant i Bawb'. I roi enghreifftiau o raglenni'r Llywodraeth sy'n mynd i'r afael ag achosion sydd wrth wraidd anghydraddoldebau iechyd, maen nhw'n cynnwys rhaglenni cyflogaeth, tai o ansawdd a mynediad at ofal plant. Maen nhw'n cael eu cyfuno â rhaglenni i fynd i'r afael ag ymddygiad iachus a gwell mynediad at ofal iechyd, gan ein bod ni'n gwybod y bydd hynny'n lleihau rhwystrau i iechyd da hefyd. Ac, wrth gwrs, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu ysgogiad newydd i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol parhaus anghydraddoldebau iechyd trwy weithio'n wahanol gyda phartneriaid, ymyrryd yn gynharach a hyrwyddo gwell integreiddio rhwng gwasanaethau.
Prif Weinidog, mae gan Ferthyr Tudful y lefel uchaf o ordewdra ymhlith plant yng Nghymru. Mae un deg saith y cant o blant ym Merthyr Tudful yn ordew, sy'n fwy na dwywaith ffigur Bro Morgannwg. Yng ngoleuni'r ffaith mai diabetes yw'r argyfwng iechyd sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i dargedu ardaloedd o ordewdra uchel ymhlith plant, fel Merthyr Tudful, i leihau'r pwysau ar y GIG yng Nghymru yn y dyfodol, os gwelwch yn dda?
Wel, ceir tystiolaeth gyson i awgrymu bod buddsoddiad yn y blynyddoedd cynnar yn gwella canlyniadau iechyd, cymdeithasol ac economaidd yn sylweddol. Felly, datblygwyd ein rhaglen Plant Iach Cymru gyda chynnig GIG cyffredinol safonol i bob teulu sydd â phlant rhwng dim a saith oed. Mae hynny'n cynnig amrywiaeth gyson o fesurau ataliol ac ymyrraeth gynnar ac, yn bwysig, canllawiau i gynorthwyo rhianta a dewisiadau ffordd iach o fyw. Mae hefyd yn nodi teuluoedd sydd angen cymorth ychwanegol. Felly, dyna un enghraifft, y rhaglen honno, o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i sicrhau bod y mater o ordewdra yn cael sylw yn gynnar ym mywyd plentyn, cyn i arferion anodd ddechrau ffurfio.