Ail Gartrefi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 13 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:38, 13 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Rydym ni wedi deddfu i ganiatáu i awdurdodau lleol godi premiymau treth gyngor ar ail gartrefi. Fel y dywedais yn yr ateb yn gynharach, cyfrifoldeb Asiantaeth y Swyddfa Brisio—yn annibynnol ar y Llywodraeth—yw pennu statws pob eiddo yng Nghymru. Fel y dywedais, gallai'r perchnogion ail gartrefi hynny sy'n ceisio twyllo'r system ganfod eu hunain yn wynebu biliau wedi'u hôl-ddyddio mawr iawn ar gyfer y dreth gyngor. Ond, unwaith eto, cyfeiriaf at yr ateb a roddais yn gynharach, sy'n golygu bod adolygiad yn cael ei gynnal, i archwilio maint y broblem mewn gwahanol rannau o Gymru.