Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Mae'n un o uchelgeisiau canolog y Llywodraeth fod pawb yng Nghymru yn cael cyfle teg i fyw bywyd iach, ni waeth beth yw eu cefndir neu ym mha le maen nhw'n byw. Rydym ni'n parhau i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd trwy gymryd camau cenedlaethol a lleol, ac ar draws y Llywodraeth.