Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n cytuno â chi: mae'r gwaith y maen nhw wedi ei gomisiynu yn rhoi sylfaen dystiolaeth gadarn, sef y math o waith dwys a all arwain wrth gwrs at newidiadau cadarnhaol i bolisi a chamau gweithredu'r Llywodraeth. Gadewch i ni gofio bod dros 1 filiwn o bobl yn byw yn nhrefi Cymru. Rydym ni'n clywed llawer am fargeinion dinesig, ond sut ydych chi'n teimlo y gall bargen dwf canolbarth Cymru bosibl rymuso'r rhai sy'n byw yn nhrefi'r canolbarth i nodi a hyrwyddo eu trefi? Mae'r adroddiad a gomisiynwyd hefyd yn sôn am syniadau yn dod o lawr gwlad i fyny. Felly, sut ydych chi'n credu y gall bargen dwf canolbarth Cymru bosibl gefnogi'r nod hwnnw?